Crynodeb o'r swydd
- Prif leoliad
- Strôc
- Gradd
- Gradd 4/Annex 21
- Contract
- Parhaol
- Oriau
- Llawnamser
- Rhan-amser
- Cyfeirnod y swydd
- 100-ACS015-0125-A
- Cyflogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Math o gyflogwr
- NHS
- Gwefan
- Ysbyty Cyffredinol Glangwili
- Tref
- Caerfyrddin
- Cyflog
- £26,928 - £29,551 y flwyddyn (pro rata os rhan amser)
- Cyfnod cyflog
- Yn flynyddol
- Yn cau
- 09/03/2025 23:59
- Dyddiad y cyfweliad
- 19/03/2025
Teitl cyflogwr

Ymarferydd Cynorthwyol – Nyrsio
Gradd 4/Annex 21
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael i Ymarferydd Cynorthwyol Band 4 ymuno â'n tîm tosturiol, cyfeillgar a chefnogol. Mae ward Gwenllian yn ward strôc 20 o welyau sy'n cynnwys pedwar gwely strôc acíwt; mae'r rhain yn welyau cardiaidd wedi'u monitro a dyma lle y caiff thrombolysis ei ddarparu. Mae gennym hefyd 16 o welyau adsefydlu yn dilyn strôc lle mae'r cleifion yn cael triniaeth adsefydlu ar ôl cael strôc.
Mae Ward Gwenllian yn amlygu amgylchedd cefnogol ac anogol sy'n cynnig y cyfle i ddysgu llawer o sgiliau newydd mewn lleoliad acíwt, a hynny gan weithio'n agos iawn ochr yn ochr â'r tîm amlddisgyblaethol sy'n cyfrannu at ofal ac ymyriadau o safon uchel.
Cynhelir y cyfweliadau ar 19/03/2025
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd weithio ochr yn ochr â Chymwyseddau Craidd Ymarferwyr Cynorthwyol Cymru Gyfan.
Yn rhinwedd y rôl, bydd deiliad y swydd yn gwneud y canlynol:
Ysgwyddo'r cyfrifoldeb am elfennau o'r broses asesu cleifion, a gynhelir ar y cyd â'r unigolyn cofrestredig, gan roi rhaglenni gofal ar waith, ynghyd ag addasu rhaglenni gofal fel y dirprwyir gan ymarferydd cofrestredig.
Dyrennir grŵp o gleifion i'r ymarferydd cynorthwyol ofalu amdanynt, yn yr un modd ag y dyrennir cleifion i nyrs gofrestredig. Bydd yr unigolyn cofrestredig goruchwyliol yn ymgymryd ag elfennau gofal sy'n eistedd y tu allan i gwmpas ymarfer Band 4.
Adrodd yn rheolaidd i'r ymarferydd cofrestredig, gan gydnabod ei gyfyngiadau ei hun a gofyn am gyngor os yw'n ansicr.
Gweithio i gefnogi'r tîm amlddisgyblaethol: nyrsys cofrestredig, meddygon a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, i ddarparu gwasanaeth di-dor i gleifion, a hynny dan oruchwyliaeth gyfagos gan nyrs/ymarferydd cofrestredig.
Darparu gofal cyffredinol/penodol, fel y nodir isod, ar gyfer grŵp cleientiaid penodol, a bod yn gymwys i weithio gyda disgyblaethau proffesiynol eraill, gan atgyfeirio cleifion at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i gael eu hasesu a'u trin, neu at asiantaethau eraill, yn ôl y gofyn.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg a / neu Saesneg wneud cais.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu i bron 400,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
4 prif ysbyty (Bronglais, Aberystwyth, Glangwili, Caerfyrddin, Tywysog Philip, Llanelli, ac Llwynhelyg, Hwlffordd).
5 ysbyty cymunedol (Ysbyty Dyffryn Aman ac Ysbyty Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, Ysbyty Tregaron yng Ngheredigion,Ysbyty Dinbych-y-pysgod a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol De Sir Benfro yn Sir Benfro.
Dwy ganolfan gofal integredig (Aberaeron ac Aberteifi, yng Ngheredigion).
Cyfleusterau cymunedol, gan gynnwys:
48 Meddygfa, 49 Deintyddfa, 98 Fferyllfa Gymunedol, 44 Practis Offthalmig Cyffredinol (gan gynnwys gwasanaethau iechyd llygaid a golwg gwan), 38 safle yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gofal o fewn eich cartrefi eich hun
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd-ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar lefel Band 4, ac yn ddelfrydol bydd yr ymgeiswyr ar gyfer y rôl hon wedi cyflawni Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd. Fodd bynnag, anogir ymgeiswyr sydd wedi cofrestru ar y cwrs i gael y cymhwyster Lefel 4 ac sydd wedi cwblhau Modiwl 1 a 2, ac os byddant yn llwyddiannus, bydd yn ofynnol iddynt gyflawni Modiwl 3 a 4 o fewn 12 mis, a chânt eu penodi o dan reolau Atodiad 21.
Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu cefnogi gan gynllun datblygu. , lle bydd 75% o frig Band 4 yn daladwy yn ystod y 12 mis. Ar ôl llwyddo yn y Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, yna bydd deiliad y swydd yn cael ei dalu ar Fand 4 (pwynt isaf y raddfa). Darperir cymorth a goruchwyliaeth er mwyn datblygu'r ymgeisydd llwyddiannus i'r rôl Band 4. Gallai peidio â chyflawni'r cymhwyster yn unol â'r amserlen ddynodedig arwain at adleoli.
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster galwedigaethol lefel 4 mewn pwnc perthnasol cysylltiedig a gofal iechyd neu Tystysgrif mewn Addysg Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd
- TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu uwch neu gymhwyster sgiliau hanfodol cyfatebol lefel 2 neu uwch
- Tystiolaeth o ddatblygiad personol parhaus sy'n berthnasol i'r rol ym maes gofal iechyd
- Yn gallu amlygu dealltwriaeth o God Ymddygiad Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, canllawiau Cymru Gyfan ar gyfer Dirprwyo, a Fframwaith Llywodraethu Ymarferwyr Cynorthwyol Band 4 Cymru Gyfan
- Gwybodaeth glinigol sy'n berthnasol i'r rol
- Yn amlygu dealltwriaeth o bwysigrwydd dilyn gweithdrefnau a chynlluniau triniaeth
- Yn amlygu dealltwriaeth o'r deddfwriaethau sy'n berthnasol i Ddiogelu, e.e. oedolion a plant, Y Ddeddf Galluedd Meddyliol, a threfniadau diogelu wrth amddifadu o ryddid, er mwyn cadw oedolion sydd o dan ei ofal yn ddiogel
Meini prawf dymunol
- Gwybodaeth leol am wasanaethau statudol neu wirfoddol
- Cymhwyster addysgu neu asesu
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad sylweddol a diweddar o ddarparu gofal clinigol perthnasol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu, ynghyd a'r gallu i reoli a leddfu sefyllfaoedd heriol neu fygythiol
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. gofalu am gathetr - gan gynnwys tynnu cathetr
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a chofnodi arsylwadau bywyd a dehongli'r canlyniadau
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. adolygu asesiadau risg
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. monitro a dehongli glwcos gwaed
- Profiad o ymgymryd ag amrywiaeth o sgiliau clinigol sy'n berthnasol i'r swydd yn unol a chwmpas ymarfer y rol a'r fframwaith llywodraethu cenedlaethol, e.e. Profiad o gefnogi nyrs gofrestredig gyda gofal clwyfau
Meini prawf dymunol
- Profiad mewn perthynas ag amrywiaeth o sgiliau clinigol, yn cynnwys gofal lliniarol
- Yn achos rolau cymunedol: profiad o ddarparu gofal mewn lleoliad gofal cymunedol neu ofal sylfaenol
- Rhoi meddyginiaethau trwy'r geg, ar gyfer y croen, yn isgroenol a thrwy fewnanadlu
- Sgiliau o ran gofal clwyfau nad ydynt yn gymhleth
Sgiliau iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kirsty Walker
- Teitl y swydd
- Senior Ward Sister
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 01267227593
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector