Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Seicolegydd Clinigol (S-CAMHS)
Gradd 8a/ Atodiad 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Rydym yn awyddus i recriwtio Seicolegydd Clinigol Band 8a llawn-amser i un o'n timau ardal S-CAMHS prysur a chyfeillgar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae'r tîm ardal y mae'r swydd hon yn rhan ohono yn gwasanaethu Sir Benfro, ac mae wedi'i leoli yn Hwlffordd.
Mae'r swydd yn cael ei hysbysebu ar Fand 8a; fodd bynnag, anogir ymgeiswyr nad ydynt ar hyn o bryd yn bodloni'r gofynion o ran y sgiliau a'r cymwyseddau, i wneud cais ac, os byddant yn llwyddiannus, fe'u penodir yn unol â Threfniadau'r Agenda ar gyfer Newid mewn perthynas â Thaliadau a Bandio Hyfforddeion – Atodiad 21 (mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nes ymlaen yn yr hysbyseb).
Mae 90% o'r bobl sydd wedi dilyn y broses hon wedi cyrraedd Band 8a ar ôl 12 mis. Felly, dyma gyfle gwych i seicolegydd newydd gymhwyso sy'n dymuno datblygu ei yrfa.
Cliciwch ar y ddolen i glywed gan ein staff seicoleg ein hunain am weithio gyda ni: Ymgyrch Recriwtio y Gwasanaeth Seicoleg (youtube.com)
Mae'r sir yn lle prydferth i fyw ynddo, yn enwedig ar gyfer y rheiny sy'n mwynhau gweithgareddau awyr agored. Ystyrir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dymuno gweithio oriau llawn-amser neu ran-amser. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Dr Andrea Mowthorpe, yr Arweinydd Seicoleg yn S-CAMHS: Rhif Ffôn: 01437 773774 neu e-bost: [email protected]
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu Seicoleg yn y tîm amlddisgyblaethol, yn ogystal â goruchwylio Seicolegwyr Cynorthwyol. Bydd yn rhan o dîm amlddisgyblaethol egnïol sy'n rhoi gwerth ar ei gyd-weithwyr sy'n gweithio ym maes Seicoleg. Bydd y dyletswyddau clinigol yn cynnwys cyflawni gwaith sy'n ymwneud â Dewis a Phartneriaeth, a gwaith Penodol, o fewn fframwaith Mesur Iechyd Meddwl (2010). Anogir diddordebau arbennig pan fo hynny'n bosibl, ac mae yna gyfleoedd rheolaidd i fod yn rhan o ddatblygiadau newydd o ran y gwasanaeth a hyfforddiant.
Mae ein gwasanaeth wedi bod yn ffodus dros y blynyddoedd, a chafwyd llawer o gyfleoedd i hyfforddi mewn dulliau therapiwtig gwahanol e.e. Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiadau'r Llygaid (EMDR). Mae yna gysylltiadau cryf â'n gwasanaethau arbenigol o fewn S-CAMHS, e.e. y Gwasanaeth Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT), y Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta, a'r Gwasanaeth Seicoleg Fforensig. Mae gan ein Hadran Seicoleg nifer dda o staff ac mae'n gefnogol. Mae’n cynnwys seicolegwyr ym meysydd S-CAMHS, Iechyd Meddwl Amenedigol, Ymyriad Cynnar ar gyfer Seicosis, a’r Tîm Niwroddatblygiadol.
Ar hyn o bryd rydym yn cyflawni camau gweithredu yn dilyn y gwaith diweddar a wnaed gennym ar ein Gwerthoedd Seicoleg fel bod ein hadran yn symud ymlaen yn barhaus yn unol â'n gwerthoedd.
Mae gennym gysylltiadau cryf â chwrs hyfforddi Doethuriaeth mewn Seicoleg Glinigol De Cymru, ac rydym yn croesawu hyfforddeion ar leoliad.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
- Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
- 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
• Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol neu cliciwch “Gwneud cais nawr” i’w gweld yn Trac.
Cynhelir y cyfweliadu ar 06/08/24
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Ymarferydd Seicoleg Cofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofa
- Hyfforddiant ar lefel doethuriaeth mewn seicoleg glinigol neu gwnsela, gan gynnwys seicopatholeg, dau neu fwy o therapïau seicolegol gwahanol, a seicoleg ddatblygiadol hyd oes fel y'u hachredir gan Gymdeithas Seicolegol Prydain
- Gwybodaeth am seicometreg, gweinyddiaeth briodol a chyfyngiadau.
- Hyfforddiant ôl-gymhwyso mewn o leiaf un maes sy'n berthnasol i'r swydd
- Hyfforddiant a phrofiad arbenigol ychwanegol
Meini prawf dymunol
- Hyfforddiant ôl-gymhwyso a chymwysterau mewn methodoleg ymchwil, hyfforddiant staff a/neu feysydd eraill seicoleg gymhwyso
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol ac o drin cleientiaid ledled yr amrywiaeth lawn o leoliadau gofal, gan gynnwys cleifion allanol, y gymuned, gofal sylfaenol, a chleifion mewnol
- Profiad o asesiadau seicolegol arbenigol (ôl-gymhwyso) sy'n ymgorffori seicometreg ac asesu gwybyddol
- Profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Profiad o weithio gydag amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid ar hyd llwybr bywyd, gyda'r bobl hyn yn amlygu problemau sy'n adlewyrchu'r ystod lawn o ddifrifoldeb clinigol
- Profiad ôl-gymhwyso o weithio gyda phlant a phobl ifanc a/neu iechyd meddwl
Meini prawf dymunol
- Profiad ôl-gymhwyso o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Profiad o addysgu, hyfforddi a goruchwylio
- Profiad o gymhwyso seicoleg glinigol mewn cyd-destunau diwylliannol gwahanol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Andrea Mowthorpe
- Teitl y swydd
- Lead for Psychology - SCAMHS
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773774
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector