Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd arbenigol CAMHS
Band 6
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 8 MIS OHERWYDD CYLLID. OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), yn darparu asesiad a gwasanaethau therapiwtig i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sydd wedi’u hatgyfeirio o’r tu mewn i’r gwasanaeth presennol. Bydd gan gleientiaid anawsterau seicolegol, emosiynol ac iechyd meddwl difrifol, cymhleth a pharhaus. Bydd deiliad y swydd yn cyflawni’r broses hon mewn ymgynghoriad â’r cleient a’r teulu, cyd-aelodau’r tîm,
gweithwyr proffesiynol eraill a’r atgyfeiriwr, fel bo’n briodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydyn ni’n edrych am ymarferydd arbenigol, llawn cymhelliant i ymuno â’n Gwasanaeth CAMHS. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn gwasanaeth cymunedol ar draws cymunedau Gogledd Powys.
Mae CAMHS Powys yn gweithio o fewn ethos gwasanaeth cyfan, gan gefnogi ein gilydd ac annog datblygiad unigol a chydnabyddiaeth o sgiliau unigryw. Mae yna gyfleoedd i hyfforddi a datblygu gyrfa. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn amgylcheddau clinigau a chartrefi ac ar draws amrywiaeth o anawsterau emosiynol ac anawsterau iechyd meddwl. Fel rhan o’r rôl, bydd disgwyl ichi weithio’n ddwys ac yn hyblyg â phlant i’w gwneud hi’n llai tebygol y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i mewn i’r ysbyty, yn ogystal â phan y byddan nhw’n cael eu rhyddhau.
Mae gan CAMHS Powys gysylltiadau sydd wedi’u hen sefydlu ag asiantaethau sy’n bartneriaid, gwasanaethau CAMHS cyfagos a sefydliadau addysgol. Anogir unigolion i weithio’n annibynnol, gyda chefnogaeth a chyfarwyddyd priodol oddi wrth uwch aelodau’r tîm.
Mae datblygu sgiliau arweinyddiaeth yn cael ei harneisio a’i annog yn bositif ar draws y gwasanaeth. Anogir darpar ymgeiswyr i gysylltu i drafod y swydd yn fanylach.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg ymgeisio.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications and/or Knowledge
Meini prawf hanfodol
- Nursing qualification (RMN) (RMNLD) or (RSCN) or School Nursing Qualification, Occupational Therapist, or Social Worker
- Specialist training/ experience in working within CAMHS or in a setting with children experiencing Mental Health, emotional Health or Behavioural difficulties
Meini prawf dymunol
- Specialist knowledge / training / experience in mental health difficulties in children and adolescents
- Capacity to interact therapeutically with children and young people with mental health difficulties
- Expertise and specialist skills in working with complex cases
- Knowledge and understanding of NICE guidelines
- Safeguarding policies, risk management and identifying areas of risk
- Knowledge of fair access and non-discriminatory practice
- An understanding of the skills needed to provide clinical supervision and some experience of delivering supervision and consultation
- Significant post registration experience of working with children and adolescents with severe and complex mental health problems
- Significant experience in a psychological therapy, e.g. Family Therapy, CBT, SFBT implementing evidencebased treatment plans and packages of care within a recognised therapeutic framework
Experience
Meini prawf hanfodol
- Capacity to engage with and build therapeutic relationships with children and young people
- Experience/skills in risk assessment and risk management planning
- Able to use initiative and prioritise own workload
Meini prawf dymunol
- Post registration experience of working therapeutically with children and adolescents who are suffering from severe and enduring mental health problems
- Ability to provide consultation and supervision to other professionals
Other
Meini prawf hanfodol
- Ability to travel according to needs of the job
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jenni Metcalfe
- Teitl y swydd
- Team Lead South
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01874 615662
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
I gael rhagor o fanylion / ymweliadau anffurfiol, cysylltwch â:
Lisa Harding – Arweinydd Tîm y Gogledd
01686 61745007966995907
Neil Bovingdon – Rheolwr Gweithredol
01874 615662
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector