Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gwirfoddolwr
Gradd
Gwirfoddol
Contract
Gwirfoddol
Oriau
Arall - Gwirfoddol
Cyfeirnod y swydd
CFR Bala October 2024
Cyflogwr
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Gwynedd
Tref
Gwynedd
Yn cau
02/08/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
12/08/2024

Teitl cyflogwr

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru logo

Gwirfoddolwr Ymatebwr Cyntaf Cymunedol - Gwynedd

Gwirfoddol

Mae ein hardal yn ymestyn dros 20,640 o gilometrau ac rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 2.9 miliwn. O fewn ein hardal amrywiol, mae ardaloedd gwledig anghysbell, trefi glan môr prysur a threfi mawr.

Ond, mae ein gwasanaethau amryfal a modern wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol ein cymunedau amrywiol - o feiciau i gerbydau ymateb cyflym, ambiwlansys llinell flaen, hofrenyddion a nyrsys yn ein canolfannau rheoli.

Bob blwyddyn, rydym yn ymateb i fwy na 250,000 o alwadau brys a dros 50,000 o alwadau argyfwng ac yn cludo dros 1.3 miliwn o gleifion di-frys i dros 200 o ganolfannau triniaeth yng Nghymru a Lloegr.

Ein staff ymroddedig yw ein hased mwyaf. Rydym yn cyflogi 2,576 o bobl, 76% ohonyn nhw’n weithredol – 1,310 ar ddyletswyddau brys a 693 yn y gwasanaeth di-frys ac yn y gwasanaeth tywysyddion iechyd.

Rydym yn gweithredu o 90 gorsaf ambiwlans, pedair canolfan reoli, tair swyddfa ranbarthol a phum gweithdy cerbydau.

Hefyd, mae gennym ein Coleg Hyfforddi Cenedlaethol i sicrhau bod ein staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn datblygu’n broffesiynol yn rheolaidd.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Allech chi ddod yn Ymatebydd Cyntaf Cymunedol Gwirfoddol?

Mae hyn yn gyfle cyffrous i ddod yn Ymatebydd Cymunedol yn Gyntaf yn De Gwynedd.

Pwy all wneud cais?

• Ydych chi'n mwynhau sialens?

• Ydych chi'n dda o dan bwysau ac yn aros yn ddigynnwrf mewn argyfwng?

• Ydych chi'n falch o'r gymuned rydych chi'n byw ynddi, ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl?

• Oes gennych chi amser rhydd i sbario?

• Ydych chi'n barod i ddysgu sgiliau achub bywyd hanfodol?

Rhaid i bob ymgeisydd fod dros ddeunaw oed, bod â thrwydded yrru lawn gyda uchafswm o 3 phwynt cosb a defnydd i gar.

Disgwylir i wirfoddolwyr ddarparu isafswm o oriau gwirfoddoli bob mis (16 awr pro rata ar hyn o bryd). 

Os gallwch ateb ‘ie’ i’r rhain, efallai fod y cyfle gwirfoddoli hyn yn berffaith i chi.

Mae ein gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WASUT) i weinyddu gofal brys, gan gynnwys sgiliau asesu cleifion, sgiliau rheoli llwybr anadlu, therapi ocsigen, dadebru cardiopwlmonaidd a defnyddio diffibriliwr allanol awtomatig (AED).

Pan fydd clafion yn wynebu argyfwng difrifol, mae pob eiliad yn cyfrif ar ei gyfer, a gall help llaw syml gan YCC wneud gwahaniaeth hanfodol i'w fywydau.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae YCCs (Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol) yng Nghymru yn wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser hamdden i fynychu galwadau 999 a darparu gofal brys uniongyrchol i bobl yn cymuned eu hunain.


Pan fo galwad 999 yn ddod, mae ein YCCs yn cael eu rhybuddio am alwad frys trwy ddyfais symudol llaw, gan un o'n dair Canolfan Rheoli Ambiwlans Rhanbarthol. Bydd ein gwirfoddolwyr yn gyrru i gyfeiriad y digwyddiad, o dan amodau arferol, ac yn cadw at y Cod Priffyrdd bob amser. Ni chaniateir i’n gwirfoddolwyr yrru o dan amodau frys e.e. goleuadau glas.

Gweithio i'n sefydliad

Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghais yn llwyddiannus?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe'ch gwahoddir i gyfweliad YCC dros 'Teams' ar y dyddiad canlynol: Dydd Llun 12ed o Awst 2024.

Bydd gofyn i chi hefyd fynychu sesiwn galw heibio ar y dyddiad canlynol: Dydd Mawrth 20ed o Awst 2024 am 14:00 - 17:00 yng Nghlwb Golff Y Bala, Penlan. Bala. LL23 7YD. 

Bydd cyrsiau hyfforddi YCC yn cael eu cynnal dros y pump diwrnodau isod:

  • Dydd Llun 5ed -  Dydd Gwener 9eg o Awst 2024, 08.30yb -17.00yp (lleoliad: Clwb Golff Y Bala, Penlan. Bala. LL23 7YD)

RHAID i bob gwirfoddolwr newydd allu mynychu'r holl sesiynau a restrir uchod - felly byddwn yn cymryd eich cais fel cadarnhad eich bod ar gael ar y dyddiadau hyn.

Bydd pob gwirfoddolwr newydd yn cynnal gwiriad DBS gwell a gwiriad ID rhithwir; Bydd angen cliriad iechyd galwedigaethol a dau gyfeirnod cymeriad hefyd. Bydd pob dysgwr newydd yn cael mynediad at ddeunyddiau dysgu annibynnol ar-lein, y mae'n rhaid eu cwblhau cyn dechrau'r cwrs.

Yn ystod y cwrs bydd rhwydwaith o staff cymorth WASUT yn hyfforddi gwirfoddolwyr mewn sgiliau achub bywyd a sut i ddefnyddio'r offer sydd ar gael i'n YCCs. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â'ch tîm YCC lleol, er mwyn caniatáu i chi integreiddio a dechrau defnyddio'ch sgiliau newydd eu hennill trwy ymateb i alwadau yn eich cymuned.

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rhaid bodloni’r holl ofynion Rheoli Atal Heintiau er mwyn sicrhau y gellir bodloni’r lefel uchaf o amddiffyniad ar gyfer yr holl wirfoddolwyr a staff o fewn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Mae hyn yn cynnwys eillio'n lân ar gyfer pob hyfforddiant ac wrth gyflawni dyletswyddau ar ran y gwasanaeth ambiwlans.

‘Bydd gwallt wyneb sy’n gorwedd ar hyd ardal selio anadlydd, fel barfau, llosgiadau ochr, neu fwstas yn ymyrryd ag anadlyddion sy’n dibynnu ar ffit wyneb tynn i sicrhau’r amddiffyniad mwyaf posibl. Rhaid i rannau’r croen, sy’n cysylltu â’r sêl wyneb neu wddf a sêl y trwyn, fod yn rhydd o unrhyw wallt’.

Manyleb y person

Vehicle

Meini prawf hanfodol
  • Vehicle

Why have you chosen to volunteer at WAST?

Meini prawf hanfodol
  • Why have you chosen to volunteer at WAST?

What do you hope to achieve as a volunteer?

Meini prawf hanfodol
  • What do you hope to achieve as a volunteer?

In your opinion, how do you define volunteering and what does volunteering mean to you?

Meini prawf hanfodol
  • In your opinion, how do you define volunteering and what does volunteering mean to you?

Onboarding and Training dates

Meini prawf hanfodol
  • Are you able to attend the onboarding event and the 5 training dates detailed in the advert information?

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Apprenticeships logoNo smoking policyAge positiveInvestors in People: GoldImproving working livesStonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth Diversity ChampionMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCore principles

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Ann King
Teitl y swydd
Community First Responder Administrator
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
0300 131 1392
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'n tîm gweinyddol rhanbarthol ar y manylion cyswllt isod.

E-bost: [email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg