Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Seicoleg
- Gradd
- Gradd 8a
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Rhannu swydd
- Gweithio hyblyg
- Gweithio gartref neu o bell
- Cyfeirnod y swydd
- 100-PST021-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Swydd sy'n cwmpasu'r Bwrdd Iechyd cyfan. Lleoliad y swydd i'w drafod.
- Tref
- Bwrdd Iechyd cyfan / Lleoliad y swydd i'w drafod
- Cyflog
- £51,706 - £58,210 y flwyddyn (pro rata os rhan-amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 07/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 17/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Seicolegydd Clinigol Tra Arbenigol: y Gwasanaeth Strôc
Gradd 8a
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae’r Gwasanaeth Seicoleg Strôc wrth ei fodd o fod yn chwilio am Seicolegydd Clinigol neu Gwnsela i ymuno â’r gwasanaeth Seicoleg newydd yn y Llwybr Strôc. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y llwybrau strôc presennol ledled y Bwrdd Iechyd, gan gefnogi’r timau acíwt a chymunedol amlddisgyblaethol a chefnogi cleifion a theuluoedd y mae strôc yn effeithio arnynt trwy ddarparu dulliau seicolegol uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Bydd y rôl hefyd yn cynnwys darparu cefnogaeth, ymgyngoriadau, addysgu a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol eraill ledled llwybrau strôc.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o Wasanaeth Seicoleg Iechyd Clinigol Hywel Dda, sydd â pherthynas waith agos â’r Gwasanaeth Seicoleg Gofal Critigol a’r Gwasanaeth Niwroseicoleg Rhanbarthol. Mae'r Adran Seicoleg Iechyd Clinigol yn adran gref, ddynamig a llawn cymhelliant. Mae'n ymdrechu i gynnig gofal iechyd o safon uchel sy'n seiliedig ar werth, a bydd yn croesawu'r ymgeisydd llwyddiannus yn ei rôl newydd trwy gyfrwng cymorth cymheiriaid.
Byddem yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â diddordeb mewn gweithio'n llawn-amser neu'n rhan-amser, a bydd yna gyfuniad o weithio'n uniongyrchol gyda chleifion a staff, yn ogystal â threfniadau gweithio o bell. Mae croeso hefyd i seicolegwyr sydd â phrofiad cyfyngedig wneud cais gan y byddwn yn cefnogi'r broses o ddatblygu sgiliau proffesiynol a chlinigol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Mae gan y Bwrdd Iechyd bedair Uned Strôc Acíwt ym mhob Ysbyty Cyffredinol, a gwasanaethau strôc cymunedol sydd wedi’u hintegreiddio â'r Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol yng Nghaerfyrddin. Mae’r rôl hon yn gyfle cyffrous i weithio ochr yn ochr ag Arweinydd y Gwasanaeth Seicoleg Strôc i ddatblygu modelau gofal seicolegol ledled yr Unedau Strôc Acíwt a’r llwybrau Rhyddhau yn Gynnar â Chymorth, yn unol â chanllawiau arferion gorau.
Darparu asesiadau seicolegol arbenigol i gleifion y mae strôc yn effeithio arnynt, trwy ddefnyddio offer asesu seicolegol a niwroseicolegol, mesurau hunanadrodd, arsylwadau strwythuredig a chyfweliadau â chleifion, teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Cefnogi gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol a systemau ehangach sy'n ymwneud â chleifion strôc trwy arweiniad seicolegol, ymgyngoriadau a hyfforddiant.
Darparu fformwleiddiadau a chynlluniau triniaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi'r gwaith o reoli anawsterau seicolegol,niwroseicolegol ac iechyd meddwl
cleifion.
Darparu dulliau gweithredu, cyngor ac ymgyngoriadau seiliedig ar seicoleg i gyd-weithwyr amlddisgyblaethol ar draws amrywiol lwybrau a lleoliadau strôc.
Cynorthwyo Arweinydd y Gwasanaeth Seicoleg Strôc i fodloni'r agweddau seicolegol ar y Canllawiau Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc a Chynllun Cyflawni ar gyfer Strôc Llywodraeth Cymru.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol/Gwnsela (neu gymhwyster cyfatebol ar gyfer y rhai a ddechreuodd ar eu hyfforddiant cyn mis Medi 2001) fel sy'n cael ei achredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS)
- Wedi eich cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) fel Seicolegydd Clinigol cymwysedig
- Profiad ôl-gymhwyso
- Yn meddu ar wybodaeth am asesu clinigol, fformiwleiddio, a thriniaethau seicolegol, yn ogystal â phrofiad o weithio mewn modd seicolegol ym mhob arbenigedd craidd, sef: a) iechyd meddwl oedolion; b) iechyd meddwl plant a'r glasoed; c) iechyd meddwl oedolion hŷn; a d) anableddau dysgu, fel y ceir mewn hyfforddiant ar lefel Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol (D.Clin Psy)
- Yn meddu ar wybodaeth am fodelau seicopatholeg penodol, gan gynnwys modelau seicoleg iechyd, seicometreg glinigol a seicoleg wybyddol – dau neu ragor o fodelau gwahanol
- Therapïau seicolegol a seicoleg ddatblygiadol hyd oes
- Yn amlygu hyfforddiant arbenigol a/neu brofiad pellach
Meini prawf dymunol
- Profiad o asesiadau niwroseicoleg
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth o grwpiau cleientiaid ledled y rhychwant bywyd cyfan, a'r rheiny'n ymgyflwyno â phroblemau sy'n adlewyrchu'r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol
- Profiad o weithio mewn modd hyblyg a sensitif gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleifion seicoleg, gan gynnal lefel uchel o broffesiynoldeb yn wyneb problemau emosiynol a thrallodus iawn, cam-drin geiriol a'r bygythiad o gamdriniaeth gorfforol
- Tystiolaeth o ddarparu ymyriadau seicolegol mewn lleoliadau amlddisgyblaethol
- Profiad o addysgu, hyfforddi a/neu oruchwylio
Meini prawf dymunol
- Profiad o seicoleg glinigol gymhwysol mewn perthynas â chyflyrau iechyd corfforol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Sophie McFarland
- Teitl y swydd
- Psychology Lead for Stroke
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector