Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Nyrsio
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Cyfnod Penodol: 8 mis
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 070-NMR113-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- I'w gytuno / Anecs Canolfan Blant Ysbyty Aberhonddu
- Tref
- Aberhonddu
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 14/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Addysgu Powys logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/378.png)
Nyrs Glinigol Arbenigol (Presgripsiynydd Annibynnol)
Gradd 7
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD AM 8 MIS CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Rydym yn chwilio am aelod o staff cymwys, uchel ei gymhelliant gyda lefel berthnasol o brofiad ac addysg i ymuno â Thîm Niwroddatblygiadol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys . Mae gan y tîm swydd wag ar gyfer Rhagnodydd Anfeddygol i gefnogi’r gwaith gydag asesiadau ADHD ar sail Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2025.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae’r tîm yn darparu asesiad ac ymyrraeth ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â / neu yr amheuir bod ganddynt gyflwr Niwroddatblygiadol (Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth / Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd).
Bydd angen yr hyfforddiant a'r cymwysterau priodol mewn rhagnodi ar yr ymgeisydd llwyddiannus a phrofiad o weithio gyda chyflyrau niwroddatblygiadol, a chyda phlant. Bydd yr ymgeisydd yn cael ei gefnogi gan y tîm a bydd goruchwyliaeth a chefnogaeth yn eu lle yn ôl yr angen.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cyfartal i siaradwyr Saesneg a/neu Gymraeg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir cyfeirio at brif rôl a chyfrifoldebau'r swydd Nyrs Glinigol Arbenigol (Presgripsiynydd Annibynnol) yn y disgrifiad swydd..
Manyleb y person
Cymwysterau a/neu Wybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster iechyd cydnabyddedig sy'n berthnasol i arbenigedd gan gynnwys cofrestriad proffesiynol e.e. Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Cymhwyster lefel Meistr neu brofiad cyfatebol amlwg o weithio ar y lefel hon
- Cymhwyster Rhagnodydd Anfeddygol neu weithio tuag ato
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster addysgu / hyfforddi
- Hyfforddiant mewn dulliau seicolegol ar sail tystiolaeth e.e. CBT
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol o weithio mewn maes gwasanaeth perthnasol
- Y gallu i asesu a gweithredu ystod o ymyriadau therapiwtig ar sail tystiolaeth
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli tîm
- Profiad o ddarparu goruchwyliaeth glinigol
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mary Cottrill
- Teitl y swydd
- Head Childrens Public Health Nursing & Paediatrics
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07824407656
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector