Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Gwirfoddolwr cyntaf y gymuned
gwirfoddol
Mae ein hardal yn ymestyn dros 20,640 o gilometrau ac rydym yn gwasanaethu poblogaeth o 2.9 miliwn. O fewn ein hardal amrywiol, mae ardaloedd gwledig anghysbell, trefi glan môr prysur a threfi mawr.
Ond, mae ein gwasanaethau amryfal a modern wedi’u teilwrio ar gyfer anghenion amgylcheddol a meddygol ein cymunedau amrywiol - o feiciau i gerbydau ymateb cyflym, ambiwlansys llinell flaen, hofrenyddion a nyrsys yn ein canolfannau rheoli.
Bob blwyddyn, rydym yn ymateb i fwy na 250,000 o alwadau brys a dros 50,000 o alwadau argyfwng ac yn cludo dros 1.3 miliwn o gleifion di-frys i dros 200 o ganolfannau triniaeth yng Nghymru a Lloegr.
Ein staff ymroddedig yw ein hased mwyaf. Rydym yn cyflogi 2,576 o bobl, 76% ohonyn nhw’n weithredol – 1,310 ar ddyletswyddau brys a 693 yn y gwasanaeth di-frys ac yn y gwasanaeth tywysyddion iechyd.
Rydym yn gweithredu o 90 gorsaf ambiwlans, pedair canolfan reoli, tair swyddfa ranbarthol a phum gweithdy cerbydau.
Hefyd, mae gennym ein Coleg Hyfforddi Cenedlaethol i sicrhau bod ein staff yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a’u bod yn datblygu’n broffesiynol yn rheolaidd.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Allech chi ddod yn Ymatebydd Cyntaf Cymunedol Gwirfoddol?
Mae hyn yn gyfle cyffrous i ddod yn Ymatebydd Cymunedol yn Gyntaf yn ardaloedd hyn:
· Caerdydd
Pwy all wneud cais?
• Ydych chi'n mwynhau sialens?
• Ydych chi'n dda o dan bwysau ac yn aros yn ddigynnwrf mewn argyfwng?
• Ydych chi'n falch o'r gymuned rydych chi'n byw ynddi, ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl?
• Oes gennych chi amser rhydd i sbario?
• Ydych chi'n barod i ddysgu sgiliau achub bywyd hanfodol?
Rhaid i bob ymgeisydd fod dros ddeunaw oed, bod â thrwydded yrru lawn gyda llai na 3 phwynt cosb a chael mynediad at gar.
Disgwylir i wirfoddolwyr ddarparu isafswm o oriau gwirfoddoli bob mis (16 awr pro rata ar hyn o bryd).
Os gallwch ateb ‘ie’ i’r rhain, efallai fod y cyfle gwirfoddoli hyn yn berffaith i chi.
Mae ein gwirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i weinyddu gofal brys, gan gynnwys sgiliau asesu cleifion, sgiliau rheoli llwybr anadlu, therapi ocsigen, dadebru cardiopwlmonaidd a defnyddio diffibriliwr allanol awtomatig (AED).
Pan fydd clafion yn wynebu argyfwng difrifol, mae pob eiliad yn cyfrif ar ei gyfer, a gall help llaw syml gan CFR wneud gwahaniaeth hanfodol i'w fywydau.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae CFRs yng Nghymru yn wirfoddolwyr sy'n rhoi eu hamser hamdden i fynychu galwadau 999 a darparu gofal brys uniongyrchol i bobl yn cymuned eu hunain.
Pan fo galwad 999 yn ddod I WAST, mae ein CFRs yn cael eu rhybuddio am alwad frys trwy ddyfais symudol llaw, gan un o'n dair Canolfan Rheoli Ambiwlans Rhanbarthol. Bydd ein gwirfoddolwyr yn gyrru i gyfeiriad y digwyddiad, o dan amodau arferol, ac yn cadw at y Cod Priffyrdd bob amser. Ni chaniateir i’n gwirfoddolwyr yrru o dan amodau frys e.e. goleuadau glas.
Gweithio i'n sefydliad
Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghais yn llwyddiannus?
Bydd cyrsiau hyfforddi CFR yn cael eu cynnal dros y pump ddiwrnod canlunnol:
· Dydd Llun 30ydd Medi i Dydd Gwener 4ydd Hydref 09:00 - 17:00 am Canolfan Siopa Dewi Sant, Caerdydd
RHAID i fob gwirfoddolwr newydd allu mynychu'r holl sesiynau a restrir uchod - felly byddwn yn cymryd eich cais fel cadarnhad eich bod ar gael ar y dyddiadau hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rhaid bodloni’r holl ofynion Rheoli Atal Heintiau er mwyn sicrhau y gellir bodloni’r lefel uchaf o amddiffyniad ar gyfer yr holl wirfoddolwyr a staff o fewn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Mae hyn yn cynnwys eillio'n lân ar gyfer pob hyfforddiant ac wrth gyflawni dyletswyddau ar ran y gwasanaeth ambiwlans.
‘Bydd gwallt wyneb sy’n gorwedd ar hyd ardal selio anadlydd, fel barfau, llosgiadau ochr, neu fwstas yn ymyrryd ag anadlyddion sy’n dibynnu ar ffit wyneb tynn i sicrhau’r amddiffyniad mwyaf posibl. Rhaid i rannau’r croen, sy’n cysylltu â’r sêl wyneb neu wddf a sêl y trwyn, fod yn rhydd o unrhyw wallt’.
Bydd pob gwirfoddolwr newydd yn cynnal gwiriad DBS gwell a gwiriad ID rhithwir; Bydd angen cliriad iechyd galwedigaethol a dau gyfeirnod cymeriad hefyd. Bydd pob dysgwr newydd yn cael mynediad at ddeunyddiau dysgu annibynnol ar-lein, y mae'n rhaid eu cwblhau cyn dechrau'r cwrs.
Yn ystod y cwrs bydd rhwydwaith o staff cymorth WAST yn hyfforddi gwirfoddolwyr mewn sgiliau achub bywyd a sut i ddefnyddio'r offer sydd ar gael i'n CFRs. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â'ch tîm CFR lleol, er mwyn caniatuu ichi integreiddio a dechrau defnyddio'ch sgiliau sydd newydd eu hennill trwy ymateb i alwadau yn eich cymuned.
Manyleb y person
Vehicle
Meini prawf hanfodol
- Vehicle
Why have you chosen to volunteer at WAST?
Meini prawf hanfodol
- Why have you chosen to volunteer at WAST?
What do you hope to achieve as a volunteer?
Meini prawf hanfodol
- What do you hope to achieve as a volunteer?
In your opinion, how do you define volunteering and what does volunteering mean to you?
Meini prawf hanfodol
- In your opinion, how do you define volunteering and what does volunteering mean to you?
Gallwch chi ymuno ni arfyrddio ar y dydd hyfforddiant
Meini prawf hanfodol
- Gallwch chi ymuno ni arfyrddio ar y dydd hyfforddiant?
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rachel Bull
- Teitl y swydd
- Community First Responder Administrator
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 131 1392
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â'n tîm gweinyddol rhanbarthol ar y manylion cyswllt isod.
E-bost: [email protected]
Rhestr swyddi gyda Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn Gwirfoddolwyr neu bob sector