Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Eiddilwch
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos
- Cyfeirnod y swydd
- 100-NMR143-0424-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Tywysog Philip
- Tref
- Llanelli
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 y flwyddyn
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 16/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 09/08/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Uwch-ymarferydd Nyrsio Eiddilwch
Gradd 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Uwch-ymarferydd Nyrsio profiadol ymuno â'r Tîm Eiddilwch yn Ysbyty'r Tywysog Philip. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, dan arweiniad grŵp brwdfrydig o Geriatregwyr Ymgynghorol.
Rydym yn chwilio am Uwch-ymarferydd Nyrsio medrus a phrofiadol iawn sydd ag angerdd am weithio gydag oedolion hŷn eiddil ac sydd â diddordeb mewn cefnogi datblygiad 'Gwasanaeth Eiddilwch Drws Blaen’. Rhywun ag arbenigedd a hanes blaenorol o fwrw ymlaen ag arloesedd ac ymarfer uwch i wella canlyniadau i ddefnyddwyr ein gwasanaethau.
Caiff deiliad y swydd ei adnabod fel arbenigwr clinigol, ac mae'n ofynnol iddo feddu ar broffil clinigol uchel, gan sicrhau y darperir gofal effeithiol ac effeithlon. Ar y lefel hon, mae disgwyl i ddeiliad y swydd weithio fel uwch-ymarferydd medrus iawn a meddu ar wybodaeth arbenigol.
Prif ffocws y rôl yw gweithio fel uwch-ymarferydd annibynnol sy'n darparu gofal clinigol sy'n canolbwyntio ar y claf, a'r gofal hwnnw'n cwmpasu sgiliau asesu, archwilio, diagnosio a thrin cleifion. Bydd yr Uwch-ymarferydd yn gweithio ar draws pedwar piler ymarfer – Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Clinigol, Addysg, Ymchwil a Datblygu, fel yr amlinellir yn y Fframwaith Ymarfer Uwch ar gyfer Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru 2010). Bwriad y swydd yw darparu gwell canlyniadau i gleifion trwy wella prydlondeb a chysondeb y gofal.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Disgwylir i ddeiliad y swydd arfer lefel uchel o ymreolaeth broffesiynol bersonol a llunio barn feirniadol i fodloni disgwyliadau a gofynion y rôl. Bydd deiliad y swydd yn cael ei arwain gan bolisïau iechyd, sefydliadol neu alwedigaethol eang, ond yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd bydd angen i ddeiliad y swydd sefydlu'r ffordd y dylid dehongli'r rhain a chynghori rhanddeiliaid perthnasol yn unol â hynny. Disgwylir iddo weithio ar lefel glinigol uwch yn unol â'i lefel cymhwysedd, a gweithio'n hyblyg mewn tîm.
Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn arweinydd arfer, gan reoli ei lwyth gwaith ei hun a gweithio ar draws ffiniau proffesiynol, sefydliadol, asiantaethau a systemau i wella gwasanaethau a datblygu arfer. Bydd yn cymryd rhan mewn rhwydweithiau, a hynny'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Bydd deiliad y swydd yn asesu ac yn rheoli risgiau, ac yn mynd ati mewn modd rhagweithiol i herio eraill ynghylch risgiau.
Rhaid i bob rôl Uwch-ymarferydd lynu wrth Fframwaith Llywodraethu EAGLE Hywel Dda ar gyfer Ymarfer Uwch. Mae'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau canlynol wedi'u cynllunio o amgylch y Pileri Ymarfer Uwch (Clinigol, Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Addysg, Ymchwil) a'r canllawiau a amlinellir yn y Fframwaith Ymarfer Uwch ar gyfer Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yng Nghymru 2010.
Cynhelir y cyfweliadau ar 09/08/2024.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol Cofrestredig (e.e. y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal/y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth)
- Gradd Meistr Berthnasol/180 credyd ar lefel 7 (Meistr) mewn maes perthnasol
- Rhagnodwe Anfeddygol, neu barodrwydd i ymrwymo i ymgymryd, yn unol a datblygu'r gwasanaethau yn y dyfodol
Meini prawf dymunol
- Tystiolaeth o lefel uwch o ddatblygu ymarfer yn eich maes arbenigol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad helaeth o weithio mewn ardal arbennigol
- Profiad amlwg o wneud penderfyniadau cymhleth
- Profiad arwain a rheolaeth
- Profiad sylweddol o weithio'n annibynnol pan yn ofynnol
- Profiad o weithio amlbroffesiynol
Meini prawf dymunol
- Profiad o reoli pobl
- Profiad o asesu dysgu ac addysg
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Meinir Williams
- Teitl y swydd
- Deputy Head of Nursing
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01554 783517
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Ymholiadau anffurfiol;
Zena Marney - [email protected]
Meinir Williams - [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector