Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Obstetreg & Gynaecoleg
Gradd
NHS Medical & Dental: Ymgynghorydd
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
050-YG-O&G-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Gwynedd
Tref
Bangor
Cyflog
£100,000 - £146,000 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
20/08/2024 23:59

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo

Ymgynghordd Mewn Oncoleg Gynaecolegol

NHS Medical & Dental: Ymgynghorydd

Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.

Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".

Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.

Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig y mae'n rhaid bod ganddo Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT) neu gymhwyster cyfatebol mewn Oncoleg Gynaecolegol ac wedi cofrestru ar gofrestr arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu fod o fewn chwe mis o gael hyn ar adeg y cyfweliad, i ymuno â'n tîm o Obstetryddion a Gynaecolegwyr a dau Oncolegydd Gynaecolegol ymgynghorol is-arbenigol. Swydd barhaol i gymryd lle deiliad swydd arall yn dilyn ymddeoliad trydydd meddyg ymgynghorol is-arbenigol yw hon.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Ar hyn o bryd, mae tri Meddyg Ymgynghorol mewn Oncoleg Gynaecolegol yn gweithio yng Nghanolfan Canser Gynaecolegol Gogledd Cymru. Mae'r amserlen arfaethedig ar gyfer y Meddyg Ymgynghorol newydd (gweler isod) yn disodli amserlen un o'n meddygon ymgynghorol presennol sy'n ymddeol.

Lleolir y swydd hon yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Mae'r ganolfan ganser lawfeddygol yn darparu gwasanaeth i'r cleifion canser gynaecolegol bob wythnos. Rydym yn bwriadu gweithio 1:6 penwythnos ynghyd â'n meddygon ymgynghorol O&G cyffredinol. Fodd bynnag, nid yw'r ymrwymiadau ar alw ar gyfer y swydd hon yn cynnwys unrhyw waith cyflenwi gynaecoleg neu obstetrig cyffredinol. Dyrennir 1.0 sesiwn i hyn. Mae'r ymrwymiadau rownd y ward ar alw ac ar y penwythnos yn cynnwys cyflenwi arfaethedig.

Bydd ymrwymiad i addysgu israddedig ac ôl-raddedig.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru a chanddo gyllideb o £1.7 biliwn a gweithlu o dros 19,000 o staff. Mae’r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau sylfaenol, eilaidd, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt i boblogaeth gogledd Cymru.

Mae BIPBC yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbytai acíwt ac arbenigol ar draws 3 ysbyty acíwt, 22 ysbyty cymunedol a rhwydwaith o dros 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, canolfannau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae BPIBC hefyd yn cydlynu, neu’n darparu gwaith 113 o bractisau meddygon teulu a’r gwasanaeth GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar hyd a lled y rhanbarth.

Mae’r Bwrdd Iechyd yn system iechyd integredig sy’n ymdrechu i ddarparu gofal tosturiol mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau statudol a thrydydd sector eraill. Mae BIPBC wedi datblygu perthynas â’r prifysgolion yng ngogledd Cymru ac mae, ynghyd â Phrifysgol Bangor, yn ceisio statws ysgol feddygol ac yn gweithredu mewn diwylliant dysgu sy’n gyfoeth o ymchwil.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth. 

Manyleb y person

Gwybodaeth/ Cymhwyster

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad llawn â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol efo Ar Gofrestr Arbenigol y Cyngor Meddygol Cyffredinol neu'n gymwys i dderbyn CCT, Oncoleg Gynaecolegol o fewn 6 mis i'r cyfweliad
  • MRCOG neu gymhwyster cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • ALS
  • Gradd(au) perthnasol ychwanegol

Sgiliau a Galluoedd Sylfaenol

Meini prawf hanfodol
  • Lefelau priodol o sgiliau a galluoedd a ddisgwylir gan feddyg ymgynghorol sydd wedi cael hyfforddiant priodol ym maes oncoleg gynaecolegol
  • Gwybodaeth a phrofiad ymarferol da o oncoleg gynaecolegol gyfredol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau cyfrifiadurol

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad priodol mewn swyddi gradd hyfforddiant ar SpR/SR/STR sy'n arwain at achrediad ar gyfer CCT
  • Hyfforddiant cyfatebol a dderbynnir gan y Coleg/Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer Cofrestrydd Arbenigol (CESR)
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o brosiectau archwilio
  • Tystiolaeth o ymchwil sy'n berthnasol i oncoleg gynaecolegol

Gofynion Perthnasol Eraill

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i addasu i anghenion newidiol gwasanaeth
  • Gweithio dan bwysau
  • Addysgu a hyfforddi staff meddygol iau yn yr adran oncoleg gynaecolegol
Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg sylfaenol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Working ForwardApprenticeships logoDisability confident leaderStonewall Top 100Stop Smoking Wales is the NHS Smoking Cessation Service in WalesMindful employer.  Being positive about mental health.hyderus o ran anableddTime to changeStonewall Top 100 EmployersCore principles

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Nerys Jones
Teitl y swydd
Service Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
03000 841228

Os ydych yn cael problemau'n gwneud cais, cysylltwch â

Cyfeiriad
Abergele Hospital
Ambrose Onibere [email protected]
Rhif ffôn
03000855063
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg