Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ystadau
Gradd
ESP
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-DOEE-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Cwrt Carlton
Tref
Llanelwy
Cyflog
Cystadleuol
Yn cau
16/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau

ESP

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Ydych chi'n angerddol dros greu system gofal iechyd gynaliadwy ac ymwybodol yn amgylcheddol? Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn chwilio am weithiwr proffesiynol arloesol ac ymrwymedig i ymuno â ni fel Cyfarwyddwr Amgylchedd ac Ystadau, yn arwain y newid ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol a hybu llesiant ein cymunedau.

Fel Cyfarwyddwr Amgylchedd ac Ystadau, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu a rhoi arferion cynaliadwy ar waith ar draws ein bwrdd iechyd. Gan adrodd yn uniongyrchol i'r Prif Weithredwr, byddwch yn arwain mentrau sy'n lleihau ein heffaith amgylcheddol, yn hybu arferion gwyrdd, ac yn cyfrannu at iechyd a llesiant cyffredinol ein cymunedau.

Mae'r portffolio ar gyfer y rôl hon yn cynnwys:

  • Cyfalaf
  • Ystadau
  • Cyfleusterau a Gwasanaethau Cymorth (E.e. Gwasanaeth rheoli gwastraff, gwasanaeth cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, gwasanaethau cludo)
  • Diogelwch
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cynaliadwyedd Amgylcheddol/Newid Hinsawdd

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd cyfrifoldebau allweddol penodol yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfrifoldeb corfforaethol, yn atebol i'r Bwrdd, am y gwaith cyfeirio strategol, llunio polisïau corfforaethol, datblygu gwasanaethau a darparu gwasanaethau mewn meysydd cyflawni priodol, a sicrhau bod y cynlluniau yn unol â nodau strategol cyffredinol y Bwrdd Iechyd.
  • Darparu arweinyddiaeth wybodus a phroffesiynol i'r agenda Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Bioamrywiaeth. Arwain y gwaith o ffurfio a defnyddio strategaethau, gydag eraill ar draws y Bwrdd Iechyd ac mewn perthynas ag arbenigwyr yn y maes, i sicrhau bod gan y Bwrdd Iechyd gynllun strategol uchelgeisiol â deilliannau clir.
  • Sefydlu dull sefydliad cyfan ar gyfer Gweithio Ystwyth, ymgysylltu â chydweithwyr ar draws y Bwrdd Iechyd i ddatblygu dull strategol ar gyfer Gweithio Ystwyth. Gweithio'n agos gyda phartneriaid yr Undeb Llafur er mwyn datblygu a defnyddio'r dull.

Arwain y gwaith o ddatblygu a defnyddio cyfleusterau cynhwysfawr a'r gwasanaethau cymorth.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru a chanddo gyllideb o £1.87 biliwn a gweithlu o dros 19,000 o staff. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, eilaidd, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt i boblogaeth gogledd Cymru.

Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt ac arbenigol ar draws 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae BPIBC hefyd yn cydlynu, neu’n darparu gwaith 96 o bractisau meddygon teulu a’r gwasanaeth GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar hyd a lled y rhanbarth.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy’n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau statudol a thrydydd sector eraill. Mae BIPBC wedi datblygu perthynas â’r prifysgolion yng ngogledd Cymru ac mae, ynghyd â Phrifysgol Bangor, yn ceisio statws ysgol feddygol ac yn gweithredu mewn diwylliant dysgu sy’n gyfoeth o ymchwil.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a'r Fanyleb Person sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn barod i gael effaith sylweddol ar ddyfodol gofal iechyd yng Ngogledd Cymru ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon, hoffem eich gwahodd i wneud cais.

Anogir sgyrsiau anffurfiol cyn gwneud cais. Cysylltwch ag Elin Gwynedd, Pennaeth Staff,  [email protected]

Manyleb y person

Qualifications

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd Meistr neu gymhwyster Rheoli cyfatebol neu brofiad cyfatebol ar lefel uwch.
  • Profiad o weithio a chyfrannu ar lefel Bwrdd.
  • Arbenigedd a dirnadaeth helaeth o'r canlynol: > Cynllunio Busnes > Pennu Cyllidebau > Prosesau comisiynu > Rheoli Perfformiad a Newid > Rheoli Pobl > Gwella Ansawdd
  • Dirnadaeth fanwl o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac effaith gweithio mewn lleoliad gwledig.
  • Deall agenda moderneiddio'r GIG a gallu defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu a gweithredu strategaeth a gwasanaeth.

Experience

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o ddehongli polisi ar lefel uchel yn strategaethau gwasanaeth.
  • Profiad o reoli adnoddau a chyllidebau sylweddol a hanes profedig o gyflawni cynaliadwyedd ariannol a gwerth am arian.
  • Profiad o gynllunio strategol aml-asiantaeth a hanes llwyddiannus o gyflawni rheolaeth strategol ar lefel y Bwrdd mewn sefydliad cymhleth.

Aptitude and Abilities

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i ddatblygu atebion arloesol a'u rhoi ar waith.
  • Sgiliau dadansoddi lefel uchel a'r gallu i ddod i gasgliadau ar sail cyfuniadau o ffynonellau gwybodaeth ansoddol a meintiol a'u cyflwyno mewn modd cyson.
  • Sgiliau cynllunio cryf a'r gallu i gynllunio'n effeithiol o fewn terfynau amser i sicrhau allbynnau a deilliannau amserol.
  • Y gallu i drin gwybodaeth a data dadleuol, a'r gallu i bwyso a mesur safbwyntiau croes a llunio barn gadarn.
  • Sgiliau meddwl yn strategol ac yn feirniadol ardderchog.
  • Y gallu i berfformio a chyflawni dan bwysau.
  • Gallu amlwg i gyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ardderchog, yn cynnwys sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno cryf.
  • Sgiliau dadansoddi ardderchog i ddatblygu, darllen a dehongli gwybodaeth gymhleth, a'i rhannu ag eraill.

Values

Meini prawf hanfodol
  • Yn dangos ymrwymiad i Werthoedd ac Ymddygiadau BIPBC.
  • Gweithredu yn unol ag Egwyddorion Nolan ynghylch Bywyd Cyhoeddus.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jason Brannan
Teitl y swydd
Deputy Director of People
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg