Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Ffisiotherapi
Gradd
Gradd 6
Contract
Parhaol
Oriau
Llawnamser - 37.5 awr yr wythnos (Dydd Llun a Dydd Gwener 08:30 - 16:30)
Cyfeirnod y swydd
100-AHP081-0724
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ward Alun, Hafan Derwen, Caerfyrddin/ Ysbyty Tywysog Philip Llanelli/Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd
Tref
Caerfyrddin neu Lanelli neu Hwlffordd
Cyflog
£35,922 - £43,257 y flwyddyn
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
12/08/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
21/08/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Ffisiotherapydd Arbenigol

Gradd 6

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Mae'r tîm ffisiotherapi cyhyrysgerbydol yn cynnig y cyfle ar gyfer swydd ffisiotherapydd band 6 parhaol llawn-amser. 

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu ar draws Bwrdd Iechyd y Brifysgol, gan gynnwys y tair sir, sef Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Bydd deiliad y swydd wedi'i leoli  naill ai yn Hafan Derwen, Caerfyrddin, Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, neu Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg, Hwlffordd.

Mae'r gwasanaeth cyhyrysgerbydol yn cynnig hydrotherapi, sydd wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, dosbarthiadau ymarfer corff yn y gampfa, ac mae hefyd yn darparu’r rhaglen Escape ar gyfer rheoli cleifion ag Osteoarthritis yn y glun a'r pen-glin. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, ac yn ceisio datblygu cysylltiadau â darparwyr gweithgareddau yn y trydydd sector er mwyn cynnig rhagor o gymorth i’n defnyddwyr gwasanaethau ar ôl eu cwrs adsefydlu.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Yn unol â'i faes clinigol arbenigol diffiniedig, bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm presennol o ffisiotherapyddion sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau adsefydlu cleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd hyn yn golygu gweithio ar y cyd â thimau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol i ddarparu gofal holistaidd.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli ei lwyth achosion ei hun, a fydd yn cynnwys hunanatgyfeiriadau, yn ogystal ag atgyfeiriadau gan feddygon teulu, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ymarferwyr y gwasanaethau cymdeithasol a meddygon ymgynghorol. Bydd yn weithiwr proffesiynol annibynnol sydd â lefel uchel o sgiliau ac arbenigedd clinigol a thechnegol, ac sy'n defnyddio sylfaen dystiolaeth i gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r broses o reoli cleientiaid.

Bydd deiliad y swydd yn cymryd rhan yn y broses datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys addysgu/goruchwylio staff iau a myfyrwyr.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r broses o foderneiddio a datblygu'r gwasanaeth. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan ym mhrosesau archwilio a gwerthuso y gwasanaeth.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth hyblyg saith niwrnod, yn seiliedig ar anghenion y gwasanaeth. Bydd hyn yn ôl trefn rota. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gyfrannu at ddarparu'r gwasanaeth anadlol ar alwad. 

 

 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.

 Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni. 

Cynhelir y cyfweliadau ar 21/08/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • Cofrestriad proffesiynol fel y'i cydnabyddir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
  • Tystiolaeth ol-raddedig o addysg arbenigol
  • Tystiolaeth o DPP
  • Sgiliau TGa
Meini prawf dymunol
  • Cymhwyster ol-raddedig hyd at lefel diploma mewn arbenigedd perthnasol
  • Cwrs Hyfforddi Addysg Glinigol
  • Yn aelod o'r Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
  • Wrthi'n cymryd rhan mewn grwpiau diddordeb arbennig

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad ol-raddedig mewn arbenigedd clinigol perthnasol
  • Wedi cwblhau'r fframwaith cymhwysedd iau
  • Profiad ymarferol hyd at lefel a fyddai'n eich galluogi i gymryd rhan yn y rota anadlol ar alwad
  • Trin therapiwtig ac asesiadau risg
  • Rheoli llwyth gwaith amrywiol gan ddefnyddio proses rhesymu clinigol
  • Gweithio'n rhyng-broffesiynol ac mewn tim
  • Ymwneud yn uniongyrchol a gofalwyr a theuluoedd
  • Tystiolaeth o gefnogi cydymffurfedd y gwasanaeth a gofynion llywodraethu clinigol
  • Profiad o oruchwylio staff
Meini prawf dymunol
  • Profiad o oruchwylio myfyrwyr
  • Trafod arferion gweithio tîm amlddisgyblaethol
  • Profiad o ddatblygu gwasanaeth
  • Profiad o weithio i'r GIG

Gofynion Iaith

Meini prawf dymunol
  • Siaradwr Cymraeg ( Lefel 1)

Arall

Meini prawf hanfodol
  • Tystiolaeth o addysgu/hyfforddiant mewn swydd
  • Agwedd hyblyg er mwyn diwallu anghenion y gwasanaeth
  • Yn barod i gymryd rhan yn y gwasanaeth ar alwad a'r gwasanaeth estynedig
  • Y gallu i deithio rhwng safleoedd ac yn y gymuned mewn modd amserol

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Louise Jones-Evans/ Melissa Young/ Awen Prysor
Teitl y swydd
Clinical Operational lead physiotherapist MSK
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
01267 283086
Gwybodaeth i gefnogi eich cais

[email protected]

[email protected]

Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg