Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Meddygaeth Gofal Dwys
- Gradd
- Ymgynghorol
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-YGC-ICU-0524
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Glan Clwyd
- Tref
- Boddelwyddan
- Cyflog
- £91,722 - £119,079 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Gofal Dwys
Ymgynghorol
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Mae Ysbyty Glan Clwyd yn chwilio am ymgynghorwyr newydd mewn gofal critigol. Rydym yn cynnig cyfle gwych o swydd gwobrwyol mewn ardal gwledig hardd â chysylltiadau da.
Mae'r swyddi yn rhai llawn amser ar gyfer deg o weithgareddau wedi'u rhaglennu (PA) bob wythnos yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yng Ngogledd Cymru. Rhagwelir y bydd saith sesiwn ar gyfer gofal clinigol uniongyrchol (DCC) a thair ar gyfer cefnogi gweithgareddau proffesiynol (SPA), yn ol contract Ymgynghorydd Cymru. Rydym yn hapus i drafod ceisiadau i weithio llai na llawn amser naill ai cyn neu ar ôl y cyfweliad yn ôl dewis yr ymgeisydd. O bosib, fe cynigir sesiynau clinigol ychwanegol i ymgeiswyr llwyddiannus, yn ddibynnol ar gydgytundeb a cynllunio swydd boddhaol. Mae’r mwyafrif o ymgynghorwyr gofal critigol presennol yn deillio o gefndir anaestheteg, ond mae’n penodai diweddar yn gweithio yn gofal critigol yn unig. Byddem yn falch iawn o ystyried ceisiadau gan feddygon ymgynghorol ICM arbenigedd unigol neu'r rheini ag ail arbenigeddau eraill, e.e meddygaeth frys.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gwaith dyddiol gofal critigol yn cynnwys 2 feddyg ymgynghorol sy'n bresennol trwy'r dydd, ynghyd â haenau iau. Mae’r ddau yn gweithio yn yr uned fel ymgynghorwyr yr wythnos, yn rheoli’r uned o ddydd Llun tan ddydd Sul. Dilynir yr wythnos hon gan wythnos heb gontract pan nad yw'n ofynnol i'r meddyg ymgynghorol fod yn y gwaith (ar gyfer gweithgareddau clinigol neu SPA). Ar hyn o bryd mae gan yr uned 8 ymgynghorydd, yn gweithio 1 ym 4 wythnos fel ymgynghorydd yr wythnos. Wrth recriwtio ymgynghorwyr ychwanegol, bydd yr amlder yn lleihau.
Mae'r wythnosau dilynol yn cynnwys cymysgedd o restrau theatr (ar gyfer anesthetyddion), ambell ddiwrnod gofal critigol yn dibynnu ar absenoldeb astudio/gwaith yn ystod absenoldeb salwch. I'r rhai sydd ag arbenigedd arall i ategu eu hyfforddiant ICM gellir trafod sesiynau clinigol yn yr arbenigeddau hynny.
Mae gwaith y tu allan i oriau yn cynnwys goruchwylio’r uned gofal critigol fel aelod o’r rota ymgynghorydd ar-alwad, 1 yn 8 gyda gorchudd arfaethedig. Eto, yn dilyn apwyntiadau newydd, y nod yw lleihau’r ymrwymiad allan-i-oriau i rota 1 mewn 12.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru a chanddo gyllideb o £1.7 biliwn a gweithlu o dros 19,000 o staff. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, eilaidd, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt i boblogaeth gogledd Cymru.
Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt ac arbenigol ar draws 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae BPIBC hefyd yn cydlynu, neu’n darparu gwaith 113 o bractisau meddygon teulu a’r gwasanaeth GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar hyd a lled y rhanbarth.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy’n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau statudol a thrydydd sector eraill. Mae BIPBC wedi datblygu perthynas â’r prifysgolion yng ngogledd Cymru ac mae, ynghyd â Phrifysgol Bangor, yn ceisio statws ysgol feddygol ac yn gweithredu mewn diwylliant dysgu sy’n gyfoeth
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Enw ar y gofrestr arbenigwyr
- Prawf o gymhwysedd I fynedfa I'r gofrestr arbenigwyr
- O fewn 6 mis o dderbyn ‘CCT’ ar amser y cyfweliad
Meini prawf dymunol
- CCT ym maes meddygaeth gofal dwys
- FFICM
- Diploma Ewropeaidd (EDIC) neu DU (DICM)
- FRCA
- Cymwysterau ôl-raddedig arall
Hyfforddiant
Meini prawf hanfodol
- Cefndir hyfforddi eang yn berthnasol i’r swydd
- Sgiliau TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Wedi cwblhau rhaglen hyfforddiant arbenigol DU
- Cymhwysedd yn nadebru a sefydlogi pediatrig
- ALS, ATLS, APLS neu cyfatebol
- Hyfforddiant yn ecocardiograffeg (FICE neu cyfatebol)
- ECDL
- Sgiliau TG uwch e.e. cynllunio gwefannau neu ap
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad cyffredinol eang ym maes gofal critigol
Meini prawf dymunol
- Profiad ar lefel ymgynghorydd
- Profiad clinigol ym maes anaesthetig
- Sgiliau neu phrofiad arbennigol
- Profiad allan-o- rhaglen mewn maes clinigol yn berthnasol i’r swydd
- Tystiolaeth o gymryd cyfrifoldeb ymgynghorydd
Gwella ansawdd ac Awdit
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o gymryd rhan mewn prosiectau gwella ansawdd neu awdit
Meini prawf dymunol
- • Tystiolaeth o gwblhau prosiectau awdit neu gwella ansawdd sydd wedi newid ymarfer
Dysgu
Meini prawf hanfodol
- Profiad o ddysgu hyfforddai
- Tystiolaeth o ymrwymiad I ddysgu hyfforddai
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o ddysgu nyrsys, parafeddygon a myfyrwyr meddygol
- Cwrs dysgu
- Cymhwyster dysgu
- Hyfforddwr achrededig (e.e. am ATLS, FICE)
- Profiad o ddefnyddio efelychiad yn addysg feddygol
Ymchwil
Meini prawf dymunol
- Cwrs neu sgiliau gwerthusiad beirniadol
- Tystiolaeth o gyfraniad i ymchwil
- Cyhoeddiadau mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid e.e. llythyrau, adroddiadau achos
- Posteri wedi’u ymddangos mewn cyfarfodydd gwyddonol
- Crynodebau wedi’u cyflwyno mewn cyfarfodydd gwyddonol
- Cyhoeddiadau yn seiliedig ar ymchwil mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid
Gweithio mewn tim
Meini prawf hanfodol
- Agored, agos-atoch ac yn fodlon rhoi a derbyn adborth
- Chwaraewr tîm sydd yn gwerthfawrogi cyfraniad unigolion yn y tîm aml- ddisgyblaeth
- Dibynadwy, hunan- ysgogol ac yn brydlon
- Tystiolaeth o’r gallu i weithio mewn sefyllfaoedd anodd a/neu pan dan straen
Meini prawf dymunol
- Gallu gweithio’n hyblyg o ran amser a lleoliad
- Parodrwydd i weithio tu hwnt i oriau gwaith arferol ar fyr rybudd mewn amseroedd o angen
- Parodrwydd i archwilio ffurfiau newydd o weithio
Rheolaeth ac arweinyddiaeth
Meini prawf hanfodol
- Tystiolaeth o ddealltwriaeth ymarferion rheolaeth y GIG
- Parodrwydd i ddod yn arweinydd mewn unrhyw maes o ddiddordeb o fewn y swydd
- Parodrwydd i fynychu a chymryd rhan gyda brwdfrydedd yng nghyfarfodydd rheolaeth yr adran
Meini prawf dymunol
- Cwrs rheolaeth
- Cyfraniad i brosiect rheolaeth
- Profiad o weinyddiaeth adran
- Profiad o lunio rhestr dyletswyddau
- Profiad o rheoli cyllid yn y weithle
- Profiad o newid sefydliadol ac ail- gynllunio gwasanaethau
- Parodrwydd i hyrwyddo gwasanaethau anaestheteg a gofal dwys o fewn yr ysbyty, bwrdd iechyd a’r economi iechyd eang
Cyfathrebu a chleifion, gofalwyr a cydweithwyr
Meini prawf hanfodol
- •Sgiliau cyfathrebu llafar diogel ac effeithiol
- • Parodrwydd i gynnwys cleifion yn eu rheolaeth
- • Gallu i drin cyfweliadau anodd gyda cleifion neu eu gofalwyr, gyda thact a sensitifrwydd
- Meistrolaeth ragorol o Saesneg lafar ac ysgrifenedig
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Gareth Mula
- Teitl y swydd
- Consultant Anaesthetist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01745 448788
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector