Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicolegydd Clinigol Anableddau Dysgu
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol: Dydd Llun - Dydd Gwener
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST024-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Tŷ Llanion, Sir Benfro neu Phen-lan, Caerfyrddin
- Tref
- Doc Penfro neu Caerfyrddin
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn (pro rata os yn rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 15/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 25/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Seicolegydd Clinigol Anableddau Dysgu
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae gennym ddatblygiad cyffrous yng Ngorllewin Cymru.
Rydym yn chwilio am ddau unigolyn i weithio yn ein Gwasanaeth Anableddau Dysgu ar lefel Band 7. Bydd un deiliad swydd wedi'i leoli yn Nhŷ Llanion yn Noc Penfro, a'r llall yn 1 Heol Penlan yng Nghaerfyrddin.
Mae gennym dîm o bobl ag anableddau dysgu sy'n cyd-gadeirio ein Grŵp Partneriaeth Rhanbarthol ac yn helpu i arwain ein gwasanaethau. Mae'r tîm wedi datblygu siarter sy'n tynnu sylw at hawliau'r aelodau, ac y gall sefydliadau a grwpiau o staff ymuno â hi. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ymuno â'r siarter hon https://www.ldcharter.com
Mae'r Gwasanaeth Seicoleg ac Ymddygiad yn credu mewn rhoi pobl ag anableddau dysgu wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym yn credu'n gryf mewn Hawliau Dynol ac eirioli dros bobl ag anabledd dysgu. Heb Seicolegwyr, sut y bydd pobl ag anableddau dysgu yn gallu cyfranogi a dweud eu dweud?
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth seicolegol arbenigol cymwysedig i gleientiaid yr ardal, a hynny ar draws pob sector gofal.
Darparu asesiadau a therapi seicolegol arbenigol i gleientiaid a'u teuluoedd, a chynnig cyngor ac ymgyngoriadau ynghylch gofal seicolegol cleientiaid i gyd-weithwyr yn y tîm a'r rheiny mewn asiantaethau allanol perthnasol.
Darparu mewnbwn i wasanaethau arbenigol yn ôl y gofyn.
Gweithio'n annibynnol, a hynny'n unol â chanllawiau proffesiynol a fframwaith cyffredinol polisïau a gweithdrefnau Anableddau Dysgu. Bydd hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol yn glinigol am waith therapiwtig a rheoli risgiau cymhleth gyda chleientiaid.
Defnyddio sgiliau ymchwil i archwilio, datblygu polisïau a gwasanaethau a gwneud gwaith ymchwil yn yr ardal a wasanaethir gan dîm yr ardal.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 25.07.2024
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd Seicoleg Cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn seicoleg glinigol, gan gynnwys seicopatholeg, dau neu ragor o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg ddatblygiadol hyd oes fel y'u hachredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
- Gwybodaeth ymarferol da am Seicometreg ac asesiadau gwybyddol, ac yn gallu eu defnyddio, ynghyd â gwybodaeth am eu cyfyngiadau a sut i'w gweinyddu
- Gwybodaeth a phrofiad mewn perthynas â chymhwyso seicoleg ledled yr hyd oes datblygiadol, ynghyd â phrofiad o weithio mewn arbenigeddau craidd o ran iechyd meddwl oedolion, plant a'r glasoed, oedolion hŷn ac anableddau dysgu, ac yn amlygu gwybodaeth am wybyddiaeth, seicoleg ymddygiadol a modelau a dulliau eraill
- Gwybodaeth am fodelau seicoleg, yn cynnwys gwybyddiaeth, seicoleg ymddygiadol a dulliau systemig
- Gwybodaeth ddoethurol am ymchwil
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant a chymwysterau mewn methodoleg ymchwil, hyfforddiant staff a/neu feysydd eraill seicoleg gymhwysol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol ac o drin cleientiaid ledled yr amrywiaeth lawn o leoliadau gofal, gan gynnwys cleifion allanol, cleifion yn y gymuned, cleifion ym maes gofal sylfaenol, a chleifion mewnol
- Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol sy'n ymgorffori seicometreg ac asesu gwybyddol
- Profiad o weithio gyda phobl ag anableddau dysgu
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid ar hyd llwybr bywyd, gyda'r bobl hyn yn amlygu problemau sy'n adlewyrchu'r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol
Meini prawf dymunol
- Profiad o addysgu, hyfforddi a goruchwylio
- Profiad o gymhwyso seicoleg mewn cyd - destunau diwylliannol gwahanol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Dr Anwen Harry
- Teitl y swydd
- Counselling Psychologist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267 244410
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Neu cysylltwch â Dr Karin Lewis – [email protected] neu ffoniwch 01437 772829
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector