Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Seiciatreg Oedolion Cyffredinol
Gradd
Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YGC-MHLD-GEN-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd
Tref
Bodelwyddan
Cyflog
£91,722 - £119,079 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Seiciatrydd Ymgynghorol mewn Gofal Acíwt

Ymgynghorydd

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Mae 2 ward ar gyfer oedolion yn Uned Ablett, gyda 10 gwely ar gyfer menywod (Dinas - Merched) a 10 gwely ar gyfer cleifion mewnol gwrywaidd (Dinas - Dynion) yn ogystal ag ystafell s136. Mae’r Tîm Triniaeth yn y Cartref hefyd wedi’i leoli yn Uned Ablett. Mae Uned Ablett hefyd yn gartref i ward adsefydlu dan glo gyda 8 gwely o ddynion (Cynnydd) yn ogystal â ward weithredol 10 gwely ar gyfer Pobl Hŷn (ward Tegid).

Mae’r gwasanaeth gofal acíwt i oedolion yn cynnwys y ward oedolion ag 20 gwely a’r Tîm Triniaeth yn y Cartref. 

Gall y Tîm Triniaeth yn y Cartref dderbyn tua 25 o gleifion ar unrhyw un adeg. Caiff Gwasanaethau Datrys Argyfyngau eu darparu yn y gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol lleol ac nid ydynt yn rhan o’r model gofal acíwt hwn.

Mae’r Timau Gofal Acíwt yn cydweithio â’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i sicrhau bod cyfathrebu a chynllunio gofal yn digwydd yn amserol. 

ae gofal unigolion yn ddarostyngedig i Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, a disgwylir i ddeiliad y swydd weithio yn unol â gofynion y Mesur Iechyd Meddwl. Bydd deiliad y swydd yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y claf drwy rôl oruchwylio ac ymgynghori. Bydd yn darparu goruchwyliaeth Clinigydd Cyfrifol ar gyfer tua hanner y gwasanaeth gofal acíwt i OEDOLION sy’n cynnwys 10 gwely, a hanner cleifion y Tîm Triniaeth yn y Cartref ochr yn ochr â’r Clinigydd Cymeradwy Parhaol arall.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Deiliad y swydd fydd y meddyg ymgynghorol trin ochr yn ochr â'r Clinigydd Cymeradwy arall ar gyfer cleifion mewnol sy'n cael eu derbyn i Dinas a'r rhai a dderbynnir ar gyfer y Tîm Triniaeth yn y Cartref.  Mae’r wardiau cleifion mewnol i oedolion yn derbyn cleifion o Sir Ddinbych a Chonwy ac weithiau o ardaloedd y Dwyrain a’r Gorllewin.

Mae gan yr Uwch Adran broses weithredol ar gyfer rheoli gwelyau, sy’n caniatáu hyblygrwydd wrth reoli’r gwelyau sydd ar gael. O bryd i’w gilydd, bydd cleifion yn cael eu derbyn i’r unedau cyfatebol yn yr ardaloedd dwyreiniol a gorllewinol. 

Mae derbyniadau i’r wardiau fel arfer yn dod o’r gymuned drwy’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu’r ysbytai cyffredinol drwy’r Gwasanaeth Cydgysylltiol Seiciatrig. Mae goruchwyliaeth feddygol dros dderbyniadau yn digwydd wrth drosglwyddo cyfrifoldeb meddyg ymgynghorol ar adeg derbyn a rhyddhau. Mae deiliad y swydd a chydweithwyr yn y gymuned yn gweithio’n agos er mwyn hwyluso parhad gofal a chynllunio ar gyfer rhyddhau. Mae’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn parhau i fod yn rhan o ofal cleifion pan gânt eu derbyn. 

Deiliad y swydd fydd y clinigydd cyfrifol ar gyfer cleifion sy’n cael eu derbyn o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Bydd yn darparu arweinyddiaeth feddygol i'r tîm amlddisgyblaethol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda meddyg ymgynghorol y sector, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ac awdurdodau lleol i ddarparu parhad gofal a chynllunio rhyddhau cadarn.  

Gweithio i'n sefydliad

Rydym wrth ein bodd bod gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu.  Pan fyddwch chi'n ymuno â'r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu, gallwch gydbwyso bywyd a gwaith gyda chyfleoedd gweithio hyblyg, gweithio hybrid a gweithio ystwyth ac mae digonedd o gyfleoedd i hyfforddi a datblygu gyrfa.

Mae rhai o'r manteision niferus o ymuno â'r Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu yn cynnwys:

  • Llesiant, Gwaith a Ni - gwasanaeth sy’n cynnig cymorth ac ymyrraeth i staff ar yr adegau pan fo angen hynny. Mae ansawdd ein rhyngweithio wedi'i wreiddio yn ein llesiant ein hunain – pan fyddwn ni'n iach, gallwn gefnogi ein gilydd a’r bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau, yn well.
  • Gwasanaethau sy'n amrywio o sesiynau galw heibio, cwnsela, hyfforddi a champfa ar y safle.
  • Goruchwyliaeth Reolaethol a Chlinigol - cyfleoedd rheolaidd i staff gael adborth gan reolwyr, trafod cyfleoedd datblygu a chanolbwyntio ar lesiant yn gyffredinol.
  • Gwaith hyblyg sy'n addas i chi a'ch teulu, megis oriau llawn amser, oriau blynyddol, gwaith rhan amser, gwaith yn ystod y tymor, gweithio o bell a gweithio hybrid sy’n caniatáu cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Dewch i drafod!
  • Cefnogaeth i ddatblygu eich gyrfa mewn lle sy'n eich galluogi i gyflawni eich nodau yn y gwaith a thu hwnt.
  • Cyfle i gael eich cydnabod am waith gwych trwy ein gwobrau cyrhaeddiad staff

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb bersonol ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch ‘Gwneudd Cais Nawr’ i’w gweld yn Trac.

Manyleb y person

Cymwysterau

Meini prawf hanfodol
  • MB BS neu gymhwyster meddygol cyfatebol.
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster neu radd uwch mewn addysg feddygol, ymchwil glinigol neu reolaeth.
  • MRCPsych neu gymhwyster cyfatebol wedi'i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion.
  • Cymeradwyaeth fel Clinigydd Cymeradwy yng Nghymru.

Cymhwystra

Meini prawf hanfodol
  • Wedi'i gofrestru'n llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol â thrwydded i ymarfer adeg penodi.
  • Wedi'i gynnwys ar Gofrestr Arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu o fewn 6 mis i gwblhau CCT.
  • Statws Clinigydd Cymeradwy neu'n gallu cyflawni statws o'r fath o fewn 3 mis i gael ei benodi.
  • Wedi'i gymeradwyo o dan A12 neu'n gallu cyflawni cymeradwyaeth o'r fath o fewn 3 mis i gael ei benodi.
Meini prawf dymunol
  • Cofnod da â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol mewn perthynas â rhybuddion ac amodau ymarfer.

Sgiliau Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o hyfforddiant yn y cymwyseddau craidd ac arbenigol ar gyfer seiciatreg gymunedol.
Meini prawf dymunol
  • Profiad wrth arwain tîm amlddisgyblaethol.
  • Profiad o ymarfer seiciatrig cymunedol.

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr. Anita Pierce
Teitl y swydd
Deputy Medical Director
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 850041

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
Ambrose Onibere [email protected]
Rhif ffôn
03000855063
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg