Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Yr Arweinydd Tîm ar gyfer Nyrsys Ardal
Gradd 7
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi dod ar gael i Nyrs Ardal â chymwysterau a phrofiad addas wneud cais am rôl heriol yr Arweinydd Tîm ar gyfer Nyrsys Ardal.
Rhaid i unrhyw ymgeisydd fod yn Nyrs Gofrestredig â chymhwyster y Dyfarniad Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (ôl-raddedig). Hefyd, rhaid i'r ymgeiswyr naill ai feddu ar gymhwyster Meistr perthnasol neu fod yn barod i fynd ar drywydd y cymhwyster hwnnw. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli ac yn arwain tîm prysur iawn o Nyrsys Ardal, gan sicrhau bod gofal y Tîm Nyrsys Ardal yn cael ei ddarparu mewn modd di-dor a diogel i lwyth achosion mawr o gleifion acíwt a chleifion â salwch cronig, a hynny saith niwrnod yr wythnos. Mae yna ofyniad sylfaenol am ymagwedd hynod o hyblyg a brwdfrydig at y rôl heriol hon, ynghyd â'r gallu i deithio rhwng safleoedd mewn modd amserol.
Ar y dechrau, bydd y swydd yn cael ei lleoli gyda Thîm Nyrsys Ardal Lôn Winch yn Hwlffordd, er y gallai fod yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio ledled Gogledd a De Sir Benfro i ddiwallu anghenion y Gwasanaeth.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Amlygu gwerthoedd y Bwrdd Iechyd, sef urddas, parch, tegwch, uniondeb, gonestrwydd, caredigrwydd a thosturi, gan fod yn agored ac yn ofalus, ym mhob peth a wnewch yn yr amgylchedd gwaith, a sicrhau bod eraill yn amlygu'r un gwerthoedd.
Arddel atebolrwydd o ddydd i ddydd am reoli llwyth gwaith y Nyrsys Ardal, gan gynnwys arwain a datblygu'r sefydliad nyrsio craidd wrth ddarparu gofal nyrsio tosturiol, effeithiol, o'r radd flaenaf, sy'n canolbwyntio ar y claf; a rheoli pobl mewn modd teg, gonest ac ystyriol.
Darparu arweinyddiaeth, cymorth, goruchwyliaeth ac arweiniad nyrsio gweladwy a phroffesiynol (yn unol â safonau'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), ynghyd â chyngor clinigol/ymyriadau ar faterion cymhleth arbenigol yn eich maes, ac ymgymryd â gweithgareddau rheoli a monitro yn unol â gofynion cyfreithiol a phroffesiynol, rheolau statudol a pholisïau'r Bwrdd Iechyd sy'n ymwneud ag ymarfer seiliedig ar dystiolaeth.
Bod yn gyfrifol am reoli'r gyllideb a ddyrennir mewn modd effeithlon, gan ddefnyddio'r tîm nyrsio mewn modd effeithiol, defnyddio'r adnoddau a ddyrennir, a chodi unrhyw bryderon ynghylch gwariant i'r personél priodol mewn modd amserol.
Sicrhau yr eir i'r afael ag anghenion cymhleth cleifion â phatholegau lluosog, ynghyd ag anghenion eu teuluoedd, a hynny mewn modd sensitif ac empathig. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r broses o asesu, gweithredu ac ailwerthuso pecynnau gofal iechyd parhaus.
Cynhelir y cyfweliadau ar 06/08/24
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Nyrs Gofrestredig (Rhan 1)
- Cofrestriad cyfredol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Gradd Baglor (neu brofiad cyfatebol)
- Dyfarniad Ymarfer Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (ôl-raddedig)
- IQT Efydd
- Cymhwyster addysgu/hyfforddi (neu brofiad cyfatebol)
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r rôl
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster rheoli cydnabyddedig
- Cymhwyster arweinyddiaeth cydnabyddedig
- Profiad o arwain tîm
- Gradd meistr mewn pwnc perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad profedig a pherthnasol ar Fand 6 mewn lleoliad cymunedol.
- Profiad priodol yn eich arbenigedd, a'r gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am yr arbenigedd perthnasol hwnnw
- Y gallu i amlygu gwybodaeth gadarn am God y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (2018)
- Profiad ôl-gofrestru profedig a thystiolaeth o gydlynu a rheoli tîm o staff
- Y gallu i amlygu ymwybyddiaeth o faterion a datblygiadau proffesiynol
- Tystiolaeth o sgiliau arwain
- Profiad o weithio mewn amgylchedd amlbroffesiynol
- Profiad o reoli cyllidebau
- Profiad o redeg ward/maes/adran
- Profiad o fentora myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth cyn-gofrestru
- Sgiliau TG
- Y gallu i roi theori ar waith trwy sgiliau myfyriol
- Gwybodaeth dda am ofynion llywodraethu gwybodaeth/diogelu data
- Profiad o reoli staff yn effeithiol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio mewn rôl Band 7
- Dealltwriaeth o brosesau rheoli ariannol a rheoli adnoddau
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Rebecca Morris
- Teitl y swydd
- Clinical Lead Nurse Integrated Community Teams
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07790 978732
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector