Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Arbenigedd sylfaenol – Therapydd Lleferydd ac Iaith Tra Arbenigol i Blant ag Anghenion Cymhleth
- Gradd
- Gradd 7
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP061-0524-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Canolfan Gofal Iechyd Doc Penfro (i'w drafod)
- Tref
- Doc Penfro
- Cyflog
- £44,398 - £50,807 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 22/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Therapydd Lleferydd ac Iaith Tra Arbenigol
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i therapydd sydd â phrofiad o gefnogi plant o bob oed ag anawsterau Bwyta, Yfed a Llyncu (EDS), ac i weithio gyda thîm y tair sir i ddatblygu cymwyseddau ym maes EDS ac Anghenion Cymhleth ledled y gwasanaeth yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Byddwch yn rhan o dîm Therapyddion Lleferydd ac Iaith y tair sir sy'n darparu arweinyddiaeth ym mhob un o feysydd Anghenion Cymhleth, gan gynnwys Bwyta, Yfed a Llyncu. Byddwch yn arwain yn bennaf ym maes EDS ac Anghenion Cymhleth yn Sir Benfro. Byddwch hefyd yn arwain ac yn mentora tîm bach o therapyddion yn Ysgol Arbennig Portfield mewn amgylchedd amlddisgyblaethol sefydledig. Mae yna gyfleoedd
arweinyddiaeth hefyd ar gael yn Sir Benfro i arwain staff sy'n cefnogi plant ag anghenion cymhleth mewn lleoliadau prif ffrwd.
Yn ardal Hywel Dda, rydym yn gweithredu Nodau Gofal Malcomess ac yn awyddus i ddefnyddio mesurau canlyniadau i ddangos bod ein gwasanaeth yn effeithiol ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein grŵp cleientiaid.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd arnoch angen sgiliau rhyngbersonol rhagorol er mwyn gallu dylanwadu ar dimau a'u harwain i weithredu pecynnau gofal newydd sydd wedi'u seilio ar ymarfer cadarn seiliedig ar dystiolaeth, ynghyd â sicrhau bod rhaglenni peilot yn cael derbyniad da ac yn cael eu gweithredu gan ddefnyddio offer gwerthuso cadarn.
Byddwch yn defnyddio sgiliau ymarfer myfyriol hynod ddatblygedig ac yn ceisio gwerthuso a diweddaru eich ymarfer clinigol yn barhaus.
Bydd y rôl yn cael ei rhannu rhwng 1.5 diwrnod yn Ysgol Arbennig Portfield a 3.5 diwrnod mewn lleoliadau yn y gymuned/yn darparu arweinyddiaeth ar gyfer EDS yng ngwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith Sir Benfro, gan hybu arfer clinigol yn y maes gwaith hwn a chymryd yr awenau wrth ddatblygu a gwreiddio arfer gorau mewn arfer clinigol.
Byddwch yn darparu cefnogaeth glinigol tra arbenigol i blant a phobl ifanc ag ystod o anghenion iechyd cymhleth iawn, anghenion EDS ac anawsterau dysgu, a hynny mewn amrywiaeth o leoliadau yn eich ardal ddynodedig.
Byddwch yn darparu asesiadau, diagnosis a thriniaeth arbenigol iawn yn annibynnol i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod llwybrau gofal priodol yn cael eu dilyn a'u bod yn cael eu hatgyfeirio/cyfeirio at asiantaethau eraill yn ôl y gofyn.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
O bryd i'w gilydd efallai y bydd gofyn i chi weithio yn Sir Gaerfyrddin a/neu yng Ngheredigion i gefnogi'r timau anghenion cymhleth yn y siroedd hynny yn unol â gofynion y gwasanaeth
Bydd gennych wybodaeth ardderchog am y ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r prosesau a'r penderfyniadau sy'n ymwneud â darpariaeth ddysgu ychwanegol yn achos y plant sy'n rhan o'ch llwyth achosion.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 22/07/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gradd mewn Therapi Lleferydd ac Iaith
- Tystiolaeth o gwblhau hyfforddiant/cyrsiau byr arbenigol yn llwyddiannus hyd at Radd Meistr neu lefel gyfatebol, ac yn berthnasol i'r maes arbenigedd clinigol
- Dealltwriaeth o oblygiadau dwyieithrwydd ar ddefnydd a datblygiad iaith
- Gwybodaeth am ystod eang o ddulliau a gweithdrefnau asesu arbenigol pediatrig neu oedolion er mwyn gwerthuso sgiliau cyfathrebu, yn arbennig mewn cysylltiad â'r maes arbenigedd clinigol
- Gwybodaeth am nodweddion allweddol sy'n arwain at ddiagnosis gwahaniaethol arbenigol yng nghyswllt y maes arbenigedd clinigol
- Gwybodaeth am ddewis, gosod a gwerthuso nodau triniaethau arbenigol
- Gwybodaeth am ystod hynod arbenigol o ymyriadau therapiwtig sy'n berthnasol i'r maes clinigol arbenigol, ac yn gallu amlygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y dulliau hyn
- Gwybodaeth sefydledig am faterion cyfreithiol a phroffesiynol o ran cyfrinachedd
- Gwybodaeth am safonau cadw cofnodion, canllawiau diogelu data/Caldicott
- Gwybodaeth am faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch
- Gwybodaeth am bolisïau a gweithdrefnau cenedlaethol sy'n berthnasol i'r maes clinigol arbenigol
Meini prawf dymunol
- Cwnsela Sylfaenol
- Gwybodaeth am ystod o ddulliau ymchwil
- Dealltwriaeth o egwyddorion rheoli newid
- Hyfforddiant dysffagia ôl-sylfaenol achrededig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ôl-gofrestru clinigol helaeth sy'n berthnasol i'r swydd, gan gynnwys:Profiad o archwilio a gwerthuso gwasanaethau
- Darparu hyfforddiant tra arbenigol i ystod o gynulleidfaoedd
- Lleoliadau Myfyrwyr Therapi Lleferydd ac Iaith, gan gynnwys asesiad hyd at ac yn cynnwys y flwyddyn olaf
- Cefnogi staff llai profiadol
- Goruchwylio ymarferwyr cyswllt/gweithwyr cymorth
- Profiad o roi ail farn i Therapyddion Lleferydd ac Iaith a gweithwyr proffesiynol eraill
Meini prawf dymunol
- Rheoli Newid
- Profiad amlwg o arweinyddiaeth
- Darparu therapi trwy gyfrwng y Gymraeg
- Goruchwylio/rheoli llinell Therapyddion Lleferydd ac Iaith
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sian George
- Teitl y swydd
- Lead Children's SLT, Pembrokeshire
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01646 624643
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector