Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Gweinyddiaeth
Gradd
Gradd 2
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 15 awr yr wythnos (Dydd Llun-Dydd Gwener)
Cyfeirnod y swydd
100-AC111-0425-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
De Ceredigion
Tref
Llandysul
Cyflog
£23,970 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
05/05/2025 23:59
Dyddiad y cyfweliad
14/05/2025

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Clerc Gweinyddu - Ymweliad Iechyd

Gradd 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad hyd at y cyflog byw o £12.60 yr awr - £24,638 y flwyddyn.

Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2025/26 wedi’i gadarnhau.

Trosolwg o'r swydd

Mae cyfle wedi codi o fewn y gwasanaeth Ymweld Iechyd yn Ne Ceredigion ar gyfer Swyddog Clerigol.

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant i ddarparu cymorth gweinyddol cyffredinol i'r staff Ymwelwyr Iechyd. 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd feddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol er mwyn ymdrin mewn modd sensitif â chleifion a gweithwyr proffesiynol sy'n cyfathrebu dros y ffôn.

Bydd y rôl yn cynnwys ymgymryd â'r holl brosesau gweinyddol sy'n gysylltiedig â gweithgarwch yn ymwneud â chleifion, a bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd fod yn ymwybodol o natur hynod o gyfrinachol y rôl.

Darparu cymorth i'r tîm Ymwelwyr Iechyd i fewnbynnu data ar gyfer y system cofnodion electronig newydd, ynghyd â thasgau gweinyddol cyffredinol megis ateb galwadau ffôn, cymryd negeseuon, sganio a threfnu apwyntiadau a grwpiau. 

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar amryw o safleoedd yn Sir Ceredigion , a bydd yn ofynnol iddo fod â'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol. 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

 

4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).

 

5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.

 

Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).

Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:

48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun

 

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 14/05/2025

Manyleb y person

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio mewn rol Weinyddol a Chlercol
Meini prawf dymunol
  • Profiad o gynllun Dechrau'n Deg, a gwybodaeth amdano
  • Profiad o weithio mewn tim amlddisgyblaeth mawr

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • O leiaf bum TGAU neu gymwysterau cyfatebol, gan gynnwys TG
Meini prawf dymunol
  • Gwybodaeth am y system iechyd plant
  • Y gallu i ddefnyddio nifer o raglenni meddalwedd Office
  • Ymwybyddiaeth o Amddiffyn Plant
  • Ymwybyddiaeth o Ddiogelu Data

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Y gallu i deithio i leoliadau gwahanol i weithio o bryd i'w gilydd, a hynny mewn modd amsero

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 Bronze

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Paul Phillips
Teitl y swydd
Health Visiting Team Leader
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01554 899054
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Paul Phillips

Arweinydd Tîm Ymweld Iechyd

[email protected]  

or 

Wendy Thomas

Arweinydd Tîm Ymweld Iechyd

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg