Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwirfoddol
Gradd
Gwirfoddol
Contract
Gwirfoddol
Oriau
Arall
Cyfeirnod y swydd
VCS-CW North
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ceredigion and Powys
Tref
Wales
Yn cau
16/08/2024 18:00

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru logo

Gyrrwr Car Gwirfoddol

Gwirfoddol

Mae ein hardal yn ymestyn dros 20,640 o gilometrau ac rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 2.9 miliwn. O fewn ein hardal amrywiol, mae ardaloedd gwledig anghysbell, trefi glan môr prysur a threfi mawr.

Ond, mae ein gwasanaethau amryfal a modern wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol ein cymunedau amrywiol - o feiciau i gerbydau ymateb cyflym, ambiwlansys llinell flaen, hofrenyddion a nyrsys yn ein canolfannau rheoli.

Bob blwyddyn, rydym yn ymateb i fwy na 250,000 o alwadau brys a dros 50,000 o alwadau argyfwng ac yn cludo dros 1.3 miliwn o gleifion di-frys i dros 200 o ganolfannau triniaeth yng Nghymru a Lloegr.

Ein staff ymroddedig yw ein hased mwyaf. Rydym yn cyflogi 2,576 o bobl, 76% ohonyn nhw’n weithredol – 1,310 ar ddyletswyddau brys a 693 yn y gwasanaeth di-frys ac yn y gwasanaeth tywysyddion iechyd.

Rydym yn gweithredu o 90 gorsaf ambiwlans, pedair canolfan reoli, tair swyddfa ranbarthol a phum gweithdy cerbydau.

Hefyd, mae gennym ein Coleg Hyfforddi Cenedlaethol i sicrhau bod ein staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn datblygu’n broffesiynol yn rheolaidd.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol (VCS) yn rhan amhrisiadwy o'r Gwasanaeth Cludo Cleifion di-argyfwng. Mae'n cynnwys tîm o yrwyr gwirfoddol ymroddedig ledled Cymru sy'n defnyddio eu ceir eu hunain ac yn rhoi o'u hamser i helpu i gludo miloedd o gleifion i’w hapwyntiadau ysbyty fel dialysis arennol, oncoleg a chleifion allanol a’u dychwelyd wedyn.
Mae Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i gleifion sy’n dibynnu arnynt am gludiant i’w hapwyntiadau meddygol ledled Cymru. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn cludo cleifion rheolaidd a gallant ddatblygu perthynas gref gyda nhw. I’r gyrwyr eu hunain, gall y profiad fod yn un gwerthfawr ac rydym yn gwybod bod ein cleifion yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth yn fawr iawn.
Mae gyrwyr y Gwasanaeth yn teithio miliynau o filltiroedd ledled Cymru bob blwyddyn ac yn darparu cludiant i'r cleifion hynny sy'n gallu teithio mewn car. Mae'r oriau gwaith yn hyblyg a thelir treuliau i wirfoddolwyr ar ffurf lwfans o 45c y filltir, i dalu am y milltiroedd a deithir ar ran y Gwasanaeth Cludo Cleifion Di-argyfwng. Byddwch hefyd yn cael iwnifform a hyfforddiant cyn i chi ymgymryd â'ch rôl.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Allech chi fod yn Yrrwr Car Gwirfoddol yng Nghanol De/Gorllewin Cymru?

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn yrrwr car gwirfoddol.

Pwy all wneud cais?

  • Ydych chi'n mwynhau her?
  • Ydych chi'n falch o'r gymuned rydych chi'n byw ynddi ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl?
  • Oes gennych chi amser rhydd?
  • Hoffech chi oriau/diwrnodau hyblyg?
  • Ydych chi'n barod i ddysgu sgiliau achub bywyd hanfodol?
  • Ydych chi dros ddeunaw oed?
  • Oes gennych chi drwydded yrru lawn gyda dim mwy na 3 phwynt arni?
  • Oes gennych chi gerbyd 4 drws diogel, dibynadwy?

Os allwch chi ateb y cwestiynau yma’n gadarnhaol, efallai y bydd y cyfle hwn i wirfoddoli yn berffaith i chi.

Mae ein gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i gludo a dychwelyd cleifion nad ydynt yn rhai brys, yn ddiogel i’w hapwyntiadau ysbyty a chlinigau ledled Cymru a Lloegr.

Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghais yn llwyddiannus?
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth.

Bydd angen cynnal asesiad gyrru a phrawf sy'n cynnwys cwestiynau ysgrifenedig ac arwyddion o Reolau’r Ffordd Fawr. Bydd yr hyfforddwr yn asesu eich gyrru yn eich cerbyd chi eich hun.

Bydd pob gwirfoddolwr newydd yn cael gwiriad DBS manwl a gwiriad adnabod rhithwir; bydd angen cymeradwyaeth gan yr adran iechyd galwedigaethol a dau eirda hefyd.

Unwaith y bydd y gwiriadau hyn wedi'u cwblhau bydd gofyn i chi fynychu diwrnod sefydlu a hyfforddi, ac yn dilyn hyn byddwch yn cael eich mentora gan wirfoddolwr profiadol.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau Gyrrwr Car Gwirfoddol yw:

  • Adolygu taflen gofnodi cludiant y Gwasanaeth Cludo a chynllunio amserlen teithio fydd yn sicrhau bod cleifion yn mynychu eu hapwyntiadau mor agos â phosibl at amser eu hapwyntiad.
  • Sicrhau bod cleifion yn eistedd yn ddiogel cyn cychwyn pob siwrnai gan roi sylw dyledus i'w hiechyd, diogelwch, hunan-barch a chysur.
  • Wrth gyrraedd cartref y claf, gwirio manylion y claf gyda'r claf, perthynas neu ofalwr, a delio â chleifion/defnyddwyr gwasanaeth mewn modd gofalgar, gan eu trin nhw ag urddas a pharch bob amser.
  • Hysbysu'r Ganolfan Cydgysylltu Gofal Ambiwlans cyn gynted â phosibl os nad yw cleifion yn teithio.
  • Cludo cleifion yn ddiogel gan ddefnyddio technegau symud a thrin priodol pan fo angen.
  • Darparu cludiant amserol a diogel i gleifion i’r man dynodedig, gan roi ystyriaeth resymol i les cleifion bob amser.
  • Gyrru mewn modd diogel a rheoledig bob amser, gan roi sylw dyledus i anghenion y cleifion, diogelwch eraill ar y ffordd ac amodau'r ffordd yn unol â chyfraith traffig rheolau’r ffordd fawr.
  • Ar ôl cyrraedd yr Ysbyty neu’r Clinig/Canolfan Driniaeth ddynodedig cysylltu â'r staff Cyswllt Gofal Ambiwlans neu'r Ganolfan Gydgysylltu i gofnodi manylion y daflen a chadarnhau os nad oedd ateb neu os oedd claf yn rhy sâl i deithio. Derbyn tasgau ychwanegol gan y Staff Cyswllt, yn ôl yr angen, a chyflawni tasgau o’r fath rhwng neu ar ôl unrhyw waith arall sydd wedi’i gynllunio.
  • Yn unol â thaflen gofnodi cludiant y Gwasanaeth Cludo, dychwelyd cleifion i'w cartref yn ôl yr angen, gan wneud yn siŵr, drwy holi’r staff priodol, eu bod yn barod, eu hebrwng i'r cerbyd a'u cludo'n ddiogel i'w cartref ar hyd y ffordd fwyaf addas.
  • Wrth gyrraedd y cartref, gwirio manylion y cyfeiriad gyda'r claf, perthynas neu ofalwr, a hebrwng y claf at y drws neu i mewn i’r cartref yn ôl yr angen.
  • Cadw cyfrinachedd cofnodion a gwybodaeth cleifion bob amser.
  • Cadw cofnodion cynhwysfawr a chywir o'r holl daflenni cofnodi angenrheidiol a dogfennaeth berthnasol arall.

Manyleb y person

Why do you want to volunteer with us?

Meini prawf hanfodol
  • As per application form

What do you hope to achieve as a volunteer?

Meini prawf hanfodol
  • As per application

In your opinion, how would you define volunteering, and what does it mean to you?

Meini prawf hanfodol
  • As per application

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoNo smoking policyAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Gareth Parry
Teitl y swydd
VCS Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03001311392
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg