Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Swyddog Dadebru
Gradd 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Hysbyseb Swyddog Dadebru
Mae gennym gyfle cyffrous i gynnig y rôl newydd hon ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd y Swyddog Dadebru yn darparu:
· goruchwyliaeth broffesiynol o'r trefniadau ar gyfer Gwasanaethau Dadebru o fewn gwasanaeth cymunedol gwledig i fodloni'r safonau a nodwyd gan y Cyngor Dadebru (DU).
· cyngor proffesiynol ar faterion gan gynnwys datblygu polisi, hyfforddiant, materion llywodraethu clinigol, offer, a dadansoddi digwyddiadau.
· rheoli'r gwaith o ddarparu rhaglenni Cymorth Bywyd Sylfaenol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a rhaglenni hyfforddi sgiliau clinigol.
Bydd cyfran sylweddol o'r rôl yn darparu hyfforddiant cymorth bywyd i bob lefel o staff ac felly bydd angen i chi feddu ar sgiliau addysgu ac asesu profedig - gellir dod o hyd i ragor o fanylion yn y Swydd Ddisgrifiad atodedig.
Os ydych chi'n meddwl bod y cyfle cyffrous hwn i ddatblygu gyrfa at eich dant chi, yna gwnewch gais nawr.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu goruchwyliaeth broffesiynol o'r trefniadau ar gyfer Gwasanaethau Dadebru o fewn gwasanaeth cymunedol gwledig i fodloni'r safonau a nodwyd gan y Cyngor Dadebru (DU).
Darparu cyngor proffesiynol ar faterion gan gynnwys datblygu polisi, hyfforddiant, materion llywodraethu clinigol, offer, a dadansoddi digwyddiadau.
Rheoli’r broses o ddarparu rhaglenni Cymorth Bywyd Sylfaenol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a rhaglenni hyfforddi sgiliau clinigol, sy'n mynd i'r afael ag anghenion proffesiynol a datblygu gwasanaeth staff clinigol a staff eraill. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant ar drefniadau gofalu am glaf sy'n dirywio, Sgoriau Rhybudd Cynnar Cenedlaethol, a hyfforddiant sepsis.
Bydd y swydd hon yn hanfodol wrth gefnogi'r Bwrdd Iechyd i gyflawni'r amcan strategol o ddatblygu gweithlu clinigol cymwys ac effeithiol gyda lefelau priodol o sgiliau i fodloni gofynion y gwasanaeth presennol ac yn y dyfodol.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- NMC/HCPC/GMC Registered healthcare professional
- Recognised teaching qualification e.g. Post Graduate certificate of education (PGCE)
- Resuscitation Council (UK) ILS Instructor or willingness to complete course within 3 months of appointment
- Knowledge of legal and ethical aspects of health care
- Understand research and audit methods
- Evidence of ongoing CPD
Experience
Meini prawf hanfodol
- Extensive post registration experience in use of a wide range of relevant clinical skills and medical devices
- Experience of teaching and/or presenting to a range of service users
- Experience of clinical audit
- Understanding of Resuscitation Council (UK) guidelines and requirements
Meini prawf dymunol
- Experience in using simulation mannequins including ‘Resus Annie’ and other relevant equipment
Aptitude and Abilities
Meini prawf hanfodol
- Highly developed communication skills, and able to communicate with staff at all levels
- Assessment and audit skills
- Highly developed presentational skills in both theory and practice
- Good organisational, planning, and problem-solving skills
- Evidence of ability to work without supervision and manage time effectively
- Able to work under pressure and to tight timescales
- Evidence of ability to work within a team effectively
- IT experience of frequently used Microsoft applications and tools including PowerPoint, MS Teams, Outlook, spreadsheet tools
- Organised and systematic
- Good analytical skills
- Excellent judgement skills
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Values
Meini prawf hanfodol
- Demonstrate PTHB Values
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel within geographical area (Powys wide)
- Able to work hours flexibly
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona Price
- Teitl y swydd
- Head of Clinical Education
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector