Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
Llawn Amser - 37.5 awr x 2 / Rhan Amser 22.5 awr x 1
Cyfeirnod y swydd
100-AC240-1124
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty'r Tywysog Philip
Tref
Llanelli
Cyflog
£23,970 y flwyddyn (pro rata am rhan amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
01/12/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
11/12/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Clerc y Ganolfan Gyswllt

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae’r raddfa gyflog uchod wedi’i chytuno fel rhan o ddyfarniad cyflog Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2024/2025. Bydd yn cael ei rhoi ar waith ym mis Tachwedd 2024 wedi’i hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2024 lle bo’n berthnasol. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfleoedd cyffrous wedi dod ar gael i'r rhai sy'n dymuno gweithio yng Nghanolfan Gyswllt y Cofnodion Iechyd

Mae'r Ganolfan Gyswllt yn amgylchedd prysur sydd â thîm bach cyfeillgar a hyblyg sy'n trefnu apwyntiadau cyntaf cleifion allanol sy'n dechrau eu taith rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar ofal y claf.


Mae croeso i chi roi galwad i ni a threfnu ymweliad i gael gwybod rhagor – byddem yn falch o gwrdd â chi

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd y dyletswyddau'n cynnwys: gweithredu system gweinyddu cleifion 
gyfrifiadurol, gan gynnwys mewnbynnu, adalw a diweddaru data.

Defnyddio'r systemau sydd ar gael i fynd ati'n effeithlon i drefnu a chytuno ar bob apwyntiad cleifion allanol ar gyfer holl drigolion Hywel Dda ledled y Bwrdd Iechyd

Ffonio cleifion allanol i gadarnhau/gytuno/ganslo eu hapwyntiadau

Ymateb i alwadau gan y rhai sydd â chwestiynau/pryderon

Ailgyfeirio galwadau yn ôl yr angen 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon;  mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 11/12/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Lefel dda o addysg gyffredinol neu brofiad cyfatebol
Meini prawf dymunol
  • NVQ 2 mewn gofal cwsmeriaid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • No experience required
Meini prawf dymunol
  • Previous call centre/appointment centre or receptionist
  • Attention to detail
  • Understanding of confidentiality

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Flexible approach to needs of the service
Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 2)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lisa Cooke
Teitl y swydd
Contact Centre Supervisor
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

 Cydlynydd y Ganolfan Gyswllt   - [email protected]

Goruchwylwyr Jayne Parry/Caroline Bowen

01554 783772/01554 786634

 

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg