Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Iechyd Meddwl Cymunedol (Oedolion Hyn)
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle wedi codi i weithio yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion Hŷn, a hynny yn ardal hardd Gorllewin Cymru.
Wedi'i leoli naill ai yng Ngogledd Ceredigion neu De Ceredigion. Nodwch ar eich ffurflen gais pa faes/meysydd y mae gennych ddiddordeb mewn gwneud cais amdanynt.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gydgysylltu llwyth gwaith fel rhan o dîm amlddisgyblaethol .
A ydych yn brofiadol neu'n fedrus iawn eisoes yn eich maes ac am gael newid ymarfer neu os ydych yn edrych i gymryd y cam nesaf i'r gymuned i ddatblygu eich gyrfa, byddem yn croesawu'ch cais.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am asesu anghenion gofal ar gyfer oedolion hŷn sy'n profi salwch meddwl yn weithredol ac organig, datblygu rhaglenni gofal (CTP) a gweithredu a gwerthuso'r rhaglenni hyn o ofal ar gyfer llwyth gwaith clinigol diffiniedig.
Rydym yn chwilio am ymarferwyr sy'n frwd dros hyrwyddo lles a hawliau pobl hŷn, sydd â diddordeb mewn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau a chynnal safon uchel o ofal clinigol.
Bydd gennych gyfleoedd sylweddol ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol a bydd goruchwyliaeth glinigol reolaidd ar gael.
Ffefrir orau llawn amser (ond ystyrir oriau rhan amser hefyd)
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon: mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saesneg wneud cais.
Cynhelir y cyfweliadu ar 09/08/2024
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth â’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Byddwch yn gallu dod o hyd i swydd ddisgrifiad a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd a thrwy hynny wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth. Yn ein hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion Cymraeg a nodwyd, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chefnogaeth staff i'ch helpu i gyflawni'r gofynion dymunol lleiaf hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster/Cofrestriad Proffesiynol gan gorff cydnabyddedig e.e. Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig,Therapydd Galwedigaethol, Gweithiwr Cymdeithasol
- Addysg ol-sylfaenol yn y maes ymarfer hyd at lefel diploma ol-raddedig
- Profiad ol-gofrestredig
Meini prawf dymunol
- Graddau perthnasol
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ystod eang o brofiad mewn lleoliad sy'n ymwneud a'r gwasanaeth
- Yn amlygu cyflawniadau o ran datblygu canllawiau safonau/gweithdrefnau gofal
- Yn amlygu gwaith tim effeithiol
- Yn gallu defnyddio sgiliau TG
Meini prawf dymunol
- Yn amlygu profiad o ymchwil ac archwilio
- Profiad ym maes Archwilio Clinigol
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Anne-Marie Bunn
- Teitl y swydd
- Team lead Ceredigion OAMHS
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07976581973
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Fel arall, cysylltwch â Rheolwr Gwasanaeth Oedolion Hŷn Lydia Hayward ar 07786915502
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Nyrsio a bydwreigiaeth neu bob sector