Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyllid
Gradd
Gradd 8a
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Gweithio gartref neu o bell
37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
020-AC085-0724
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w gytuno
Tref
I'w gytuno
Cyflog
y flwyddyn
Yn cau
08/08/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
20/08/2024

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru logo

Dirprwy Bennaeth Cyfrifeg Ariannol

Gradd 8a

Mae ein hardal yn ymestyn dros 20,640 o gilometrau ac rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 2.9 miliwn. O fewn ein hardal amrywiol, mae ardaloedd gwledig anghysbell, trefi glan môr prysur a threfi mawr.

Ond, mae ein gwasanaethau amryfal a modern wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol ein cymunedau amrywiol - o feiciau i gerbydau ymateb cyflym, ambiwlansys llinell flaen, hofrenyddion a nyrsys yn ein canolfannau rheoli.

Bob blwyddyn, rydym yn ymateb i fwy na 250,000 o alwadau brys a dros 50,000 o alwadau argyfwng ac yn cludo dros 1.3 miliwn o gleifion di-frys i dros 200 o ganolfannau triniaeth yng Nghymru a Lloegr.

Ein staff ymroddedig yw ein hased mwyaf. Rydym yn cyflogi 2,576 o bobl, 76% ohonyn nhw’n weithredol – 1,310 ar ddyletswyddau brys a 693 yn y gwasanaeth di-frys ac yn y gwasanaeth tywysyddion iechyd.

Rydym yn gweithredu o 90 gorsaf ambiwlans, pedair canolfan reoli, tair swyddfa ranbarthol a phum gweithdy cerbydau.

Hefyd, mae gennym ein Coleg Hyfforddi Cenedlaethol i sicrhau bod ein staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn datblygu’n broffesiynol yn rheolaidd.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle secondiad cyffrous wedi codi i Ddirprwy Bennaeth Cyfrifeg Ariannol i arwain tîm i ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol i'r swyddogaeth cyfrifo ariannol, er mwyn helpu i gyflawni’r adrodd ariannol statudol a sicrhau llywodraethu a rheolaeth ariannol ar draws yr Ymddiriedolaeth.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd profiadol, sy'n edrych i ddatblygu ei yrfa fel rhan o dîm cefnogol a brwdfrydig iawn. Gweithio hybrid, gweithio gartref neu o bell; 37.5 awr yr wythnos (gweithio hyblyg o'r swyddfa a'r cartref) Lleoliad i'w gadarnhau yn y cyfweliad.
 
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso cydradd i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y Dirprwy Bennaeth Cyfrifeg Ariannol yn cefnogi'r Pennaeth Cyfrifeg Ariannol i ddarparu arweinyddiaeth broffesiynol i'r swyddogaeth cyfrifo ariannol, er mwyn helpu i gyflawni’r adrodd ariannol statudol a sicrhau llywodraethu a rheolaeth ariannol ar draws yr Ymddiriedolaeth.

I ddarparu amgylchedd rheoli ariannol cadarn i gefnogi’r cyfrifoldebau statudol allweddol y Cyfarwyddwr Cyllid yn y maes hwn.

I arwain taflen gydbwysedd gweithredol a chynllunio cyfalaf, rhagweld a rheoli gwaith gan sicrhau bod systemau ac adrodd priodol ar waith I weithredu’n effeithiol fel Ymddiriolaeth.

I gefnogi’r gwaith er mwyn datblygu Strategaeth Ariannol Tymor Canolig/Hir yr Ymddiriedolaeth a’r broses gynllunio flynyddol.

Bydd disgwyl I’r person llwyddiannus ddefnyddio sgiliau arweinyddol, technegol, dadansoddol, cyflwyniadol, rhyngbersonol a chyd-drafod lefel uchel wrth ddatblygu perthnasoedd gweithio effeithiol gydag amrywiaeth o gydweithwyr mewnol ac allanol.

Gweithio i'n sefydliad

#PoblRhyfeddol

Mae ein gweithlu yn cynnwys dros 4,000 o bobl hynod sy’n cyfrannu at ddarparu gofal cleifion o’r radd flaenaf ledled Cymru, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. P’un a ydych yn gweithio mewn rôl sy’n wynebu’r claf neu o fewn ein gwasanaethau cymorth, mae’r gwaith yr ydych yn ei wneud yn ein galluogi i ddarparu gofal o ansawdd uchel, lle bynnag a phryd bynnag y mae ein hangen.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn cydnabod yr angen i’w gweithlu gynrychioli amrywiaeth y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu ar draws Cymru gyfan ac mae’n ceisio creu amgylchedd lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu a chynhwysiant yn bwysig. Rydym hefyd yn awyddus i chwalu unrhyw rwystrau i'r Ymddiriedolaeth, a byddem yn annog ceisiadau gan grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys y rheini o gymunedau BME a grwpiau anabledd.

Mae gyrfaoedd o fewn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn amrywiol, gyda chyfleoedd yn codi ar draws y gwasanaeth. Beth bynnag yw eich sgiliau a’ch cefndir, rydych yn sicr o ddod o hyd i yrfa gyda ni sy’n rhoi boddhad, yn heriol ac yn wobrwyol.

Gwahoddir pob ymgeisydd i wneud cais yn Gymraeg, ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Cynghorir ymgeiswyr i wneud cais yn gynnar gan ein bod yn cadw'r hawl i gau'r swydd cyn y dyddiad cau os oes gennyt nifer uchel o geisiadau. wedi ei dderbyn.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau a/neu Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Wedi'i addysgu at Lefel Gradd Meistr mewn pwnc perthnasol yn broffesiynol neu lefel gyfatebol o brofiad ymarferol o fewn amgylchedd rheoli prosiect.
  • Gwybodaeth arbenigol am weithdrefnau ariannol/cyfrifyddu, gan gynnwys gwybodaeth am agweddau ariannol ar ddeddfwriaeth y GIG a pholisïau cyllid y GIG.
  • Cyfrifydd Cymwysedig gydag aelodaeth o CCAB.
  • Cymhwyster rheoli (ee ILM) neu brofiad o reoli staff.
  • Tystiolaeth o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.

Porfiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn amgylchedd ariannol ar lefel reoli.
  • Profiad o weithio gyda, a rhoi cyngor i, reolwyr anariannol a deiliaid cyllidebau.
  • Profiad o arwain cynlluniau datblygu a gwella gwasanaethau.
  • Profiad o ddefnyddio system Oracle Financials a QlikView (neu system debyg)
  • Profiad o gynnal a gwella system gyfrifyddu.
  • Profiad helaeth o oruchwylio tîm cyllid gweithredol.
  • Profiad o weithio ar Lefel Genedlaethol gyda rhanddeiliaid allweddol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o weithio mewn swydd ariannol yn y GIG
  • Profiad o ddarparu hyfforddiant ariannol i reolwyr nad ydynt yn rheolwyr cyllid.

Doniau a Galluoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gwybodaeth arbenigol am brosesau caffael a chyllid.
  • Lefel uchel o wybodaeth am arferion cyfrifyddu sy’n cael eu derbyn yn gyffredinol.
  • Gallu Arwain gofynion archwilio.
  • Gallu defnyddio technegau gwneud penderfyniadau rhifyddol ar lefel strategol.
  • Sgiliau Bysellfwrdd Safonol
  • Sgiliau dadansoddi sylweddol.
  • Sgiliau Windows uwch, gan gynnwys lefel uwch o sgiliau Microsoft Office, gan gynnwys Excel, PowerPoint, Outlook a Word.
  • Gallu cynllunio a blaenoriaethu ei waith ei hun a gweithio’n annibynnol.
  • Sgiliau cyfathrebu cryf ar lafar.
  • Profiad o sgiliau arwain, sgiliau datblygu tîm a’r gallu i ddatblygu pobl eraill.
Meini prawf dymunol
  • Profiad o theori rheolaeth ariannol, perthnasoedd allanol a ffynonellau cyllid yn y GIG.

Gwerthoedd

Meini prawf hanfodol
  • Gallu dangos didwylledd, gwrthrychedd, egni ac ymrwymiad i gyrraedd safonau uchel.

Other

Meini prawf hanfodol
  • Dangos datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Disgwyl teithio rhwng safleoedd ar sail Cymru gyfan pan fo angen.
  • Dangos agwedd hyblyg at waith er mwyn cyrraedd pob dyddiad cau.
  • Agwedd broffesiynol at bob agwedd ar fywyd gwaith.
  • Llawn hunangymhelliant ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau.
Meini prawf dymunol
  • Gallu siarad Cymraeg.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoNo smoking policyAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Jillian Gill
Teitl y swydd
Interim Deputy Director of Finance
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg