Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu
- Gradd
- Gradd 4
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS180-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Clinig Brynmair
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £25,524 - £28,010 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 18/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 01/08/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Hyfforddwr Technegol Therapi Galwedigaethol: Iechyd Meddwl
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael ar gyfer Technegydd Therapi Galwedigaethol Arbenigol, i weithio ledled Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Bryn-mair, wedi'i leoli yng Nghlinig Bryn-mair yn Llanelli.
Byddwch yn rhan annatod o dîm amlddisgyblaethol y gymuned a'r ward, a darpariaethau ehangach y gwasanaeth. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig effeithiol yn hanfodol yn y swydd gan y bydd gennych rywfaint o ymreolaeth ar draws y ddau leoliad.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio mewn rôl therapiwtig/adsefydlu gyda chleientiaid â salwch meddwl difrifol a pharhaus.
Byddwch yn gweithio'n rhan o dîm Therapi Galwedigaethol i ddarparu ymyriadau Therapi Galwedigaethol cynlluniedig i gefnogi proses adsefydlu ac adferiad unigolyn, a hynny gan ddefnyddio sgiliau technegol trwy gyfrwng gweithgareddau.
Byddwch yn gweithio dan oruchwyliaeth ac arweiniad Therapydd Galwedigaethol cymwys.
Bydd hyn yn cynnwys cyflenwi ymyriadau un i un ac mewn grwpiau mewn lleoliadau cymunedol, a'r rheiny'n ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n anelu at hyrwyddo annibyniaeth a llesiant seicolegol yr unigolyn.
Byddwch naill ai wedi cwblhau Diploma Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol neu'n gweithio tuag at ei gwblhau. Cewch gymorth yn eich rôl a byddwch yn destun goruchwyliaeth a datblygiad proffesiynol cynlluniedig trwy Gynlluniau/Adolygiadau Datblygu Personol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
- Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
- 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
- Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadu ar 01/08/2024.
Manyleb y person
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ystod o brofiad clinigol o fod yn aelod staff cymorth mewn gwasanaethau therapi
- Profiad o wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol a chymunedol
- Profiad o raddio ac addasu gweithgareddau ar gyfer adsefydlu i hyrwyddo annibyniaeth
- Profiad o weithio'n rhan o dîm
- Profiad o weithio'n annibynnol ar ward a/neu mewn lleoliad cymunedol
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
- Diddordeb mewn/ gwybodaeth ymarferol am ystod o sgiliau technegol ac ymarferol
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Goruchwylio staff cymorth iau
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhifedd a llythrennedd i lefel TGAU o leiaf
- Lefel 4 mewn disgyblaeth iechyd a gofal cymdeithasol berthnasol neu brofiad cyfatebol
- Y gallu a'r parodrwydd i gyflawni'r Diploma Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol Lefel 4
- Gwybodaeth am egwyddorion Therapi Galwedigaethol ac am raddio/ddadansoddi tasgau i wella gweithrediad
- Gwybodaeth am y modd y defnyddir sgiliau hamdden, creadigol a thechnegol mewn ymyriadau un i un ac mewn grwpiau
- Dealltwriaeth o rolau grwpiau staff eraill mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- Dealltwriaeth o wasanaethau'r sector gwirfoddol
- Sgiliau/cymhwyster TG a chymhwysedd o ran pecynnau meddalwedd
Meini prawf dymunol
- Pasbortau Cymru Gyfan mewn Symud a Thrin a Rheoli Trais ac Ymddygiad Ymosodol
- Cymwysterau proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n ymwneud â'r arbenigedd clinigol, h.y. Sgiliau Ymdopi yn Emosiynol, egwyddorion Therapi Ymddygiad Gwybyddol
- Cyrsiau ychwanegol perthnasol i gefnogi'r gwaith clinigol, h.y. cyfweld ysgogol, Therapi sy'n Canolbwyntio ar Atebion
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rory Bradshaw
- Teitl y swydd
- Interim Clinical Lead Occupational Therapist
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 772768
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector