Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu
Band 9
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Yn dilyn adolygiad o Strwythur Gweithredol y Bwrdd Iechyd, mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i uwch-arweinydd gweithredol profiadol ymuno â ni yn rôl y Dirprwy Brif Swyddog Gweithredu. Bydd y rôl, a fydd yn golygu gweithio'n agos gyda'r Prif Swyddog Gweithredu, yn gyfrifol am
arwain y gwaith o ddarparu a rheoli gwasanaethau gweithredol o ddydd i ddydd ledled y Bwrdd Iechyd integredig. Bydd y rôl yn hollbwysig o ran sefydlu ac arwain ein Strwythur Grŵp Gofal Clinigol newydd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uwch-reolwr gweithredol profiadol sy'n meddu ar awydd diwyro i wneud ei orau glas dros ein cleifion, ein poblogaeth a'n staff. Bydd gennych hanes o ddarparu gwelliant o ran ansawdd a pherfformiad ar draws ystod o wasanaethau, a hynny wrth
sicrhau gwerth am arian. Byddwch yn fedrus iawn o ran meithrin perthnasoedd yn fewnol ac yn allanol sy'n cefnogi gwelliant a newid ar gyflymder a graddfa addas. Byddwch yn gyfforddus yn cymryd atebolrwydd ac ysgwyddo cyfrifoldeb mewn perthynas â safonau perfformiad a gweithio'n rhan o uwch-dîm arwain. Bydd y rôl yn eang ei chwmpas a'i rhychwant gan gwmpasu holl ehangder yr agenda cyflawni gweithredol. Bydd gennych yr hygrededd i weithredu yn rôl y Prif
Swyddog Gweithredu yn ôl y gofyn.
Dyma gyfle gwych i unrhyw un sy’n ddarpar Brif Swyddog Gweithredu mewn sefydliad GIG mawr gymryd y cam nesaf yn ei yrfa.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Os yn lwyddianus ar ôl cwblhau'r rhestr fer, gofynnir i chi gwblhau asesiadau seicometrig. Anfonir gwybodaeth am y rhain a'r paneli rhanddeiliaid/cyfweliad atoch ar ôl cwblhau'r rhestr fer.
Cynhelir paneli rhanddeiliaid ar 22/08/2024.
Cynhelir cyfweliadau ar 23/08/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster lefel Meistr neu brofiad cyfatebol ar lefel uwch-reolwr
- Cymhwyster rheoli ar lefel ôl-raddedig neu brofiad cyfatebol.
- Tystiolaeth o ddatblygiad rheolaethol a phersonol parhaus.
- Cymhwyster Rheoli Prosiectau neu Raglenni, neu brofiad cyfatebol
- Dealltwriaeth a gwybodaeth fanwl mewn perthynas â strategaethau, polisïau a blaenoriaethau cyfredol ym maes gofal iechyd.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Portffolio helaeth o brofiad o weithio ar lefel uwch mewn sefydliad mawr, cymhleth
- Gwybodaeth fanwl/helaeth am amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys rheolaeth gyffredinol, rheolaeth ariannol, cynllunio busnes, llywodraethu, strategaethau clinigol a pherfformiad a gafwyd trwy hyfforddiant arbenigol neu brofiad cyfatebol dros gyfnod estynedig
- Profiad sylweddol o gynllunio a datblygu strategaethau, a dylanwadu arnynt a'u gweithredu, ynghyd â hanes blaenorol profedig o reolaeth strategol a gweithredol.
- Profiad sylweddol o ddefnyddio prosesau rheoli perfformiad
- Hanes o gyflwyno gwelliannau i wasanaethau, newid trawsnewidiol ac ailgynllunio a chyflawni prosiectau mawr cymhleth.
- Profiad sylweddol o reoli staff a gweithio mewn partneriaeth ag Undebau Llafur/cynrychiolwyr staff, sefydliadau partner a'r cyhoedd i gyflwyno newid.
- Profiad o gyflawni amcanion yn unol â thargedau perfformiad heriol ac o gefnogi eraill i gyfrannu at y nodau hyn
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrew Carruthers
- Teitl y swydd
- Chief Operating Officer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector