Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seiciatreg Fforensig
Gradd
Meddyg Arbenigol
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
Advert - 6391737
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Bryn y Neuadd
Tref
Llanfairfechan
Cyflog
£52,542 - £82,481 dibynnol ar brofiad
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Meddyg Arbenigol mewn Seiciatreg Fforensig

Meddyg Arbenigol

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddarparu mewnbwn seiciatrig i'r cleifion mewnol sy'n byw yn uned diogelwch canolig Tŷ Llewelyn.

Rheolir yr holl gyfeiriadau at yr uned gan un pwynt mynediad a chyfarfod cynllunio wythnosol.

Bydd deilydd y swydd yn darparu asesiad seiciatrig arbenigol, triniaeth yn ogystal â chefnogaeth feddygol sylfaenol i’r unigolion hynny yn Uned Ddiogelwch Canolig Tŷ Llewelyn.

Bydd deilydd y swydd yn cynnal adroddiadau yn ôl yr angen ar gyfer y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Tribiwnlysoedd Adolygu'r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn ogystal ag adroddiadau CTP ac ASR.

Bydd deilydd y swydd wedi’i leoli'n Nhŷ Llewelyn ac yn gweithio gyda rheolwyr y ward a’r gwasanaeth i sicrhau arweinyddiaeth glinigol y tîm amlddisgyblaethol.  Bydd deilydd y swydd yn cynorthwyo gyda goruchwyliaeth glinigol o'r tîm. Rhagwelir y bydd deilydd y swydd yn cynorthwyo i hyfforddi aelodau'r tîm gyda materion clinigol.

Bydd disgwyl i ddeilydd y swydd gydymffurfio â Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac ymgymryd â chyfrifoldebau o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. 

Weithiau bydd y swydd yn denu meddyg iau, yn dibynnu ar argaeledd yn y rota hyfforddi.

 Ymgymryd â chyfrifoldebau os caiff ei gymeradwyo o dan Ddeddf Iechyd Meddwl (1983) fel meddyg cymeradwy adran 12/2.  Nid yw asesiadau arferol 136 yn dod o fewn cyfrifoldebau deilydd y swydd. 

Ymgymryd â chyfrifoldebau o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd deilydd y swydd yn darparu asesiad seiciatrig, triniaeth a rheolaeth yn ogystal â chefnogaeth feddygol o ddydd i ddydd i gleifion mewnol yn uned diogelwch canolig Tŷ Llewelyn.

Bydd deilydd y swydd wedi'i leoli yn Nhŷ Llewelyn a bydd yn gweithio'n agos gyda'r seiciatrydd ymgynghorol a'r tîm amlddisgyblaethol ehangach.  Bydd yn

Bydd deilydd y swydd yn sicrhau arweinyddiaeth glinigol y tîm amlddisgyblaethol.  Bydd deilydd y swydd yn cynorthwyo gyda goruchwyliaeth glinigol o'r tîm. Rhagwelir y bydd deilydd y swydd yn cynorthwyo i hyfforddi aelodau'r tîm gyda materion clinigol.

Bydd deilydd y swydd yn cwblhau’r adroddiadau angenrheidiol sy’n ofynnol gan Adroddiadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl fel y bo’n briodol.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol neu diciwch 'gwneudd cais nawr' i'w gweld yn Trac. 

Manyleb y person

Proffesiynol

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • O leiaf pedair blynedd (amser llawn neu gyfwerth) mewn hyfforddiant ôl-raddedig yn y DU neu hyfforddiant EEA cyfatebol. Rhaid i o leiaf ddwy flynedd o hyfforddiant fod yn yr arbenigedd perthnasol neu hyfforddiant cyfatebol cydnabyddedig (diffinnir hyn fel cwblhau'r rhaglen Sylfaen yn llwyddiannus, ac yna naill ai cwblhau ST1 a ST2 neu CT1 a CT2 yn llwyddiannus neu fel FTSTA neu'r hyn sy'n cyfateb iddo)
Meini prawf dymunol
  • Cymwysterau ôl-raddio
  • MRCPsych neu gyfatebol
  • Cymeradwyaeth Adran 12 (2)

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau meddygol cyffredinol
Meini prawf dymunol
  • 2 flynedd o brofiad mewn Seiciatreg Oedolion/Fforensig
  • Profiad ym maes seiciatreg oedolion hŷn am o leiaf blwyddyn

Rhinweddau Personol

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • Sgiliau gwaith tîm da
Meini prawf dymunol
  • Gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr. Fouad Basa
Teitl y swydd
Forensic Consultant
Rhif ffôn
03000 852939
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg