Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 3
Contract
Parhaol
Oriau
Rhan-amser - 22.5 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-ACS197-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
Tref
Hwlffordd
Cyflog
£23,159 - £24,701 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
11/08/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
21/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithiwr Cymorth Ffisiotherapi

Gradd 3

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfle newydd, cyffrous ar gyfer Gweithiwr Cymorth Ffisiotherapi llawn cymhelliant, brwdfrydig ac angerddol yn Sir Benfro.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r brwdfrydedd a'r cymhelliant i ddarparu cymorth ym maes ymyriad therapi cymunedol. Byddwch yn dod yn rhan o'n Tîm Ffisiotherapi Cymunedol prysur a chyfeillgar yn ardal Sir Benfro, gan ddarparu gwasanaeth adsefydlu i oedolion yn yr amgylchedd cymunedol, a'u helpu i weithio tuag at annibyniaeth weithredol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd gennych brofiad o ddefnyddio technegau codi a chario medrus iawn i hwyluso symud cleifion a/neu adsefydlu. Byddwch yn gweithio gydag eraill yn y tîm i drin cleifion, ac yn dilyn cynlluniau triniaeth yn annibynnol.

Byddwch yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys cartrefi'r bobl eu hunain, gofodau adsefydlu ac ysbytai cymunedol.

Rydym yn chwilio am unigolyn gofalgar a chyfeillgar sydd â'r gallu i gyd-dynnu â phobl mewn ffordd aeddfed a chadarnhaol.

Bydd angen i chi allu teithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, geisio am y swydd hon.

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadu ar 21/08/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Rhifedd a llythrennedd hyd at o leiaf lefel TGAU neu gymhwyster cyfatebol
  • NVQ 3 neu ddysgu lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol
  • Tystiolaeth o sylfaen eang o addysg gyffredinol a/neu brofiadau bywyd
  • Sgiliau TG
  • Profiad a gwybodaeth ymarferol a ddatblygwyd trwy gyrsiau byr hyfforddiant mewnol
Meini prawf dymunol
  • ECDL
  • Cymhwyster proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n berthnasol i ymarfer clinigol ac sy'n amlygu tystiolaeth o 60 credyd ar ddysgu lefel 3

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad o wasanaeth ffisiotherapi neu mewn maes gofal iechyd cysylltiedig
  • Parodrwydd i ymgymryd a hyfforddiant perthnasol
  • Sgiliau cyfrifiadur/bysellfwrdd
  • Profiad o weithio ar eich pen eich hun ac yn rhan o dim
Meini prawf dymunol
  • Profiad clinigol ychwanegol neu cysylltiedig a gofal iechyd
  • Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion

Gofynion Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Fiona Davies
Teitl y swydd
Community Team Lead Physiotherapist
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01437 773467
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg