Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Deitegydd
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
  • Llawnamser
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
37.5 awr yr wythnos (ystyried gweithio'n rhan-amser)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP049-0424-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ar draws Bwrdd Iechyd
Tref
Ar draws Bwrdd Iechyd
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
09/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
17/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Deietegydd Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

A ydych yn Ddeietegydd brwdfrydig a dynamig sy'n meddu ar sgiliau rhagorol o ran gweithio mewn tîm? A ydych yn chwilio am gyfle i weithio'n rhan o dîm arbenigol, gan ar yr un pryd gynnal profiad o gefnogi unigolion â nifer o ddiagnosisau gwahanol yn ymwneud â maetheg? Mae cyfle 
wedi dod ar gael i ymuno â'n tîm Deieteg Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu dynamig, uchel ei barch, sy'n meddu ar weledigaeth ledled Hywel Dda. Bydd gan ddeiliad y swydd rywfaint o brofiad o weithio gydag unigolion â salwch meddwl a/neu anableddau dysgu, a bydd ganddo ymagwedd dosturiol a hyblyg at ofal Deietig; bydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn goruchwyliaeth a hyfforddiant clinigol yn rhan o'r broses o wella ei set sgiliau a'i ddatblygiad. 

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi defnyddwyr y gwasanaeth yn y gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu sydd ag ystod o gyflyrau, gan weithio'n rhan o dîm un proffesiwn ac amlbroffesiwn. 

Bydd hyfforddiant ac addysg yn rhan ganolog o'r rôl hon, yn ogystal â darparu cymorth i hyfforddi myfyrwyr, a datblygu a gweithredu rolau ein gweithwyr cymorth Deieteg.

Rydym ni, y gwasanaeth, yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn dîm cefnogol sy'n cefnogi llesiant staff a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym yn croesawu ymgeiswyr sy'n dymuno trafod cyfleoedd i weithio'n hyblyg ac o bell. 

Bydd gwaith llawn amser neu ran-amser (o leiaf 22.5 awr) yn cael ei ystyried.

 

Prif ddyletswyddau'r swydd

Gweithio yn rôl deietegydd arbenigol iechyd meddwl ac anableddau dysgu ac yn aelod o dimau amlddisgyblaethol iechyd meddwl ac anableddau dysgu, yn rheoli llwyth achosion cymhleth ac amrywiol o gleifion, ac yn cefnogi eraill i weithio mewn modd effeithiol gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl ac anableddau dysgu.

Defnyddio gwybodaeth a sgiliau arbenigol mewn perthynas â deieteg i wneud y canlynol: asesu, cynllunio a gweithredu triniaethau, a darparu ymyriadau deietig mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys y gymuned, cleifion allanol, ac mewn ysbytai a lleoliadau grŵp, yn unol ag anghenion y claf, ei deulu a'i ofalwyr. 

Darparu addysg, hyfforddiant a chymorth arbenigol i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau unigolion eraill sy'n gweithio gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl neu anableddau dysgu, a hynny mewn perthynas â deiet a maetheg. Cyfrannu at waith y gwasanaethau deieteg ac iechyd meddwl, gan fynd ati i gymryd rhan yn y gwaith o'u datblygu, eu gwerthuso a'u gwella, ac o weithredu polisi, canllawiau a safonau. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru. 

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 17/07/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Gradd gydnabyddedig mewn Deieteg
  • Wed'ich cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynol Iechyd a Gofal (HCPC)
  • Wedi cwblhau hyfforddiant sgiliau goruchwylio clinigol
  • Yn amlygu gwybodaeth a sgiliau deieteg glinigol eang ac wedi'u cydgrynhoi
  • Tystiolaeth o wybodaeth a/neu hyfforddiant pellach mewn perthynas ag iechyd meddwl ac anableddau dysgu
  • Wedi meithrin rhywfaint o wybodaeth arbenigol a amlygir gan gymhwyster deieteg a/neu ddysgu ôl-raddedig ffurfiol ychwanegol
  • Yn gallu dangos y modd y gellir trosglwyddo gwybodaeth a sgiliau cyfredol i faes ymarfer deieteg arbenigol
  • Yn amlygu gwybodaeth dda am y sail dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer deieteg, ac yn gallu cymhwyso'r wybodaeth honno
  • Sgiliau arfarnu beirniadol: yn gallu dehongli sail dystiolaeth gyfredol a sail dystiolaeth newydd, polisi cenedlaethol a phroffesiynol, canllawiau ac arfer gorau wrth ddarparu deieteg
  • Sgiliau datrys problemau clinigol sefydledig
  • Yn amlygu sgiliau trefnu effeithiol, gan gynnwys blaenoriaethu'r llwyth gwaith, rheoli'r llwyth achosion mewn modd effeithiol, a dirprwyo tasgau
  • Sgiliau addysgu a chyflwyno sefydledig
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd arall sy'n berthnasol i'r maes ymarfer Deieteg glinigol
  • Wedi cwblhau hyfforddiant/modiwlau Arbenigwr y BDA/Deieteg Achrededig sy'n berthnasol i'r rol
  • ECDL neu gyfwerth

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o weithio ym maes deieteg glinigol
  • Profiad o weithio gyda phobl ag anghenion iechyd meddwl a/neu anableddau dysgu
  • Tystiolaeth o weithio yn aelod o dîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddarparu addysg a hyfforddiant
  • Profiad o gymryd rhan yn y broses o ddatblygu/wella/archwilio/weithredu newid mewn ymarfer neu ddarparu/werthuso ffordd newydd o weithio
  • Profiad o roi goruchwyliaeth a chymorth clinigol i staff gofal iechyd eraill
Meini prawf dymunol
  • Profiad o ddirprwyo gwaith i staff iau, ynghyd â'u cefnogi/goruchwylio
  • Profiad o ymchwil
  • Profiad o gyflawni gwaith prosiect
  • Deietegydd iechyd meddwl neu anableddau dysgu

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Sgiliau Cymraeg – Lefel 1

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Karen Thomas
Teitl y swydd
Joint Head of Dietetics
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07530 930846
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

Alanna Noble 

Dietegydd Arweiniol Clinigol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg