Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Cynorthwyydd Cynnal a Chadw Lled-grefftus
Gradd 3
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 01/08/2025 OHERWYDD CYFNOD SECONDIAD.
OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON.
Gwahoddir ceisiadau am swydd Cynorthwyydd Cynnal a Chadw Lled-grefftus yn nhîm Cynnal a Chadw Gweithredol yr Ystadau ar y safle.
Cyflawni dyletswyddau gweithiwr cynnal a chadw lled-grefftus mewn adran brysur yn yr ysbyty. Bydd hyn yn golygu cynorthwyo'r holl grefftwyr yn ogystal â gweithio ar eich tasgau penodol eich hun a ddyrennir gan uwch-weithwyr y safle.
Gweithio'n rhan o dîm bychan o weithwyr lled-grefftus eraill dan gyfarwyddyd uwchreolwyr, uwch-beirianwyr ac uwch-bersonél.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Cynorthwyydd Lled-grefftus yn rhan o dîm cynnal a chadw yr ystadau. Mae'r tîm hwn yn cynnwys amrywiol grefftwyr sy'n sicrhau bod peiriannau a chyfarpar yn cael eu cynnal i safon briodol i gefnogi adrannau gwasanaethau clinigol yn eu prif dasg o drin cleifion. Bydd yr unigolyn a benodir yn cynorthwyo staff rheolaeth weithredol y safle.
Bydd deiliad y swydd yn rhan annatod o strwythur tîm lleol cryf ar y safle.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
- Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
- Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
- 48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
- Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
- Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 17/07/2024.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y swydd hon.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- City & Guilds/Prentisiaeth neu lefel gyfatebol o brofiad perthnasol mewn disgyblaeth Peirianneg neu Adeiladu
- Yn gallu amlygu gwybodaeth am waith trwsio a chynnal a chadw ym maes adeiladu, peirianneg neu drydan
- Cefndir cadarn o systemau peirianneg
- Ymwybyddiaeth o Iechyd a Diogelwch
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn ysbyty
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith arferol ledled safleoedd yr ysbyty
- Yn gwbl gyfarwydd a Pholisi'r Bwrdd Iechyd ar Amddiffyn Rhag Tan
- Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o ymwybyddiaeth o asbestos, ac yn gwbl gyfarwydd a delio a samplau amheus a gweithio yng nghyffiniau cynnyrch asbestos
Meini prawf dymunol
- NVQ2 mewn Peirianneg
Sgilaiu Iaith
Meini prawf dymunol
- Sgiliau Cymraeg – Lefel 1
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Malcolm Arnold
- Teitl y swydd
- Estates Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773314
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau cymorth neu bob sector