Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Tîm Gwella Ansawdd a Thrawsnewid y Gwasanaeth
Gradd
Gradd 5
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC165-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
I'w Gadarnhau
Tref
I'w Gadarnhau
Cyflog
£28,834 - £35,099 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
31/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
09/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Hwylusydd Gwella Ansawdd a Thrawsnewid y Gwasanaeth

Gradd 5

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous yn ein Tîm Gwella Ansawdd a Thrawsnewid y Gwasanaeth, ac rydym yn chwilio am unigolion sydd â phrofiad o weithio ym maes gwella ansawdd yn barhaus.

Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm dynamig ledled y pedwar safle acíwt yn Hywel Dda (gyda'r rhan fwyaf o'r amser yn cael ei dreulio yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac Ysbyty Tywysog Philip), a hynny ar brosiectau penodol a bennir gan y Tîm Gwella Ansawdd a Thrawsnewid y Gwasanaeth.

Crynodeb Swydd/Pwrpas:

Cynorthwyo i ddatblygu a chyflawni prosiectau gwella a newid trawsnewidol gyda'r nod o sicrhau gofal o ansawdd uchel.

Cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau prosiect/gwella fel y bo'n briodol, a chefnogi'r broses o weithredu tasgau penodol ar gyfer y Tîm Gwella Ansawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau fel y'u dirprwyir.

Arwain y broses o brofi newidiadau trwy fethodoleg PDSA fel y bo'n briodol.

Y gallu i ddangos effaith fesuradwy prawf newid ac i gyfathrebu'r effaith hon.

Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithredu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn gofyn am ddealltwriaeth o broses newid ac o'r rolau sy'n ymwneud â'r broses hon. 

Diben pwysicaf y rôl yw cefnogi'r gwaith o ddarparu gofal cleifion o'r ansawdd uchaf, trwy weithredoedd personol a gwelliant parhaus.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn gyfrifol am gefnogi'r broses o ddatblygu cynlluniau prosiect/gwella ar gyfer cyflawni prosiectau penodol yn y Tîm Gwella Ansawdd a Thrawsnewid y Gwasanaeth i'w gweithredu ledled y Bwrdd Iechyd.

Sicrhau bod prosiectau penodol a neilltuir yn bodloni cerrig milltir ac amserlenni allweddol.

Arwain, ysgogi, ymgysylltu ac arwain staff sy'n ymwneud â'r prosiect, gan sicrhau bod yna gyfathrebu rheolaidd, y ceir adborth, y cynhelir cyfarfodydd, y cedwir cofnodion, y cyflwynir adroddiadau priodol ac y rhoddir camau y cytunwyd arnynt ar waith.

Sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn cael eu cynrychioli a’u cynnwys wrth i’r prosiect symud ymlaen, ac ystyried eu barn.

Dangos manteision prosiectau ar draws y Bwrdd Iechyd, ac adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd trwy ddarparu adroddiadau a diweddariadau.

Canfod a chael dealltwriaeth lawn o gefndir y prosiect gan ddefnyddio amryw o strategaethau gwella.

Cefnogi unigolion a'r tîm i ymgymryd â phrosiectau gwella gan ddefnyddio methodolegau gwella cadarn.

Y gallu i flaenoriaethu a chynllunio llwyth gwaith yn annibynnol i fodloni terfynau amser, a hynny'n aml mewn amgylchedd dan bwysau.

Cynorthwyo i gynllunio a gweithredu allbwn y prosiect, gan sicrhau bod cyfathrebu effeithiol yn cael ei gynnal â staff clinigol a rheoli, a hynny er mwyn cynnal cydweithrediad llawn drwy gydol y prosiectau. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar daith gyffrous iawn i wella ansawdd yn barhaus. Gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi buddsoddi mewn datblygu ein set sgiliau a'n galluogrwydd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chynaliadwy mewn ansawdd i ddefnyddwyr ein gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a staff.

Mae cydweithredu â'r timau gweithredol a chlinigol, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol, yn hanfodol i'r rôl hon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rhagorol o ran cyfathrebu, ysgogi a gwella ansawdd, a bydd hefyd yn gallu cefnogi'r timau i wella a sicrhau bod gofal cleifion wrth galon eu gwaith.

Mae hon yn swydd Bwrdd Iechyd led, sylfaen i'w gadarnhau yn dilyn apwyntiad.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 09/08/2024.

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio yn y GIG
  • Profiad o weithio mewn tîm amlddisgyblaeth
  • Profiad o reoli newid
  • Profiad o hyfforddi staff a rhoi cymorth iddynt ddatblygu
  • Profiad o sicrhau bod staff yn mynd ati i gymryd rhan mewn mentrau trawsnewid/gwella
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd gwella prosiect, ac o werthuso prosiectau
  • Profiad o arwain a rheoli mentrau/prosiectau gwella a chyflawni buddion a nodir
  • Profiad o hyfforddi staff a rhoi cymorth iddynt ddatblygu

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Qualifications & Knowledge

Meini prawf hanfodol
  • Cymhwyster level gradd mewn maes cysylltiedig neu brofiad perthnasol
  • Gwybodaeth am berfformiad presennol y GIG a mentrau a thargedau gwella gwasanaethau
  • Deall y model ar gyfer gwella, ailgynllunio prosesau a rheoli newid
  • IQT Efydd
  • Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
  • Gwybodaeth ymarferol o becynnau microsoft office
Meini prawf dymunol
  • IQT Arian
  • Gwybodaeth am fethodolegau rheoli prosiectau

Other

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
  • Ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Claire Rawlinson
Teitl y swydd
Quality Improvement Practitioner
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07484 887743
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Sian Hopkins

07854 165777

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg