Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cardiolegydd Ymgynghorol â Diddordeb yn Isarbenigedd Delweddu
Meddyg Ymgynghorol
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol.
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau am y swydd hon sydd wedi'i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Maelor Wrecsam. Bydd y sawl a benodir yn cwblhau tîm a 6 Cardiolegydd Ymgynghorol. Mae'r swydd wedi deillio o gynlluniau i aildrefnu a chryfhau ein gwasanaethau presennol. Rydym yn dymuno'n benodol mynd ati i gryfhau ein gwasanaethau delweddau cardiofasgwlaidd a methiant y galon, sydd eisoes wedi'u datblygu'n dda. Byddai croeso cynnes i arbenigedd yn y naill neu'r llall o'r meysydd hyn. Fodd bynnag, buasem hefyd yn fodlon ystyried isarbenigeddau eraill a hoffem bwysleisio y gellir addasu'r Cynllun Swydd enghreifftiol i sicrhau ei fod yn addas i'r ymgeisydd llwyddiannus.
Saif yr Ysbyty mewn lleoliad gwych yng Ngogledd Cymru, ac mae'r lleoliad o fewn cyrraedd rhwydd i arfordir Gogledd Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Lerpwl a Manceinion.
Bydd angen i chi fod ar y Gofrestr Meddygon Arbenigol, bydd gennych CCT neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig neu dylech allu cwblhau hynny ymhen chwe mis wedi adeg y cyfweliad.
Penodir yr ymgeisydd llwyddiannus yn unol ag amodau'r Contract Cenedlaethol ar gyfer Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru. Mae'r ystod cyflog presennol am 10 sesiwn yn amrywio o £106,000 i £154,760 y flwyddyn.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Ar y cyd â'r aelodau eraill o staff cardioleg ymgynghorol, bydd deiliad y swydd yn darparu:
· Gwasanaeth cardioleg cynhwysfawr i gleifion mewnol ac allanol, gyda chymorth aelodau eraill o'r adran.
· Cardioleg anfewnwthiol
· Gwasanaeth methiant y galon lleol a rhanbarthol
· Datblygu trefniadau rheoli'r gwasanaeth cardioleg lleol a rhanbarthol ar y cyd â Bwrdd Cardiaidd Strategol BIPBC
· Goruchwylio ac addysgu staff meddygol iau.
· Cyfrannu at weithgarwch israddedig ac uwchraddedig yn lleol.
· Cymryd rhan mewn archwiliadau clinigol, datblygiad proffesiynol parhaus a gweithgareddau llywodraethu clinigol yn lleol, ar lefel y Bwrdd Iechyd ac ar lefel Cymru Gyfan.
· Datblygu gwaith ymchwil a diddordebau proffesiynol.
· Cadw at bolisïau a chanllawiau BIPBC
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu amrywiaeth lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty acíwt i boblogaeth o tua 676,000 o bobl ledled chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Caiff rhai ardaloedd yng Nghanolbarth Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig eu cwmpasu gan y Bwrdd Iechyd hefyd.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 16,500 o staff ac mae ganddo gyllideb o tua £1.4 biliwn. Mae'n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Maelor Wrecsam yn Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor), yn ogystal â 22 o ysbytai acíwt a chymunedol eraill a rhwydwaith o fwy na 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydlynu gwaith 121 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau'r GIG a ddarperir yn y gogledd gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ardal fwyaf gogleddol Cymru, ger Parc Cenedlaethol prydferth Eryri ac mae'n ymestyn dros ardal ddaearyddol enfawr ac amrywiol. Mae'r morlin yng Ngogledd Cymru ymhlith y rhai mwyaf amrywiol ac ysblennydd yn y DU, gan gynnig cyfleoedd heb eu hail i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster Meddygol Sylfaenol
- Cofrestriad llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
- Cofnod ar Gofrestr Meddygon Arbenigol y GMC yn Cardioleg, ymhen chwe mis wedi'r ACC
- MRCP neu gymhwyster cyfatebol
- Bod wedi cwblhau hyfforddiant cwricwlwm yr is-arbenigedd (Methiant y Galon a Delweddu Cardiaidd) a bod hynny wedi'i gymeradwyo.
- Bod wedi cyflawni Achrediad Cymdeithas Ecocardiograffeg Prydain neu statws cyfatebol
Meini prawf dymunol
- Gradd uwch
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o hyfforddiant sylweddol ym meysydd cardioleg acíwt a chyffredinol
- Gallu ysgwyddo cyfrifoldeb llawn ac annibynnol am yr holl gleifion cardioleg cyffredinol
- Cofnod ysgrifenedig i gadarnhau hyfforddiant a phrofiad yn ymwneud â phob agwedd ar fethiant y galon.
- Cofnod ysgrifenedig o hyfforddiant a phrofiad ym mhob agwedd ar reoli'r galon a mewnblannu dyfeisiau ychwanegol a dilyniant (ar lefel uwch).
Meini prawf dymunol
- Cymrodoriaeth ym maes Methiant y Galon neu Ddelweddu
Profiad o Reoli a Gweinyddu
Meini prawf hanfodol
- Gallu cynnig cyngor ynghylch sut i gynnal gwasanaeth cardioleg effeithiol a di-dor.
- Gallu cymell a chyflwyno arferion gweithio modern.
- Gallu cydweithio'n effeithiol â chydweithwyr meddygol a dylanwadu arnynt.
- Gallu gweithio yn unol â gofynion fframweithiau a thargedau perfformiad y Bwrdd Iechyd a'r GIG, a pharodrwydd i wneud hynny
- Yn gyfarwydd â’r GIG a gwasanaethau iechyd Cymru
Meini prawf dymunol
- Profiad fel Rheolwr
Profiad o Addysgu
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth i gadarnhau cyfrannu at addysgu a hyfforddi
- Profiad o addysgu israddedigion.
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster uwchraddedig ym maes Addysg Feddygol
Profiad o Ymchwil/Archwilio
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ymchwil ym maes cardioleg
- Gallu defnyddio canlyniadau ymchwil i ddatrys problemau clinigol
- Wedi cwblhau archwiliad o waith clinigol
Meini prawf dymunol
- Cyhoeddiadau wedi'u hadolygu gan gymheiriaid
- Diddordeb ymchwil presennol
- Ceisiadau llwyddiannus am grantiau ymchwil
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Richard Cowell
- Teitl y swydd
- Clinical Lead for Cardiology
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01978 291100
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Dr Khalid Khan - Consultant Cardiologist [email protected]
Dr Raj Thaman - Consultant Cardiologist [email protected].
Dr Ketan Dhunnoo Consultant Cardiologist
Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â
- Cyfeiriad
-
Abergele Hospital
LLanfair Road
Abergele
- Rhif ffôn
- 03000843798
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector