Neidio i'r prif gynnwys
Arhoswch, yn llwytho

Crynodeb o'r swydd

Prif leoliad
Telathrebu
Gradd
Band 2
Contract
Parhaol
Oriau
  • Rhan-amser
  • Gweithio hyblyg
  • Arall
24 awr yr wythnos (Gwaith shifft)
Cyfeirnod y swydd
100-EA023-0624-W
Cyflogwr
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Math o gyflogwr
NHS
Gwefan
Ysbyty Cyffredinol Glangwili a Ysbyty Tywysog Philip
Tref
Caerfyrddin/Llanelli
Cyflog
£22,720 y flwyddyn, pro rata
Cyfnod cyflog
Yn flynyddol
Yn cau
14/07/2024 23:59
Dyddiad y cyfweliad
22/07/2024

Teitl cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo

Gweithredwr Switsfwrdd

Band 2

Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.

Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]

I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs

Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.


 

Trosolwg o'r swydd

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Deleffonydd i weithio 24 awr yr wythnos yn y switsfwrdd prysur yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili a Ysbyty Tywysog Philip.

Prif ddyletswyddau'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm y rheng flaen i weithredu switsfwrdd prysur. Felly, bydd sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol yn ofynnol. Mae gwybodaeth lafar o'r Gymraeg yn hanfodol.

Mae'r sifftiau yn 8 awr yn ôl trefn rota, sy'n cwmpasu gwasanaeth 24/7 trwy gydol y flwyddyn. Mae penwythnosau a gwyliau banc wedi'u cynnwys, a thelir yn ychwanegol am hynny.

Ac yntau'n Deleffonydd, byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnig tipyn o hyblygrwydd o ran yr oriau a weithir er mwyn cyflenwi ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch a gwyliau blynyddol yn yr adran. 

Gweithio i'n sefydliad

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:

Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;

Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;

48 o bractisau cyffredinol (pedwar ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;

Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;

Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.

Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl

Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. 

Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Cynhelir y cyfweliadau ar 22/07/2024.

Manyleb y person

Cymwysterau a Gwybodaeth

Meini prawf hanfodol
  • TGAU neu gymwysterau cyfatebol
  • Yn meddu ar gymhwyster NVQ priodol mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid neu brofiad perthnasol
Meini prawf dymunol
  • NVQ lefel 2 mewn Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Profiad

Meini prawf hanfodol
  • Profiad blaenorol mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
  • Profiad blaenorol mewn amgylchedd sy'n delio a galwadau
Meini prawf dymunol
  • Profiad blaenorol mewn amgylchedd iechyd

Sgiliau Iaith

Meini prawf hanfodol
  • Siaradwr Cymraeg (Level 3)

Bathodynnau ardystio / achredu cyflogwyr

Veteran AwareNo smoking policyCymraegMindful employer.  Being positive about mental health.Disability confident employerCarer Confident -Accomplished - WelshStep into healthCarer Confident -AccomplishedDefence Employer Recognition Scheme (ERS) - GoldCore principlesStonewall 2023 BronzeStonewall Diversity Champion Cymru

Gofynion ymgeisio

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol

Dogfennau i'w lawrlwytho

Gwneud cais ar-lein nawr

Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol

Enw
Kelly Beynon-Thomas
Teitl y swydd
Switchboard Manager
Cyfeiriad ebost
[email protected]
Rhif ffôn
07435 634561
Gwneud cais ar-lein nawrAnfonwch hysbysiadau ataf am swyddi gwag tebyg