Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Speech and Language Therapist
Gradd 5
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn falch iawn o fod yn cynnig swydd barhaol 1.0 ar gyfer Therapydd Iaith a Lleferydd brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n tîm plant sy’n fach a chyfeillgar o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Bydd gennych y cyfle i ennyn profiad a gweithio o fewn ystod eang o feysydd clinigol, gan gynnwys, Dechrau'n Deg, Y Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion arbennig ac ysgolion prif ffrwd.
Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig iawn ac yn meddu ar y gallu i weithio’n annibynnol, ond hefyd fel rhan o dîm. Os ydych chi’n chwilio am her newydd ac yn awyddus i fod yn rhan o dîm blaengar ac arloesol, yna cysylltwch â ni i drafod y cyfle cyffrous hwn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Byddwch yn gweithio gyda’r tîm Therapi Iaith a Lleferydd gan gynnig asesiadau, diagnosis ac ymyriad/rheolaeth o blant. Bydd gennych y cyfle i weithio o fewn ystod eang o feysydd clinigol i gefnogi plant sydd ag ystod o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Bydd gennych gefnogaeth gan dîm o Therapyddion Arbenigol Iaith a Lleferydd medrus iawn ar draws sawl arbenigedd.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei gefnogi'n dda ac yn rhan o'n rhwydwaith goruchwylio cyfoedion band 5, yn ogystal â chael cefnogaeth i gwblhau cymwyseddau NQP Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT) (lle bo angen). Mae gennym sesiynau goruchwylio rheolaidd ac mae gennym ethos cryf i gefnogi staff i ddatblygu ochr yn ochr â system arfarnu’r ymddiriedolaeth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Disgrifir Powys fel lle hyfryd i fyw ac i weithio; lleoliad iechyd yn y cefn gwlad lle gallwch ddatblygu yn bersonol ac yn broffesiynol, a lle mae’r cleifion yn ganolog i’r ddarpariaeth. Os ydych chi’n weithiwr iechyd proffesiynol yn chwilio am bodlonrwydd yn eich gyrfa, yna Powys yw’r lle. Beth bynnag yw eich dyheadau gyrfa, rydym yn ymrwymedig i’ch cefnogi a’ch datblygu.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyfrifol am fodloni anghenion iechyd a lles poblogaeth Powys. Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac o Eryri yn y golgedd i’r Bannau yn y de, mae’n un o’r harddaf hefyd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym yn comisiynu, ac wedi ennill gwobrau am ddarparu, gofal mewn ysbytai, yn y gymuned, iechyd meddwl, a gwasanaethau anableddau dysgu, felly mae’n porffolio’n eang ac amrywiol. Rydym yn falch o gynnig gofal heb ei ail i’n cleifion ac ystod o yrfaoedd i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn.
Oeddech chi’n gwybod – Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn ceisiadau i ymddeol a dychwelyd o fewn GIG Cymru. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â thîm y gweithlu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar 01874 712580 neu [email protected]
Mae Step into Health yn cysylltu cyflogwyr yn y GIG â phobl o gymuned y Lluoedd Arfog.
Croeso i ymgeiswyr ymgeisio yn y Gymraeg, ni chaiff cais yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol nag un yn y Saesneg.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Ddisgrifiad Swydd llawn a Manyleb Person ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud Cais nawr” i'w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Knowledge and Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Recognised qualification degree in Speech and Language Therapy
- Registered with Health and Care Professions Council
Experience
Meini prawf hanfodol
- A range of experience in children's services
- Work experience/Student placements within health / social care settings
- Experience of a range of assessment and therapeutic techniques within clinical area
Meini prawf dymunol
- Experience of supporting others
- Experience of working within and MDT or with other professionals
Aptitude & Abilities
Meini prawf hanfodol
- Excellent communication skills – written and verbal
- Ability to cope in a busy environment through periods of interruption throughout the day
- Able to work as part of a team
- Ability to critically appraise performance
Meini prawf dymunol
- Ability to speak Welsh
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sarah Rate
- Teitl y swydd
- Professional Head of Speech and Language Therapy
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754453117
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector