Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Ffisiotherapi
- Gradd
- Gradd 6
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AHP072-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £35,922 - £43,257 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 11/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 18/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Ffisiotherapydd Arbenigol
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn chwilio am ffisiotherapyddion profiadol i ymuno â'n gwasanaeth strôc sy'n datblygu'n gyflym yn Sir Gaerfyrddin, gan gefnogi prosesau i adferiad aciwt a ryddhau cleifion yn gynnar o'r ysbyty.
Os oes gennych wir frwdfrydedd dros adsefydlu cleifion strôc gan weithio ledled y llwybr strôc, gallai hwn fod y cyfle i chi. Byddwch yn rhan o Wasanaeth Therapi Rhyddhau’n Gynnar â Chymorth y Bwrdd Iechyd, a byddwch wedi eich lleoli yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli yn cefnogi'n bennaf bobl sydd wedi cael strôc i ddychwelyd adref o’n hunedau strôc acíwt.
Nod y rôl fydd darparu gofal adsefydlu yn yr ysbyty ac yn y gartref er mwyn cefnogi'r broses bontio o’r ysbyty i ddychwelyd i annibyniaeth. Er mwyn darparu llwybr adsefydlu a thrawsnewid sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â’r timau strôc acíwt a chymunedol sefydledig (mewngymorth ac allgymorth) i sicrhau parhad gofal da.
Rydym yn hysbysebu am un deiliad swydd – cadarnhau yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus rywfaint o brofiad o weithio gyda phobl sydd wedi profi strôc a/neu ddigwyddiadau eraill sydd wedi newid eu bywyd, ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm amlbroffesiynol mewn yr ysbyty a'r lleoliad cymunedol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr a gwasanaethau acíwt a chymunedol i greu llwybr adsefydlu cydgysylltiedig a phrofiad cadarnhaol ar gyfer ein poblogaeth.
Er bod y rôl yn canolbwyntio ar strôc, mae arnom angen therapyddion sy'n gallu addasu i ddiwallu anghenion cleifion â chyflyrau amryfal ac amrywiol a bodloni blaenoriaethau'r gwasanaeth. Oherwydd natur y rôl bydd angen i chi allu teithio o fewn y sir, yn ogystal â bod yn hyblyg i deithio ledled y Bwrdd Iechyd yn achlysurol.
Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu gwasanaeth anadlol ar alwad, yn ogystal â datblygiadau yn y dyfodol o ran gweithio wythnos saith niwrnod.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 18/07/2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
- Tystiolaeth o DPP
- Sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
- Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
- Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
- Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
- Wedi cwblhau'r cymhwysedd fframwaith iau
- Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
- Trin therapiwtig ac asesiadau risg
- Rheoli llwyth achosion amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
- Gweithio'n rhyng-broffesiynol ac mewn tîm
- Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
- Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
- Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
- Profiad o oruchwylio myfyrwyr
- Trafod arferion gweithio tim amlddisgyblaethol
- Profiad o ddatblygu gwasanaethau
- Profiad o weithio yn y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar y gallu corfforol i fodloni gofynion y swydd (codi a chario therapiwtig) i gydymffurfio a'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd
- Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
- Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
- Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
- Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Amrywiaeth eang o ddiddordebau
Gofynion Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Fiona van Erven
- Teitl y swydd
- Clincial Lead Physiotherapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783307
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Arweinwyr y Gwasanaeth Ffisiotherapi:
Hannah Thomas - [email protected]
Indeg Jameson - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector