Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Llawfeddygaeth Gyffredinol a'r Colon a'r Rhefr
Gradd
Meddygol a Deintyddol GIG: Meddyg Arbenigol
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 40 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-SPD-GSCS-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£52,530 - £82,418 per annum
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Meddyg Arbenigol - Llawfeddygaeth Laparoscopig a Robotig Y Colon

Meddygol a Deintyddol GIG: Meddyg Arbenigol

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Gwahoddir y ceisiadau ar gyfer swydd Meddyg Arbenigol/ (cyfwerth â ST+3) mewn Llawfeddygaeth Laparoscopig a Robotig y Colon. Bydd y cymrawd yn gweithio'n gyfan gwbl i dîm o 4 Llawfeddyg Laparoscopig a Robotig y Colon / GI. Mae'r cyfle hwn hefyd ar gael i lawfeddygon profiadol nad ydynt yn dod o'r DU.

Mae adran Llawfeddygaeth y Colon yn Ysbyty Gwynedd yn uned hyfforddi gydnabyddedig ac mae’n gweithio’n agos iawn gydag AaGIC. Mae'r adran hon yn cael ei chydnabod ar gyfer y rhaglen IST ac yn denu 4 ST3 a 6 CT y flwyddyn. Cynigir cyfleoedd hyfforddi tebyg i hyfforddeion AaGIC i bob Uwch Gymrawd. Yn y gorffennol mae ychydig o'n cymrodyr wedi defnyddio eu profiad i wella eu portffolio ac wedi llwyddo i gael swydd NTN ST3.

Cyfeiriwch at yr hysbyseb swydd atodedig mewn dogfennau

Prif ddyletswyddau'r swydd

Rydym yn edrych ymlaen at benodi uwch gymrawd clinigol ar gyfer cyfle cyffrous i wella ei bortffolio mewn ymchwil, addysgu ac mewn Llawfeddygaeth Laparoscopig a Robotig y Colon. Lleolir y swydd yn bennaf yn Ysbyty Gwynedd, Bangor; er efallai y bydd ychydig o sesiynau yn Ysbyty Cyffredinol Llandudno.

 Mae Ysbyty Gwynedd wedi hen ennill ei blwyf fel canolfan ar gyfer cynnig Llawfeddygaeth Laparosgopig y Colon a'r Rhefr. Yn ddiweddar mae'r ysbyty wedi dod yn ganolfan sefydledig ar gyfer Llawfeddygaeth Robotig (Versius). Mae gan y ganolfan 4 Llawfeddyg y Colon sy'n cynnig Llawfeddygaeth Robotig (Versius) i gleifion o Ogledd Cymru.

 

Bydd y Cymrawd yn cael ei baru â Llawfeddygon Robotig a disgwylir iddo gefnogi ôl-ofal cleifion sy'n cael Echdoriad Laparoscopig a Robotig y Colon. Gall ddefnyddio'r cyfle hwn i wella sgiliau perfformio Llawfeddygaeth Laparoscopig y Colon. Byddai'r cymrawd ar ôl cyflawni'r cymwyseddau gofynnol yn cael ei gefnogi i gael hyfforddiant ymarferol i berfformio Llawfeddygaeth Robotig.

 

Bydd disgwyl hefyd i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddysgu israddedigion o Brifysgolion Caerdydd a Bangor. Bydd Deiliad y swydd yn gweithio i dîm o feddygon ymgynghorol yn perfformio Llawfeddygaeth Laparoscopig a Llawfeddygaeth y Colon  â Chymorth Robotig.

Bydd y sawl a benodir hefyd yn cael cynnig cyfleoedd hyfforddi mewn endosgopi GI Uchaf ac Isaf.

Yn ogystal â dyletswyddau arferol, bydd y cymrawd yn rhannu dyletswyddau y tu allan i oriau ar sail 1 mewn 8/9.

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Tra

Manyleb y person

yfforddiant a profiad

Meini prawf hanfodol
  • Gallu darparu hanes cyflogaeth cyflawn.
  • 48 mis mewn llawfeddygaeth heb gynnwys modiwlau sylfaenol.
  • Profiad eang mewn llawfeddygaeth gyffredinol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o Lawfeddygaeth y Colon y Rhefr a Llawfeddygaeth Cyffredinol Blaenorol. •
  • Gallu perfformio Colecystectomi laparosgopig.
  • Profiad blaenorol mewn endosgopi gastroberfeddol uwch ac is.

Gwybodaeth / Cymhwyster

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn â'r GMC.
  • MRCS/FRCS (Llawfeddygaeth Cyffredinol) neu gymhwyster ar lefel gyfwerth
  • Bodloni rheoliadau mewnfudo DU/EEA neu’n gymwys am drwydded gwaith.

Sgiliau Sylfaenol a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Triniaethau meddygol cyffredinol a sgiliau priodol i'r radd
  • Goruchwylio a dysgu meddygon iau a staff nyrsio
  • Gwybod pa bryd i ofyn am help
  • Gallu i roi gwybodaeth.
  • Gallu ysgrifennu nodiadau clinigol perthnasol, darllenadwy.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar effeithiol a diogel.
  • Parodrwydd i gymryd rhan yn rheolaeth cleifion.
  • Gallu i drin cyfweliadau anodd gyda chleifion neu berthnasoedd gyda doethineb a sensitifrwydd
  • Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
  • Competent in providing General Surgery Emergency On-call at Middle Grade
  • Clinical experience outside specialty.
  • Additional experience in Colorectal Surgery

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Mr Anil Lala
Teitl y swydd
Consultant
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01248 385079
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg