Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Oncoleg, Hematoleg a Gofal Lliniarol
- Gradd
- Band 2
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS172-0724
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg
- Tref
- Hwlffordd
- Cyflog
- £22,720 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/07/2024 23:59
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd
Band 2
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Ward 10 Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn chwilio am unigolion dynamig, llawn cymhelliant sy'n mwynhau gweithio ochr yn ochr ag aelodau'r tîm amlddisgyblaethol mewn amgylchedd heriol ond boddhaus. Mae Ward 10 yn gofalu am gleifion sy’n cael eu trin ar gyfer cyflwr oncoleg neu hematoleg, a chleifion sy’n cyrraedd diwedd eu hoes ac y mae arnynt angen gofal lliniarol.
Rydym yn ardal ward sy'n weithredol iawn o ran annog datblygiad y staff.
Mae swyddi llawn-amser a rhan-amser ar gael. Mae'r shifftiau'n cynnwys diwrnodau a nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16/7/24
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn dîm cefnogol, cyfeillgar a llawn cymhelliant, ac yn ymdrechu i gyflawni gwerthoedd ein Bwrdd Iechyd bob amser.
Rydym yn canolbwyntio yn yr uned ar ddull amlddisgyblaethol cadarn o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'r cleifion sy'n aros gyda ni. Mae'r tîm amlddisgyblaethol yn frwd dros wella'r profiad o fod yn yr ysbyty a chanlyniadau cyffredinol cleifion.
Byddwch yn gofalu bod y cleifion yn cael safonau gofal diogel, unigol eu gogwydd ac effeithiol, a hynny trwy ddilyn cynlluniau gofal ac ymyriadau triniaeth yn ôl cyfarwyddyd y nyrs gofrestredig. Byddwch hefyd yn dysgu cyfathrebu'n effeithiol, a bydd hyn yn cynnwys trafodaethau ag aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol a chynnal athroniaeth y ward.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Lefel dda o addysg gyffredinol.
- Dealltwriaeth o ofynion y rôl.
Meini prawf dymunol
- Yn meddu ar ddyfarniad NVQ Lefel II, neu'n gweithio tuag ato.
- TGAU neu gymwysterau tebyg.
- Profiad blaenorol o weithio mewn ysbyty.
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio yn rhan o dîm
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o weithio mewn lleoliad gofal.
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Emma Jayne Callan
- Teitl y swydd
- Senior Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01437 773310
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector