Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Uwch-swyddog Technegol Cynorthwyol
Gradd 3
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 28/02/2026 CWRDD GOFYNION Y GWASANAETH.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Rydym yn chwilio am unigolyn llawn cymhelliant a brwdfrydedd sydd â diddordeb mewn gwyddor gofal iechyd i gefnogi'r Tîm Fferylliaeth yn y gwaith o gynnal yr Adran Fferylliaeth o ddydd i ddydd yn Ysbyty'r Tywysog Philip.
Mae'r Tîm Fferylliaeth yn dîm blaengar, ac mae'n ymdrechu'n barhaus i wella'r modd y darperir gofal fferyllol sy'n canolbwyntio ar y claf, ac o ran gwneud y defnydd gorau o feddyginiaethau yn y Bwrdd Iechyd.
Mae hon yn swydd am gyfnod penodol/secondiad, gan weithio 37.5 awr yr wythnos. Rhaid bod gennych sgiliau trefnu a chyfathrebu rhagorol, a bydd angen i chi allu gweithio mewn modd effeithiol gyda'r tîm cyfredol yn yr Adran Fferylliaeth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio mewn tîm o Uwch-swyddogion Technegol, Technegwyr Fferyllol a Fferyllwyr i ddarparu ystod eang o Wasanaethau Fferyllol yn yr ysbyty. Byddwch yn cael hyfforddiant penodol i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar 5 TGAU (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch. Mae meddu ar Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllol neu gymhwyster cyfatebol yn ddymunol; fodd bynnag, nid yw'n hanfodol gan y darperir cymorth a goruchwyliaeth lawn i gyflawni a chwblhau'r cymhwyster NVQ Lefel 2 mewn gwasanaethau fferyllol.
Cyflawni amrywiaeth o dasgau i gefnogi'r timau fferylliaeth yn y Bwrdd Iechyd. Gall y rôl olygu gweithio yn y meysydd a ganlyn: Dosbarthu, Caffael, y Ddosbarthfa, Gwasanaethau ar y Wardiau.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar rota penwythnosau a gwyliau Banc.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i'r ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i goleddu'r angen am ddwyieithrwydd yn llawn, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn unol â'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 14/08/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Safon dda mewn addysg uwchradd, sydd i gynnwys 5 TGAU ar lefel C, neu gyfwerth
- Cymhwyster lefel 3 neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
- 5 TGAU ar lefel C neu uwch, sydd i gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
- Cymhwyster NVQ 2 mewn Fferylliaeth – yn y gymuned neu mewn ysbyty
- Gwybodaeth am enwau cyffuriau
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad TG sylfaenol
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn ysbyty neu fferyllfa manwerthu yn y gymuned
- Profiad o ofal cwsmeriaid
- Profiad o gynnal a chadw stoc
- Y gallu i weithio mewn tim
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Mari Treharne
- Teitl y swydd
- Pharmacy Site Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783210
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Os hoffech drefnu ymweliad anffurfiol a'r adran Fferyllfa, cystyllwch a Mari Treharne neu Colette Jones ar 01554 783210.
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gwyddor iechyd neu bob sector