Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Pobl a Datblygu Sefydliadol
Gradd
Executives / VSM: Executives / VSM
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-EDPOD-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Lleoliad yng Ngogledd Cymru i’w gytuno
Tref
St Asaph
Cyflog
Cystadleuol
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
18/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Pobl a Datblygu Sefydliadol

Executives / VSM: Executives / VSM

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n arweinydd blaengar sy'n angerddol dros  ragoriaeth gofal iechyd a hanes llwyddiannus o arwain sefydliadau trwy newid diwylliannol? Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dymuno penodi gweithiwr proffesiynol strategol sy'n cael ei ysgogi gan ganlyniadau i ymuno â'r sefydliad fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Pobl a Datblygiad Sefydliadol.

 

BIPBC yw un o’r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol integredig mwyaf yn y DU, yn gwasanaethu poblogaeth Gogledd Cymru ar draws chwe sir. Mae’n darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, acíwt ac arbenigol ar draws 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae BIPBC hefyd yn cydlynu neu’n darparu gwaith practisau meddygon teulu a’r gwasanaethau GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar draws y rhanbarth.

 

Fel Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Pobl a Datblygu Sefydliadol (POD), byddwch yn chwarae rhan allweddol o ran llunio dyfodol gweithlu BIPBC a sbarduno newid diwylliannol cadarnhaol ar draws y sefydliad.

 

Mae'r sefydliad wedi gwneud cynnydd sylweddol o safbwynt gweithredol yn ystod y 12 mis diwethaf dan arweiniad Carol Shillabeer y Prif Weithredwr newydd a'r Tîm Gweithredol ac mae'n dymuno penodi Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Pobl a Datblygu Sefydliadol i helpu i ysgogi rhagor o welliannau.

Felly mae BIPBC yn dymuno penodi arweinydd Pobl profiadol, blaengar a deinamig i helpu i arwain y Bwrdd Iechyd trwy gamau nesaf y daith drawsnewid. Bydd gennych hanes llwyddiannus o sicrhau newid mewn sefydliadau cymhleth, yn benodol drwy newid diwylliant, byddwch yn frwd dros greu timau a diwylliant cadarnhaol, cynhwysol sy'n perfformio ar lefel uchel.

 

Os ydych yn barod i ddylanwadu'n sylweddol ar ddyfodol gofal iechyd yng Ngogledd Cymru, yn meddu ar y sgiliau a'r profiad angenrheidiol, trowch at www.odgers.com/91918 i weld rhagor o wybodaeth a chyflwyno cais.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae'r cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:

Arweinyddiaeth Strategol: Arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r agweddau Pobl ar nodau ac amcanion y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn gwasanaethu anghenion adrannau clinigol ac anghlinigol ar draws y sefydliad ac yn gweithio mewn partneriaeth â staff a chynrychiolwyr staff.

 

Datblygu Sefydliadol: Ysgogi mentrau i wella effeithiolrwydd sefydliadol, meithrin diwylliant o arweinyddiaeth dosturiol, gwelliant parhaus, a hyrwyddo ymgysylltiad gweithwyr. Datblygu capasiti a gallu arweinwyr ar bob lefel yn y sefydliad i gynorthwyo i sicrhau perfformiad gwella a sicrhau gweithlu sy'n hyblyg, yn gryf ei gymhelliant ac yn barod i gyfranogi.

 

Rheoli Doniau: Datblygu strategaethau recriwtio arloesol i ddenu'r bobl fwyaf dawnus, gan sicrhau bod y bobl briodol yn llenwi swyddi allweddol y Bwrdd iechyd. Sicrhau prosesau trylwyr at ddibenion cynllunio ar gyfer olyniaeth er mwyn nodi a datblygu arweinwyr y dyfodol o blith staff y sefydliad.

 

Lles Gweithwyr: Hyrwyddo blaengareddau ynghylch lles gweithwyr, gan sicrhau y ceir amgylchedd gwaith cefnogol ac iach i bob aelod o'r staff.

 

Cydweithredu a Phartneriaethau: Cydweithredu â rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys undebau llafur, cynrychiolwyr y staff, a phartneriaid allanol i sicrhau consensws o ran gwelliannau i'r sefydliad a chefnogaeth i'r gwelliannau hynny. Ymgysylltu â'r gymuned leol i feithrin ymddiriedaeth ac amlygu ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i newid cadarnhaol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru a chanddo gyllideb o £2.1 biliwn a gweithlu o dros 21,000 o staff. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, eilaidd, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt i boblogaeth gogledd Cymru.

Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt ac arbenigol ar draws 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae BPIBC hefyd yn cydlynu, neu’n darparu gwaith 96 o bractisau meddygon teulu a’r gwasanaeth GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar hyd a lled y rhanbarth.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy’n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau statudol a thrydydd sector eraill. Mae BIPBC wedi datblygu perthynas â’r prifysgolion yng ngogledd Cymru ac mae, ynghyd â Phrifysgol Bangor, yn ceisio statws ysgol feddygol ac yn gweithredu mewn diwylliant dysgu sy’n gyfoeth o ymchwil.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae BIPBC yn dymuno penodi arweinydd Pobl tosturiol a phrofiadol. Bydd ganddo brofiad o weithredu ar lefel Bwrdd a fydd yn gymorth i arwain y BI trwy gamau nesaf ei daith o drawsnewid. Gydag enw da am ragoriaeth, byddwch yn angerddol am greu timau a diwylliant cadarnhaol, cynhwysol sy'n perfformio'n ar lefel uchel.

 

Os ydych yn barod i gael effaith sylweddol ar ddyfodol gofal iechyd yng Ngogledd Cymru ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon, ewch i www.odgers.com/91918 i weld rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

Manyleb y person

Addysg a Chymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • • Statws Cymrawd Siartredig y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. (FCIPD)
  • • Addysg ar lefel gradd meistr mewn pwnc sy'n berthnasol i'r maes yr arbenigir ynddo neu brofiad gwaith cyfatebol ar lefel uwch swyddog.
  • • Tystiolaeth o gadarnhau datblygiad proffesiynol parhaus a gweithgarwch diweddar i ddatblygu fel rheolwr ac arweinydd.

Gwybodaeth a Phrofiad

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad o weithio ar Lefel Cyfarwyddwr mewn sefydliad sy'n canolbwyntio ar bobl. Mae profiad blaenorol o weithio ar lefel uwch yn un o sefydliadau'r GIG yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
  • • Profiad o waith yn ymwneud â holl brif feysydd y swyddogaeth Adnoddau Dynol, yn cynnwys perthnasau â gweithwyr, datblygu sefydliadol, cynllunio'r gweithlu, gwobrwyo, dysgu a datblygu.
  • • Tystiolaeth i gadarnhau profiad o weithio ledled sefydliadau i arwain, sefydlu a rheoli rhaglenni newid a thrawsnewid sylweddol.
  • • Profiad o gynllunio a datblygu strategol, a gallu cynnig tystiolaeth i gadarnhau llwyddiant wrth gyfranogi'n weithredol yn y gwaith o gyflawni gwelliannau i wasanaethau a sicrhau arbedion effeithlonrwydd mewn sefydliad.
  • • Profiad o gyflawni rhaglenni newid diwylliant a gwerthoedd sy'n seiliedig ar Werthoedd Strategol a fframweithiau ymddygiad.
  • • Profiad amlwg o weithio neu gyfrannu ar lefel Bwrdd.
  • • Byddai deall neu fod yn ymwybodol o gyd-destun gwleidyddol y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn fuddiol, ond nid yw hynny'n hanfodol.

Sgiliau a Phriodoleddau

Meini prawf hanfodol
  • • Gallu ysbrydoli, arloesi a chymell er mwyn llywio a rheoli newid.
  • • Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig rhagorol a gallu gweithio a chydweithredu'n effeithiol â chydweithwyr, rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid ar bob lefel.
  • • Gallu meddwl a gweithredu'n strategol, gan ddefnyddio sgiliau dadansoddi, rhesymu beirniadol a datrys problemau cryf.
  • • Gallu deall blaenoriaethau croes a gwneud penderfyniadau effeithiol a chyflym.
  • • Gallu ymdrin yn empathig, yn hunanymwybodol, yn ochelgar ac yn hawddgar â gweithwyr, cynrychiolwyr undebau llafur a rhanddeiliaid allweddol eraill ar bob lefel.
  • • Gallu modelau'r safonau gorau un o ran uniondeb personol a phroffesiynol a chyfleu gwerthoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • • Cydnerth, hyderus, ac yn gallu gweithio dan bwysau a chyflawni gwaith yn unol â therfynnau amser.
  • • Ymrwymo i ddatblygu diwylliant sy'n rhoi pwyslais ar ddidwylledd, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • • Mae sgiliau o ran y Gymraeg yn ddymunol; disgwylir y bydd defnydd achlysurol o'r Gymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jason Brannan
Teitl y swydd
Deputy Director of People
Cyfeiriad ebost
[email protected]

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Glan Clwyd Hospital
Rhif ffôn
0300 085 5663
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg