Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Bydwreigiaeth
Gradd
Gradd 6
Contract
Cyfnod Penodol: 12 mis (Cynod penodol / secondiad tan 30/09/2025 oherwydd cyfnod mamolaeth)
Oriau
Rhan-amser - 30 awr yr wythnos
Cyfeirnod y swydd
100-NMR230-0624-A
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Canolfan Iechyd Cross Hands
Tref
Cross Hands
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
25/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
02/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Bydwraig (Cymuned)

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

MAE’R SWYDD HON AM GYFNOD PENODOL/SECONDIAD TAN 30/09/2025 OHERWYDD CYFNOD MAMOLAETH

OS OES DIDDORDEB GYDA CHI MEWN CEISIO AM SWYDD SECONDIAD, MAE’N RHAID I CHI GAEL CANIATAD EICH RHEOLWR LLINELL PRESENNOL CYN I CHI GEISIO AM Y SWYDD HON. 

Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Fydwraig weithio yn Nhîm Cymunedol y Gwendraeth yn darparu pob agwedd o ofal Bydwreigiaeth i fenywod a’u teuluoedd yn y gymuned (yn gweithio yn ardaloedd Cross Hands, y Tymbl, Pontyberem a Llannon.

Byddwch yn allweddol wrth ddarparu a chynyddu Gofal dan Arweiniad Bydwragedd a hyrwyddo geni yn y cartref, yn ogystal â chefnogi'r Uned Gofal dan Arweiniad Obstetreg yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Byddwch hefyd yn gydlynydd gofal ar gyfer beichiogrwydd risg uchel, gan weithio'n agos gyda'r timau amlddisgyblaeth i sicrhau gwasanaeth di-dor o ansawdd uchel.

Mae hon yn swydd ran-amser (30 awr yr wythnos) am gyfnod penodol.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Mae bydwraig yn gyfrifol am ei hymarfer ei hun ac felly bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal safon uchel o arbenigedd proffesiynol a sicrhau bod y safon uchaf o ofal bydwreigiaeth yn cael ei rhoi yn ystod y cyfnod cynenedigol, yn ystod yr enedigaeth ac ynystod y cyfnod ôl-enedigol.

Darparu arweinyddiaeth broffesiynol a mentora i fydwragedd llai profiadol a chymorth i gyd-weithwyr mewn tîm amlddisgyblaeth.

Darparu gofal cynenedigol, gofal yn ystod yr enedigaeth, a gofal ôl-enedigol i grŵp diffiniedig o fenywod, babanod a'u teuluoedd yn yr ysbyty ac yn y gymuned.

Cydweithredu a chysylltu â phob aelod o staff, y tîm gofal iechyd sylfaenol, a'r staff meddygol a bydwreigiaeth yn yr uned i geisio meithrin ysbryd tîm a sicrhau parhad gofal.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg, fel ei gilydd, wneud cais.

Cynhelir y cyfweliadau ar 02/08/24

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy;

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Byddwch yn gallu dod o hyd i Swydd ddisgrifiad a Manyleb y Person llawn ynghlwm yn y dogfennau ategol.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.

https://fb.watch/hzQjE8HzTN/

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig Gofrestredig
  • Portffolio Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • Wedi cwblhau rhaglen breceptoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Bydwraig sydd wedi cwblhau'r rhaglen breceptoriaeth
  • Profiad o fentora a datblygu staff
  • Sgiliau TG sylfaenol
  • Yn gallu darparu safon uchel o ofal unigol i gleientiaid yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyfathrebwr effeithiol sydd â sgiliau arwain a rhyngbersonol da
  • Tystiolaeth o'r gallu i gymryd yr awenau yn absenoldeb eich rheolwr llinell uniongyrchol.
  • Amlygu sgiliau bydwreigiaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyfredol
  • Amlygu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd archwilio a pholisi
Meini prawf dymunol
  • ALSO
  • NALS

Sgiliau Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Lynn Smith-Hurley
Teitl y swydd
Clinical and Operational Lead Midwife
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07795 642203
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg