Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Pennaeth Comisiynu
Gradd 8b
Byddwch yn rhan o 'Bowys Iach a Gofalgar' a’n helpu ni i drawsnewid y ffordd rydym yn darparu gwasanaeth iechyd a gofal, fel y gall ein cymunedau Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Pennaeth Comisiynu. Rydym yn recriwtio Pennaeth Comisiynu sy'n gallu dangos arweinyddiaeth strategol gref, sydd â llwyddiant blaenorol o ragoriaeth ac ag angerdd dros fwrw ymlaen a gwneud newid.
Bydd y swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth arwain y gwaith comisiynu ar draws portffolio o ddarparwyr gwasanaethau a gomisiynwyd o fewn system gofal iechyd Cymru a Lloegr.
Bydd y rôl yn cynnig arweinyddiaeth, rheolaeth strategol a phroffesiynol o'r agenda gomisiynu ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan ddarparu arbenigedd i gefnogi'r Gyfarwyddiaethau ac Adrannau Corfforaethol, ac i sicrhau bod gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys brosesau effeithiol ar waith ar gyfer comisiynu gwasanaethau cadarn i boblogaeth Powys.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cwmpasu'r ardal ddaearyddol fwyaf ymhlith sefydliadau'r GIG yng Nghymru, gydag ystod unigryw o heriau a chyfleoedd. Rydym yn cyflogi bron i 2,500 aelod o staff ac yn gwario oddeutu £375 miliwn y flwyddyn ar gynnig a chomisiynu gwasanaethau iechyd a lles i boblogaeth Powys. Mae hon yn rôl allweddol o fewn yr uwch dîm comisiynu, yn gweithio gydag uwch rheolwyr a chlinigwyr o fewn y Bwrdd Iechyd, yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau partner.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ydych chi’n unigolyn eithriadol sy'n gallu dangos arweinyddiaeth strategol gref, sydd â llwyddiant blaenorol o gomisiynu, datblygiad gwasanaeth a gwella ansawdd, yn ogystal ag angerdd dros fwrw ymlaen a gwneud newid? Oes gennych chi lwyddiant blaenorol o ddarparu eich portffolio proffesiynol a phortffolio arwain, yn ddelfrydol mewn amgylchedd iechyd a gofal cymdeithasol gwledig ac integredig?
Ydych chi'n chwilio am rôl lle bydd eich arweinyddiaeth, eich awydd a'ch natur benderfynol yn lliwio’r gwaith datblygu, dylunio a darparu'r portffolio comisiynu ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n gweithio ar draws GIG Cymru a darparwyr gwasanaethau GIG Lloegr?
Os ydych, mae gennym gyfle ar gyfer Pennaeth Comisiynu o fewn yn un o leoliadau harddaf y DU, yn ymestyn o Fannau Brycheiniog i fryniau Eryri, o'r Gororau i Fynyddoedd Cambria, mae Powys yn ardal anhygoel i fyw.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Fel bwrdd iechyd o fewn sir wledig Powys, rydym yn darparu cymaint o wasanaethau mor ddiogel â phosibl yn lleol; drwy feddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill, rhwydwaith o ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol, gan gynnwys gwasanaethau a arweinir gan fydwragedd, iechyd meddwl, anableddau dysgu, gwasanaethau plant, adsefydlu oedolion a gwasanaethau eiddilwch. Ynghyd â hyn, mae gennym rôl gomisiynu sylweddol yn gweithio gyda darparwyr yng Nghymru a Lloegr.
Mae ein Strategaeth Iechyd a Gofal uchelgeisiol yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol iach a gofalgar Powys. Mae'n disgrifio sut mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys, byddwn yn canolbwyntio ar les, yn sicrhau cymorth a chefnogaeth gynnar, yn mynd i'r afael â'r prif amodau sy'n cyfyngu ar fywyd, ac yn darparu gofal cydgysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys cynyddu gallu a gwydnwch gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, gwella integreiddio drwy'r llwybr iechyd a gofal, a chryfhau ein gwaith o gynllunio a chomisiynu gwasanaethau o ansawdd uchel gan sefydliadau cyfagos.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Qualifications
Meini prawf hanfodol
- Educated to master's level or equivalent
- Detailed knowledge of NHS Wales and NHS England commissioning and contracting processes
- Detailed knowledge of funding mechanisms and financial flows in the NHS
- Extensive expertise, knowledge and understanding of business planning, budget setting, people management and quality improvement
Meini prawf dymunol
- Knowledge of project and programme management techniques
- Diploma in Healthcare Planning
Experience
Meini prawf hanfodol
- Working at senior managerial level within health or social care
- Contracting and business case development
- Leading a team
- Creating and sustaining positive relationships with staff and stakeholders
- Implementing change and managing complex projects
- Understanding of the political agenda around Health and Social Care
- Able to provide and receive highly complex and sensitive information
- Ability to work on own initiative
- Understanding of the importance of maintaining confidentiality
Aptitude and abilities
Meini prawf hanfodol
- Highly developed interpersonal skills with ability to build relationships at all levels
- Negotiate and influence effectively with internal and external contacts
- Ability to interpret large amounts of complex information and make appropriate strategic and operational decisions
- Possess excellent communication, presentation and facilitation skills
- Ability to work autonomously and equally effective as part of a multi-disciplinary team
- Demonstrable ability to work on multiple complex tasks simultaneously and produce high quality work within tight deadlines and within resource constraints
- Ability to think innovatively and develop new ways of working, continuously striving to improve systems and performance
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Christopher Moss
- Teitl y swydd
- Assistant Director Performance and Commissioning
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector