Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Anadlol
- Gradd
- Consultant
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 10 sesiwn yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 050-YG-RESP-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Gwynedd
- Tref
- Bangor
- Cyflog
- £91,722 - £119,079 Y Flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/371.png)
Consultant in Respiratory and General Internal Medicine
Consultant
Os ydych yn mwynhau her, gydag angerdd i helpu eraill neu'n dymuno dechrau o’r newydd, yna mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Gogledd Cymru yr holl gynhwysion sydd eu hangen arnoch. Ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu ystod lawn o wasanaethau cychwynnol, cymuned, iechyd meddwl ac ysbytai llym a dewisol i boblogaeth o ryw 700,000 o bobl ar draws Gogledd Cymru. Ymunwch â'n tîm a chael y cymorth sydd ei angen arnoch, yn unol â’n Gwerthoedd Sefydliadol a’n fframwaith galluedd 'Balch o Arwain'.
Mwynhewch fod yn rhan o weithio gydag arweiniad ymroddedig ar bob lefel, a chael sicrwydd ein bod yn ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn falch o groesawu ymgeiswyr o dan y cynllun "Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd".
Gwiriwch eich cyfrif ebost yn rheolaidd. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael yr holl ohebiaeth recriwtio drwy’r cyfeiriad ebost a gofrestrwyd ar y ffurflen gais.
Caniateir i geisiadau gael eu cyflwyno yn y Gymraeg. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau
Trosolwg o'r swydd
Gwahoddir ceisiadau am swydd Meddyg Ymgynghorol Anadlol Parhaol a Meddyg Cyffredinol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gogledd Cymru.
Lleolir y swydd ymgynghorydd sylweddol hon yn Ysbyty Gwynedd, Bangor. Mae Gogledd Cymru yn lle ysblennydd i fyw ac yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored, atyniadau a bwytai rhagorol. Cawn ein hamgylchynu gan olygfeydd godidog i’w harchwilio o fryniau tonnog a mynyddoedd garw Parc Cenedlaethol Eryri i draethau hir tywodlyd Ynys Môn a Phen Llŷn. Mae Caer lai nag awr i ffwrdd ac mae dinasoedd Lerpwl a Manceinion ychydig dros awr yn golygu bod y lleoliad hwn yn lle perffaith i fyw. Mae yna dai fforddiadwy o safon yn ogystal ag ysgolion annibynnol a gwladol rhagorol ac amwynderau lleol gwych.
Mae cysylltiadau cryf yn bodoli gydag ysbytai acíwt eraill y Bwrdd Iechyd a chyda chanolfannau trydyddol yng Ngogledd Orllewin Lloegr. Mae'r adran yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol gyda'r safleoedd eraill hyn. Mae cysylltiadau cryf hefyd yn bodoli gyda Phrifysgol Cymru, Bangor gan roi cyfle i ymgeiswyr archwilio eu diddordebau ymchwil neu ddysgu.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o dri meddyg ymgynghorol parhaol sy'n bod eisoes. Mae hon yn swydd deg PA gydag ymrwymiadau cleifion mewnol a chleifion allanol ac sy'n cyfrannu at y rota ar-alwad feddygol gyffredinol. Bydd cyfle i ddatblygu diddordeb is-arbenigol a chyfrannu at lwyth gwaith anadlol cyffredinol yr adran. Mae'r swydd wedi'i seilio ar 10 PAs gyda'r opsiwn i wneud sesiynau ychwanegol. Mae cylchdro rhwng y pedwar meddyg ymgynghorol llawn amser yn cael ei gynnig rhwng y ward resbiradol, y ward allanol ac atgyfeiriadau clefion mewnol. Mae angen trawsgyflenwi ar gyfer ymrwymiadau clefion mewnol pan fydd meddygon ymgynghorol ar wyliau. Yn ystod y misoedd oddi ar y ward, mae’r PA 'rowndiau ward' yn cael ei newid am sesiynau i weld cyfeiriadau
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu amrywiaeth lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac ysbyty acíwt i boblogaeth o tua 676,000 o bobl ledled chwe sir Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Caiff rhai ardaloedd yng Nghanolbarth Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig eu cwmpasu gan y Bwrdd Iechyd hefyd.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi tua 16,500 o staff ac mae ganddo gyllideb o tua £1.4 biliwn. Mae'n gyfrifol am redeg tri ysbyty cyffredinol dosbarth (Ysbyty Maelor Wrecsam yn Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ger y Rhyl ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor), yn ogystal â 22 o ysbytai acíwt a chymunedol eraill a rhwydwaith o fwy na 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydlynu gwaith 121 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau'r GIG a ddarperir yn y gogledd gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ardal fwyaf gogleddol Cymru, ger Parc Cenedlaethol prydferth Eryri ac mae'n ymestyn dros ardal ddaearyddol enfawr ac amrywiol. Mae'r morlin yng Ngogledd Cymru ymhlith y rhai mwyaf amrywiol ac ysblennydd yn y DU, gan gynnig cyfleoedd heb eu hail i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Anogir ymgeiswyr i gyfeirio at y Disgrifiad Swydd a Manyleb yr Unigolyn sydd ynghlwm am ragor o wybodaeth
Manyleb y person
Cymwysterau
Meini prawf hanfodol
- Gradd feddygol uwch priodol (MD neu gyfatebol)
- Cofrestriad llawn â'r GMC
- MRCP
- CCT neu gyfwerth (rhaid i’r GMC gadarnhau cywerthedd erbyn dyddiad yr AAC)
Meini prawf dymunol
- Gradd Ôl-radd uwch
- ALS
Profiad Clinigol
Meini prawf hanfodol
- Wedi cwblhau hyfforddiant arbenigol deuol mewn Resbiradaeth a Meddygaeth Fewnol Gyffredinol neu gyfatebol
- Profiad o weithio yn y GIG
- Bronchosgopydd annibynnol
Meini prawf dymunol
- Thoracosopi
- Bronchosgopi uwch
Profiad Gweinyddol a Rheoli
Meini prawf hanfodol
- Gallu gweithio'n effeithiol â chydweithwyr mewn lleoliad MDT.
- Y gallu a'r parodrwydd i weithio o fewn fframwaith perfformiad a thargedau'r sefydliad
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli
Profiad o Addysgu/Archwilio
Meini prawf hanfodol
- Gallu defnyddio canlyniadau ymchwil i broblemau clinigol
- Profiad o archwilio
- Gallu cynnal asesiadau yn y gweithle
Meini prawf dymunol
- Ymrwymiad rhagweithiol at addysgu
- Tystiolaeth o gyfranogiad mewn archwiliad a dyluniad
Rhinweddau Personol
Meini prawf hanfodol
- Profiad o allu mewn tim ac yn annibynnol
- Gallu addasu i newid yn anghenion gwasanaeth
- Cyfathrebwr da
- Sgiliau rhyngbersonol da
- Agwedd hyblyg
Meini prawf dymunol
- Perchennog/ Gyrrwr car oherwydd daearyddiaeth y Bwrdd Iechyd a mynychu clinigau
- Gallu cyfathrebu neu ymgynghori yn y Gymraeg neu ddiddordeb mewn datblygu'r sgil hwn.
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Zoe Strydhorst
- Teitl y swydd
- Service Support Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 03000 851438
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Keith Jones Rheolwr arweiniol
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Meddygol a deintyddol neu bob sector