Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Cyfathrebu
Gradd
Band 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-AC159-0624
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro - Gweithio hybrid gartref a swyddfa
Tref
I'w Gadarnhau
Cyflog
£35,392 - £42,618 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
23/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Uwch-swyddog Cyfathrebu

Band 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Rydym yn chwilio am weithwyr cyfathrebu proffesiynol sydd am wneud gwahaniaeth trwy eu gwaith a chyfrannu at wella iechyd a lles ein cymunedau.

Mae dwy rôl Uwch Swyddog Cyfathrebu ar gael.

Byddant yn ein cefnogi yn ein huchelgais i symud o wasanaeth sy'n canolbwyntio ar drin salwch, i un sy'n canolbwyntio ar atal afiechyd, neu waethygu afiechyd.

Bydd angen i chi gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu rhagweithiol ac integredig ar amrywiaeth o faterion iechyd fel rhan o'r rolau hyn. Byddwch hefyd yn helpu i reoli sefyllfaoedd heriol, lle mae cyfathrebu da yn hollbwysig. Gallai hyn amrywio o reoli'r cyfathrebiadau ynghylch risg leol i iechyd y cyhoedd i gefnogi newid yn y modd y darperir gwasanaethau iechyd.

Rydyn ni wir eisiau clywed gan bobl sy'n gallu dangos sut mae eu gwaith cyfathrebu wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol, ac sydd â phrofiad o gefnogi newid ymddygiad.

Os yw hyn yn swnio fel chi, dywedwch wrthym yn eich cais am swydd sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol. Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiad a'ch syniadau perthnasol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae’r rôl yn gofyn am weithiwr cyfathrebu proffesiynol profiadol sy’n gallu darparu arweinyddiaeth o fewn y tîm cyfathrebu a chynghori uwch reolwyr yn y sefydliad ar eu hymagwedd at gyfathrebu agored, tryloyw a gonest, yn unol â’n Dyletswydd Gonestrwydd.

Byddwch yn defnyddio cyfathrebiadau i ddylanwadu ar newid ymddygiad sydd o fudd i iechyd ein cymunedau. Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth glir a chynnwys creadigol i'n cynulleidfaoedd mewnol ac allanol, gan ddefnyddio dulliau ac ymgyrchoedd cyfathrebu integredig. Gallai hyn gynnwys cyfathrebu ar wella iechyd, mynediad at wasanaethau, newid gwasanaeth, neu mewn digwyddiad mawr, yn unol â'n dyletswyddau Rhybuddio a Hysbysu.

Bydd angen i chi allu dangos profiad o ddefnyddio mecanweithiau amrywiol ar gyfer deialog gyda staff, cleifion, ein cymunedau, a rhanddeiliaid, a bydd angen i chi werthuso hyn i ddangos canlyniadau a dysgu a gwella'n barhaus.

Byddwch yn cyflwyno rhaglen o gynnwys a chyfathrebu sydd hefyd yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau staff a Bwrdd Iechyd y Brifysgol (BIP), sydd o fudd i'r boblogaeth leol a'r gwasanaeth iechyd ehangach.

Byddwch yn darparu gwasanaeth adweithiol i ymateb yn effeithiol i’r hyn a all fod yn ymholiadau cymhleth a sensitif gan staff, newyddiadurwyr a defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy: 

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 23/07/2024

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Addysg hyd at lefel gradd mewn maes perthnasol (cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu, y cyfryngau neu farchnata) neu gymhwyster cyfatebol neu brofiad o weithio ar y lefel hon.
  • Gwybodaeth am ddulliau cyfathrebu a chyflwyniad a gafwyd naill ai trwy addysg lefel ôl-raddedig neu DPP proffesiynol mewn maes perthnasol, neu brofiad â thystiolaeth o weithio ar y lefel hon.
  • Gwybodaeth arbenigol a phrofiad o gyfathrebu ym meysydd cyfathrebu mewnol, cyfathrebu â'r cyfryngau, neu gyfathrebu digidol
  • Gwybodaeth gymhwysol neu ddangosol o'r ddeddfwriaeth sy'n rheoli'r cyfryngau, a deddfau athrod/enllib ar gyfer cyhoeddwyr. Dealltwriaeth o God Ymddygiad y Golygydd a chod ymddygiad proffesiynol y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus a pharodrwydd i weithredu yn unol â hwy.
  • Datblygiad proffesiynol parhaus amlwg
Meini prawf dymunol
  • Aelod ardystiedig o Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus neu Sefydliad Siartredig Marchnata.
  • Gwybodaeth ymarferol o systemau cysylltiadau cyfryngau a systemau rheoli cynnwys gwefannau.
  • Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth Cymru a phwerau dirprwyedig Llywodraeth Cymru, yn enwedig o fewn iechyd, ac o amgylchedd gwleidyddol Cymru.

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol o weithio mewn tîm cyfathrebu neu dystiolaeth o arwain ymgyrchoedd cyfathrebu ar draws sianeli mewnol, allanol a digidol, gan gynnwys defnyddio cyfryngau cymdeithasol, gyda hanes profedig.
  • Ymarfer neu wybodaeth gyfatebol o ddefnyddio cyfathrebiadau fel galluogwr newid ymddygiad.
  • Profiad o greu dylunio graffeg sylfaenol i helpu i gyfathrebu negeseuon.
  • Profiad o dynnu lluniau sylfaenol, ffilmio fideos a golygu.
  • Profiad o reolaeth llinell staff
Meini prawf dymunol
  • Tystiolaeth o allu i weithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol mewn awyrgylch o newid/strwythurau cymhleth a gweithio mewn partneriaeth.
  • Profiad o weithio gyda staff a newyddiadurwyr mewn rôl ymatebol i’r GIG neu sefydliad sector cyhoeddus mawr arall

Sgiliau a Rhinweddau

Meini prawf hanfodol
  • Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu cryf – yn ysgrifenedig ac ar lafar – i gyfathrebu ac ymgysylltu’n gadarnhaol â chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol blaenllaw, staff ehangach, y cyhoedd a rhanddeiliaid mewnol ac allanol eraill
  • Y gallu i gyfleu gwybodaeth gymhleth yn gywir, yn glir ac yn gryno, i ystod eang o gynulleidfaoedd ac wedi'i theilwra i'w hanghenion
  • Tystiolaeth o allu i fodloni terfynau amser a rheoli llwyth gwaith yn effeithiol
  • Y gallu i aros yn ddigynnwrf o dan amgylchiadau emosiynol a heriol (e.e. cyfarfodydd cyhoeddus gyda phobl a allai wrthwynebu’r sefydliad a/neu ein gweithredoedd).
Meini prawf dymunol
  • Lefelau uwch o sgiliau mewn ffilmio, dylunio graffeg, neu farchnata.
  • Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol, ar lefelau 1 i 5 mewn deall, siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Bydd y swydd hon yn gofyn am gyflwyno Datgeliad i wirio am unrhyw gollfarnau troseddol sydd heb ddarfod.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Yvonne Burson
Teitl y swydd
Assistant Director Communications
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
077791342960
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg