Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Rheolwr Dysgu a Datblygu
Gradd 8a
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am Reolwr Dysgu a Datblygu sy’n unigolyn deinamig a phrofiadol, a hynny i arwain y Tîm Dysgu a Datblygu mewn modd tosturiol. Mae'r swydd hon yn hanfodol i ddygni ar ein mentrau sefydliadol o ran hyfforddi a gwella perfformiad. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn angerddol dros ddatblygiad pobl, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a meddylfryd strategol.
Gan gydnabod bod meithrin perthnasoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan allweddol o’r swydd, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cydweithio ac arddangos sgiliau trefnu hynod ddatblygedig, yn ysgogi arloesedd, yn meithrin diwylliant o ddysgu parhaus ac yn sicrhau rheolaeth prosiect effeithiol o weithgareddau dysgu a datblygu ar draws y Bwrdd Iechyd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y canlynol:
- Profiad profedig o ddylunio a gweithredu rhaglenni hyfforddi llwyddiannus.
- Dealltwriaeth gref o egwyddorion dysgu oedolion a dylunio hyfforddiadol.
- Sgiliau cyflwyno, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
- Hyfedredd gyda systemau rheoli dysgu (LMS) a llwyfannau e-ddysgu.
- Medru cydweithio a dylanwadu ar randdeiliaid ar bob lefel.
- Sgiliau cryf o ran rheoli prosiect a threfnu.
Mae lleoliad y swydd hon o fewn y tair sir i’w gadarnhau, ond bydd angen gallu teithio i safleoedd eraill pan fo angen.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Arwain y tîm i:
- Lunio dyfodol ein sefydliad trwy raglenni dysgu a datblygu rhagorol.
- Dylunio, gweithredu a rheoli rhaglenni dysgu a datblygu cynhwysfawr.
- Cynnal asesiadau anghenion i nodi bylchau sgiliau a gofynion hyfforddi ar draws y sefydliad.
- Datblygu a chyflwyno sesiynau hyfforddi, gweithdai a modiwlau e-ddysgu diddorol.
- Gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni hyfforddi a gwneud gwelliannau’n barhaus.
- Cydweithio â phenaethiaid adrannau i gysoni mentrau hyfforddi â nodau busnes.
- Rheoli'r system rheoli dysgu (LMS) ac adnoddau hyfforddi eraill.
- Bod yn gyfredol â thueddiadau diwydiant ac arferion gorau mewn dysgu a datblygu.
- Cefnogi’r gwaith o gynllunio olyniaeth a mentrau datblygu gyrfa.
Rheoli Prosiect:
- Cynllunio, gweithredu a gwerthuso rhaglenni dysgu, gweithdai a modiwlau e-ddysgu.
- Cydweithio â thimau traws-swyddogaethol i nodi anghenion hyfforddi, a dylunio atebion wedi'u teilwra.
- Monitro amserlenni, cyllidebau a dyraniad adnoddau ar gyfer prosiectau.
- Hyrwyddo diwylliant o ddysgu a datblygu ar draws y sefydliad.
Llywodraethu, Cydymffurfiaeth a Sicrwydd Ansawdd:
- Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddio a llywodraethu ariannol.
- Goruchwylio’r gwaith o gynnal deunyddiau a chynnwys hyfforddi o ansawdd uchel.
- Gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni ac addasu yn ôl yr angen.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir yr asesiad a'r cyfweliad ar 12/08/2024.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd meistr neu gymhwyster/brofiad cyfatebol mewn perthynas ag addysg neu reoli adnoddau dynol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o reoli ar lefel uwch
- Rheoli/goruchwylio staff
- Profiad o offer a thechnegau rheoli prosiectau
- Profiad o ddatblygu a gweithredu systemau newydd a phrosiectau mewn sefydliad
- Wedi rheoli a chefnogi myfyrwyr ar lefel uwch
- Profiad o weithio mewn amgylchedd cymhleth a rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol
- Wedi dehongli a gweithredu ar wybodaeth a archwiliwyd ar lefel uwch
- Profiad sylweddol o ddarparu addysg ar bob lefel
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli/incwm cyllidebol
- Profiad o offer a thechnegau rheoli newid i gefnogi newid mewn sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol
Sgiliau Iatih
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – Lefel 1
Sgiliau a Phriodweddau
Meini prawf hanfodol
- Yn graff yn wleidyddol, ac yn meddu ar y gallu i gyfleu gwybodaeth tra chymhleth a dadleuol, a hynny'n ysgrifenedig ac ar lafar
- Gwybodaeth brofedig am reoli prosiectau a'r prosesau gofynnol
- Gwybodaeth am reoli a datblygu perfformiad
- Sgiliau meddwl yn feirniadol, ynghyd â'r gallu i ddadansoddi data cymhleth a gweithredu yn unol â'r canlyniad
- Sgiliau arwain a rheoli cadarn
- Y gallu i ddadansoddi materion cymhleth yn ymwneud â phrosiectau a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eich barn eich hun
- Y gallu i gymell staff i gyflawni prosiectau allweddol
- Sgiliau rhagorol o ran rheoli amser
- Y gallu i ddefnyddio sgiliau perswadio a negodi tra datblygedig i gyflawni prosiectau
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol
- Sgiliau bysellfwrdd safonol
- Microsoft Office – Power BI, Lists a Teams
- Y gallu i ysgrifennu adroddiadau ffurfiol
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth ymarferol am gynllunio strategol
Arall
Meini prawf hanfodol
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i fodloni terfynau amser tyn
- Y gallu i weithio heb oruchwyliaeth a gwneud penderfyniadau yn unol â ffiniau cytunedig
- Y gallu i weithio'n hyblyg a delio â thipyn o amwyster
- Cefnogi cyd-weithwyr i ddelio ag amwyster a blaenoriaethau newidiol
- Y gallu i weithio'n unol ag egwyddorion, targedau a cherrig milltir perfformiad eang mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol, ac i weithio ar draws sefydliadau
- Y gallu i gynllunio a threfnu rhaglenni cymhleth o weithgareddau
- Y gallu i reoli gofynion anodd, sy'n aml yn wrthgyferbyniol, ac i ailflaenoriaethu eich gweithgareddau chi a gweithgareddau'r rheiny yr ydych yn eu rheoli
- Sylw cyson i fanylion a gwaith o ansawdd da
- Y gallu i weithio yn rhan o dîm
- Y gallu i sefydlu a chynnal perthnasoedd gwaith da â phobl o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Amanda Glanville
- Teitl y swydd
- Assistant Director of People Development
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector