Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Radiograffydd Adrodd
Gradd 7 / Atodiad 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r gwasanaeth Radioleg yn bwriadu penodi i ddwy swydd ar gyfer Radiograffwyr Adrodd, y bydd gofyn iddynt weithio'n benodol yn arbenigeddau adrodd y frest a'r abdomen a chyhyrysgerbydol (i'w drafod yn y cyfweliad, a'r neilltuad i'w bennu wrth benodi).
Mae prif adrannau Radioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth.
Mae'n bosibl y cewch eich lleoli yn y lleoliad o'ch dewis; fodd bynnag, bydd angen teithio i safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd ar gyfer mentoriaeth os bydd hyfforddiant yn ofynnol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rhaid i ymgeiswyr fod yn Weithwyr Iechyd Proffesiynol Cofrestredig sy'n meddu ar gymhwyster ôlraddedig priodol. Mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio oriau hyblyg i fodloni gofynion y gwasanaeth, a bydd patrwm gwaith hyblyg yn cael ei ystyried. Bydd tystiolaeth o DPP ac archwilio yn
ofynnol.
Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o adrodd ar ffilm blaen mewn perthynas â delweddau o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd.
Bydd angen i chi feddu ar ymagwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth, bod yn agored i newid, a gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal â mewn tîm sefydledig.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu/trefnu rhagorol, a bydd yn llawn tact ac yn ddiplomataidd. Byddwch yn ymwneud â goruchwylio myfyrwyr-radiograffwyr yn ogystal â Radiograffwyr sy'n dilyn cyrsiau Adrodd.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Hysbysebir y swydd hon ar Fand 6; fodd bynnag anogir yr ymgeiswyr hynny nad ydynt ar hyn o bryd yn meddu ar yr holl gymwyseddau angenrheidiol ar gyfer lefel Band 6 i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, cânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21. Yn ystod y flwyddyn gyntaf bydd y taliad yn 70% o'r gyfradd cyflog uchaf ym mand 7, a'r ail flwyddyn yn 75%. Byddai'r ymgeiswyr yn cael cymorth i ddatblygu'r cymwyseddau sy'n ofynnol i gyflawni'r rôl cyn pen 12 mis. Ar ôl llwyddo i gwblhau hynny, a meithrin y sgiliau a'r cymwyseddau yn llwyddiannus ar gyfer y rôl, bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar lefel band 6 (pwynt isaf y raddfa). Gallai peidio â chyflawni'r cymwyseddau ymhen yr amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Fel rhan o broses Atodiad 21, nid oes cosb ariannol i’r rhai sy’n gwneud cais am y rôl hon lle bydd y ganran yn achosi gostyngiad mewn cyflog, ac o ganlyniad byddai amddiffyniad lleol yn cael ei roi ar waith nes bod y cyflog wedi dal i fyny.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 29.07.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- BSc Radiograffeg (neu gymhwyster cyfatebol cydnabyddedig)
- Cofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Cymhwyster ôl-raddedig mewn adrodd delweddau radiograffig sy'n addas ar gyfer y rôl a hysbysebir
Meini prawf dymunol
- Modiwl Diploma ôlraddedig/lefel Meistr mewn dulliau delweddu pellach
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol mewn uwch rôl Radiograffig gyda phrofiad mewn goruchwylio
- Profiad blaenorol y GIG
Meini prawf dymunol
- Profiad eang o radiograffeg uwch / rheolaeth iau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio'n dda yn unigol ac i ddefnyddio eich menter eich hun
- Gweithiwr tîm da
- Ymagwedd hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth – yn gallu gweithio oriau hyblyg.
- Y gallu i deithio yn ardal ddaearyddol y Bwrdd Iechyd
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona Osell
- Teitl y swydd
- Site Lead Superintendent Radiographer
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 899086
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector