Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Y Gweithlu
- Gradd
- Gradd 5
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhannu swydd
- Cyfeirnod y swydd
- 100-AC153-0624
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Hafan Derwen, Parc Dewi Sant
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £28,834 - £35,099 y flwyddyn, pro rata
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 08/07/2024 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 16/07/2024
Teitl cyflogwr
![Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda logo](https://static.trac.jobs/employer-logos/369.png)
Swyddog Ymgysylltu a Chydnabod
Gradd 5
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Bydd gan rôl y Swyddog Ymgysylltu a Chydnabod gyfrifoldeb am gefnogi'r gwaith o weithredu strategaeth y Gweithlu, Datblygu Sefydliadol ac Addysg 2020 yn llwyddiannus, a chyflawni ein Hamcanion Cynllunio Pobl.
Bydd yn llywio meysydd arbenigol ymgysylltu â'r staff a chydnabod staff i symud y broses o drawsnewid diwylliannol cadarnhaol yn ei blaen ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Bydd y rôl yn ennyn diddordeb Hywel Dda mewn gwahanol ffyrdd o gynyddu ymgysylltiad â staff a chydnabod staff ledled y sefydliad, ac yn ei addysgu yn hynny o beth.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd y Swyddog Ymgysylltu a Chydnabod yn gweithio'n ymreolaethol yn rheoli ei lwyth gwaith ei hun i ymgymryd â'r holl ddyletswyddau perthnasol i gefnogi'r agenda ymgysylltu a chydnabod yn y Bwrdd Iechyd. Bydd yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfredol mewn perthynas ag ymgysylltu a
chydnabod i reolwyr a staff yn y sefydliad.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i ddylunio, cynllunio a hwyluso digwyddiadau sy'n meithrin ymddygiadau cadarnhaol ymhlith y staff ac yn sicrhau ymgysylltiad staff.
Bydd yna ddisgwyliad y bydd deiliad y swydd yn mynd ati i chwilio am ffyrdd newydd o feithrin ymgysylltiad â'r staff a'r modd y mae'r sefydliad yn rhoi gwerth ar y gweithlu.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddelfrydol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg a/neu Saesneg geisio am y
swydd hon.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 16.07.2024
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Addysg hyd at lefel Gradd neu lefel gyfatebol o brofiad
- Gwybodaeth ymarferol dda am becynnau Microsoft
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth am systemau a gweithdrefnau adnoddau dynol
- Yn meddu ar gymhwyster CIPD
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur
- Profiad mewn perthynas â chynnal a sefydlu systemau cronfeydd data
- Profiad blaenorol o gyflawni amcanion
- Profiad o gyflawni canlyniadau o fewn amserlenni tyn
- Y gallu i gyflawni canlyniadau cytunedig
Meini prawf dymunol
- Profiad blaenorol o swyddogaeth weinyddol yn y GIG
Arall
Meini prawf hanfodol
- Yn meddu ar agwedd hyblyg at anghenion y gwasanaeth
- Y gallu i weithio mewn modd hyblyg a theithio rhwng safleoedd mewn modd amserol
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Jackie Wright
- Teitl y swydd
- Culture & Workforce Experience Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 07754820380
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Gwasanaethau gweinyddol neu bob sector