Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Adsefydlu
- Gradd
- Gradd 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Rhan-amser - 30 awr yr wythnos (Shifftiau dydd a nos yn ôl trefn rota – shifftiau 11.5 awr)
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS019-0225
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri
- Tref
- Llanymddyfri
- Cyflog
- £23,970 y flwyddyn pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/03/2025 23:59
Teitl cyflogwr

Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Gradd 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Ysbyty Cymunedol Llanymddyfri yn uned adsefydlu/gofal lliniarol ac iddi 15 o welyau. Mae'n darparu gofal o safon uchel i gleifion y mae arnynt angen cymorth adsefydlu gan staff Nyrsio a Therapi.
Rydym yn chwilio am unigolyn dibynadwy ac ymroddedig sy'n frwd dros ddarparu gofal i gleifion mewn amgylchedd cadarnhaol a phrysur. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddangos bod ganddo sgiliau cyfathrebu da a'i fod yn gweithio'n dda mewn tîm.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd Band 2 sy'n llawn brwdfrydedd a chymhelliant. Byddech yn gweithio ochr yn ochr â thîm sefydledig.
Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol sy'n darparu gofal o safon uchel a rhagoriaeth glinigol.
Byddwch yn gofalu bod y cleifion/cleientiaid yn cael safonau gofal diogel, unigol eu gogwydd ac effeithiol, a hynny trwy ddilyn cynlluniau gofal ac ymyriadau triniaeth, yn unol â chyfarwyddyd y nyrs gofrestredig.
Byddwch bob amser yn cyfathrebu mewn modd effeithiol ac ar y cyd ag aelodau eraill o'r tîm, gan gynnal a chyfrannu at athroniaeth y ward.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 17/03/25
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel 2 mewn Gofal neu Yn gallu ymgymryd â chyfnod ymsefydlu a hyfforddiant yn y swydd a fydd yn cynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol am ofal ac ystod o weithdrefnau cysylltiedig â gwaith, er enghraifft cwblhau llyfr gwaith seiliedig ar gymhwysedd sy'n cyfateb i gymhwyster galwedigaethol Lefel 2
- Yn gallu deall a chydymffurfio â safonau ymsefydlu gorfodol a'r Cod Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yng Nghymru
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster galwedigaethol Lefel 2 mewn pwnc perthnasol sy’n ymwneud â gofal iechyd
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio fel rhan o dîm.
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio gyda phobl mewn rôl gofalu.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Marlene Jones
- Teitl y swydd
- Senior Ward Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01550 722200
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector