Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Oncoleg
Gradd
Ymgynghorydd Locwm
Contract
Cyfnod Penodol: 6 mis (Tymor Penodol Locwm)
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YG-ONC-0724-L
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£105,401 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/07/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymgynghorydd mewn Oncoleg Feddygol

Ymgynghorydd Locwm

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Testun cyffro i ni yw cael chwilio am gydweithiwr newydd i ymuno â'n tîm cynyddol o ymgynghorwyr parhaol sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Oncolegydd Meddygol Ymgynghorol sydd â diddordeb yng nghanserau'r colon a'r rhefr a chanserau wrolegol i gryfhau ein gweithlu fel y gallwn ddarparu’r gofal gorau i bobl Gogledd Cymru. 


Mae proses o newid yn mynd rhagddi yn yr Uwch-adran Canser ar hyn o bryd ac mae'r adran yn awyddus i groesawu modelau newydd o weithio ac arloesi. Yn ddiweddar, rydym wedi croesawu Cymdeithion Meddygol a niferoedd cynyddol o Uwch Ymarferwyr Nyrsio yn dilyn ceisiadau achosion busnes llwyddiannus. Rydym hefyd wedi recriwtio ein Radiograffydd Ymgynghorol cyntaf ac rydym yn archwilio technolegau amrywiol i ategu'r gwasanaeth.
Mae canolfan Trin Canser Gogledd Cymru mewn lleoliad delfrydol yng nghanol y rhanbarth ac mae'n darparu ar gyfer niferoedd mawr o gleifion bob dydd. Mae pob un o’r tair canolfan trin canser yng Ngogledd Cymru wedi’u hariannu gan roddion gan y cyhoedd ac rydym yn ffodus fod ein cymunedau yn rhai mor frwdfrydig a chefnogol. 

Lleolir yr ymgeisydd llwyddiannus yn Ysbyty Gwynedd. Ceir elfen ar alwad i’r rôl a bydd gofyn i chi gyfranogi ar sail 1 mewn 5.
Rydym yn annog ac yn croesawu ceisiadau gan gydweithwyr sy’n arbenigo mewn safleoedd tiwmorau eraill a byddwn yn gweithio i greu cynllun swydd a fydd yn fuddiol i’r unigolyn ac i’r adran. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys cynllunio, rhagnodi a goruchwylio cleifion sy'n derbyn triniaeth gwrth-ganser systemig a radiotherapi ar gyfer tiwmorau solid cleifion mewnol ac allanol. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan yn y rota ar alw i ymgynghorwyr ar gyfer Uned Alaw. Rota 1 mewn 6 ar gyfer Ymgynghorydd yr Wythnos yw hon, gan gwblhau dau rownd ward ychwanegol (Bore dydd Llun a dydd Mercher) yn ystod wythnosau ar alw. Mae'r dyletswyddau ar alw hefyd yn cynnwys rhoi cyngor y tu allan i oriau mewn perthynas â'r broses o reoli cleifion canser yn Ysbyty Gwynedd, a rhoi cyngor i'r timau meddygol cyffredinol ar argyfyngau oncolegol. Bydd bod ar alw yn golygu gwneud rowndiau ward rhagweladwy ar ddydd Sadwrn a dydd Sul. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflenwi yn ystod gwyliau'r cyd-ymgynghorwyr.

Fel rhan o'i sesiynau gweithgarwch proffesiynol ategol, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan lawn mewn gweithgareddau llywodraethu clinigol ac addysg feddygol ôl-raddedig yn y gwasanaeth a gall hyn gynnwys arwain neu ymddwyn fel dirprwy arweinydd ar gyfer agwedd benodol ar waith llywodraethu ac addysg yr Is-adran Glinigol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gymryd rhan wrth ddatblygu polisïau, llwybrau a phrotocolau a'u hadolygu yn rheolaidd a hefyd gymryd rhan mewn archwiliad amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol. Mae disgwyl i'r ymgynghorwyr fynd i raglen hyfforddiant gorfodol y Bwrdd Iechyd. Caiff yr holl staff ymgynghorol eu harfarnu yn flynyddol. 
  

Gweithio i'n sefydliad

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth. 

Manyleb y person

Cymwysterau / Sgiliau Clinigol

Meini prawf hanfodol
  • • Cofrestriad llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • • MB ChB neu gymhwyster cyfatebol
  • • MRCP neu gyfatebol
  • • Cynnwys ar Gofrestr Arbenigol neu, os yw'n hyfforddi, yn gymwys i'w gynnwys ar y gofrestr ymhen 6 mis
Meini prawf dymunol
  • • Gradd Uwch

Gwybodaeth / Galluoedd / a/neu Brofiad Arbennig

Meini prawf hanfodol
  • • Profiad priodol mewn swyddi gradd hyfforddiant ar lefel SpR/SR
  • • Hyfforddiant cyfatebol a dderbynnir gan y Coleg Brenhinol / Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer Cofrestrydd Arbenigol

Sgiliau Personol / Rhinweddau

Meini prawf hanfodol
  • • Yn dangos sgiliau rhyngbersonol da gyda chleifion, perthnasau ac aelodau o'r tîm clinigol
  • • Y gallu i gael cyfrinachedd ac ymddiriedaeth
  • • Y gallu i ymdopi â phwysau
  • • Y gallu i ymateb i newid
  • • Cwrtais
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau arweinyddiaeth sy'n briodol i'r canlynol: • Cyfarwyddo ac addysgu proffesiynau meddygol, nyrsio a phroffesiynau eraill sy'n gysylltiedig â meddygaeth
  • Sgiliau arweinyddiaeth sy'n briodol i'r canlynol:• Cymryd rhan mewn timau amlddisgyblaethol a'u harwain

Ymchwil

Meini prawf hanfodol
  • • Ymchwil a gyhoeddwyd
  • • Mae wrthi'n annog ymchwil gyda staff iau a staff eraill
Meini prawf dymunol
  • • Gradd ymchwil

Gofynion Ychwanegol

Meini prawf hanfodol
  • • Ymrwymiad i ddatblygiad personol ac addysg feddygol
  • • Datgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • • Y gallu i addysgu a hyfforddi staff meddygol iau
  • • Sgiliau cyfathrebu ardderchog
Meini prawf dymunol
  • • Sgiliau TG da
  • • Profiad mewn addysgu, archwilio clinigol
  • • Sgiliau cyfrifiadurol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Dr Claire Fuller
Teitl y swydd
Consultant/Ymgynghorydd
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 851401

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
Ambrose Onibere [email protected]
Rhif ffôn
03000855063
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg