Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth (Practisau a Reolir)
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC119-0524-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Meddygfa Dinbych-y-pysgod
- Tref
- Tenby
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 Y flwyddyn, pro rata os rhan amser
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Rheolwr Cyflenwi Gwasanaeth (Practisau a Reolir)
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae hon yn rôl allweddol o ran bod yn gyfrifol am sicrhau bod Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn cael eu darparu mewn modd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy i’r cleifion hynny sydd wedi’u cofrestru gyda Phractis a Reolir gan y Bwrdd Iechyd, gan oruchwylio’n benodol y gwaith o reoli’r Practis o ddydd i ddydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu
amlygu hanes perthnasol o ddarparu gofal diogel ac effeithiol i gleifion, rheoli tîm a sgiliau trefnu rhagorol, ynghyd ag uchelgais i ysgogi newid a moderneiddio gwasanaethau, a hynny i sicrhau bod y Practis a Reolir yn gweithio'n unol â pholisïau cenedlaethol a lleol, yn ogystal â chadw at delerau'r contract Gwasanaethau Meddygol Unedig Cyffredinol y
disgwylir i bractisau ledled Cymru ei gyflawni, a meddu ar ddealltwriaeth glir o’r contract.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan ddeiliad y swydd Bractis a Reolir dynodedig y bydd ganddo gyfrifoldeb gweithredol a rheolaethol am y gwasanaethau y mae'n eu darparu, ynghyd â chyfrifoldeb am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd. Bydd ganddo hefyd faes arbenigedd arweiniol a fydd yn ymestyn ar draws yr holl Bractisau a Reolir gan y Bwrdd Iechyd. Gallai enghreifftiau gynnwys y canlynol:
Gofynion Contractiol a Chyflwyno Datganiadau Blynyddol/Pecynnau Cymorth
Cyllid, Cyllidebau a Safleoedd
Llywodraethu Gwybodaeth a Llywodraethu Clinigol
Comisiynu a Hawlio Gwasanaethau Ychwanegol
Adnoddau Dynol a Recriwtio
Ymdrin â Phryderon
Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau rheoli llinell gweithredol cyffredinol dros yr holl staff a gyflogir yn ei Bractis dynodedig, a bydd yn cael cymorth proffesiynol i reoli aelodau clinigol y tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn atebol i Reolwr Busnes y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a Phennaeth y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol
o ran adrodd am gydymffurfedd staff, y gyflogres, uwchgyfeirio pryderon cleifion, adroddiadau/hawliadau yn erbyn y Practis, a bod yn atebol, yn ôl y gofyn, am wybodaeth neu ddata y gall cyd-weithwyr perthnasol y Bwrdd Iechyd ofyn amdanynt. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio'n annibynnol o fewn ei gylch gwaith ei hun a gofyn am arweiniad gan adrannau cefnogol eraill yn y sefydliad pan fo angen.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 18/07/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg i lefel gradd Meistr, neu lefel gyfwerth o wybodaeth a gafwyd trwy brofiad
- Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Meini prawf dymunol
- ECDL
- Cymhwyster Rheolwr Practis
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o reoli yn y GIG
- Profiad o weithio gyda phractisau sy'n darparu gofal sylfaenol
- Profiad o osod cyllidebau a monitro sefyllfaoedd ariannol
- Profiad o ddarparu a chael gwybodaeth gymhleth, sensitif a dadleuol iawn
- Profiad o ddatblygu a gweithredu cynlluniau strategol
- Profiad o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill
- Profiad o reoli staff a gweithio mewn tîm
Meini prawf dymunol
- Rheolwr Busnes GIG profiadol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Mae siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Matt McGivern
- Teitl y swydd
- Business Manager of GMS
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Cysylltiadau amgen:
Anna Swinfield - Head of GMS Sustainability.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector