Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Public Health Advisor
Gradd 3
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â’r Gwasanaeth Diogelu Iechyd newydd ym Mhowys. Mae'r Cynorthwyydd Diogelu Iechyd yn rôl aml-sgiliau gan ddefnyddio sgiliau, profiad a dysgu i gyfrannu at bartneriaeth gref a chynaliadwy Gwasanaeth Diogelu Iechyd Powys.
Bydd y rôl llawn amser/rhan amser hon yn gweithio ar draws y gwasanaeth fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ystwyth, gan gefnogi'r meysydd canlynol i ddechrau • Diogelu Iechyd • Cynllunio at Argyfyngau • Gwella Iechyd
Mae hwn yn gyfle datblygu sy’n ddelfrydol i rywun sy'n gweld dyfodol ym maes Iechyd Cyhoeddus ehangach.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon
Prif ddyletswyddau'r swydd
Gan weithio dan oruchwyliaeth, bydd disgwyl i chi ddarparu cymorth, cyngor/addysg diogelu iechyd i unigolion a chymunedau ym Mhowys i atal heintiau neu ddod i gysylltiad pellach â chlefydau heintus. Bydd hyn yn cynnwys y gallu i deithio, gydag offer ysgafn, a gweithio o wahanol safleoedd ym Mhowys i gefnogi gwaith cymunedol a gweithgareddau allgymorth.
Byddwch yn cyflawni rôl hanfodol ar gyfer rheoli digwyddiadau/achosion trwy gasglu samplau, e.e. swabiau, cymryd samplau gwaed, yn ôl canllawiau cenedlaethol a lleol / gweithdrefnau gweithredu safonol a chwarae rhan wrth sicrhau bod y samplau hyn yn cael eu cludo'n gywir i labordai.
Byddwch hefyd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau i wella iechyd fel bwyta'n iach a brechiadau. Bydd hyn yn gofyn am ddull hyblyg ac addasadwy gydag agwedd dosturiol sy'n canolbwyntio ar gleifion.
Gweithio i'n sefydliad
Mae bod y Bwrdd Iechyd lleiaf yng Nghymru yn golygu na fyddwch byth yn mynd ar goll yn y dorf. Mae pawb ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniad at ein portffolio amrywiol o wasanaethau cymunedol. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n cleifion ac adeiladu ar ein henw da di-dor.
Fel cyflogwr cefnogol a blaengar, rydym yn eich annog i lywio eich gyrfa gyda ni, trwy ystod eang o lwybrau datblygu. Rydym hefyd yn ffodus iawn i fod un o'r siroedd gwledig harddaf yng Nghymru, ac ym Mhrydain ehangach! Mae sicrhau cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i ni, ac yn rhywbeth rydym yn ei gydnabod drwy flaenoriaethu eich lles.
I ddechrau eich taith gyda ni, ac i ddysgu mwy am yr hyn y gallwn ei gynnig i chi, ewch i: https://biap.gig.cymru/gweithio-i-ni/. Yno, cewch wybodaeth am ein manteision a'n gwerthoedd, darllen profiadau staff a mwy am yr hyn sydd gan ein sir hardd i'w gynnig.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Yn dilyn Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, byddwch yn cyfrannu at reoli peryglon heintus ac amgylcheddol ym Mhowys, cefnogi'r ymateb i
Yn dilyn Gweithdrefnau Gweithredu Safonol, byddwch yn cyfrannu at reoli peryglon heintus ac amgylcheddol ym Mhowys, cefnogi'r ymateb i unrhyw ddigwyddiadau diogelu iechyd a chefnogi prosiectau amddiffyn a hyrwyddo iechyd rhagweithiol. Ymgymryd â gwaith a gweithgareddau prosiect diogelu iechyd rhagweithiol i hyrwyddo ymyriadau newid ymddygiad ar gyfer trigolion a chymunedau Powys, yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt. Bydd disgwyl i chi weithio'n annibynnol mewn sesiynau cymunedol i ddarparu hyfforddiant, ond hefyd fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i ymgymryd â phrosiectau ehangach sy'n gysylltiedig ag iechyd. Defnyddio sgiliau cyfathrebu rhagorol dros y ffôn, Outlook, a Teams i hwyluso gweithio gyda chydweithwyr sydd wedi'u lleoli mewn gwahanol safleoedd ym Mhowys neu'n gweithio o bell. Cefnogi'r Tîm Diogelu Iechyd gyda thasgau gweinyddu os oes angen/yn ôl yr angen, e.e. creu/cynnal taenlenni ar gyfer cydlynu tasgau, cynorthwyo gyda chynhyrchu deunyddiau hyrwyddo/addysgiadol gan ddefnyddio PowerPoint neu becynnau eraill. Gweithio'n hyblyg ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) a Chyngor Sir Powys (CSP), o amrywiaeth o leoliadau. Gallu teithio ledled Powys mewn modd amserol, i safleoedd yn ôl yr angen i gynnal ymweliadau cymunedol/gweithgareddau allgymorth.
|
Manyleb y person
English
Meini prawf hanfodol
- NVQ Level 3 (ideally in Health and Social Care) or equivalent experience
- Assisting and supporting patients to promote their own wellbeing
- Computer literate and experience of using Microsoft packages including Word, Excel, Outlook
Meini prawf dymunol
- Clinical skills including phlebotomy, ECG, blood pressure checks, wound care, sampling e.g. nasal/throat/skin swabs, vaccination
- Experience of working within the NHS
- Ability to plan and prioritise work effectively
English
Meini prawf hanfodol
- Good general level of education e.g.5x GCSE (or equivalent) grade C or above
Meini prawf dymunol
- Clinical skills including phlebotomy, ECG, blood pressure checks, wound care, sampling e.g. nasal/throat/skin swabs, vaccination
English
Meini prawf hanfodol
- HCA Certificate
- Computer literate
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Nid yw sgiliau iaith Gymraeg yn angenrheidiol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mary Morton or Chelsea Robinson
- Teitl y swydd
- Clinical Nurse Specialist - Health protection
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector