Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Technegydd Therapi Galwedigaethol Arbenigol S-CAMHS
Gradd 4
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn bwriadu recriwtio Technegydd Therapi Galwedigaethol Arbenigol wedi'i leoli yn Hwb Llesiant Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin. Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant a gofalgar sy'n teimlo'n angerddol dros weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd. Bydd angen i chi amlygu sgiliau cyfathrebu rhagorol, a mwynhau gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol ac yn annibynnol.
Mae Technegwyr Therapi Galwedigaethol Arbenigol yn staff hanfodol yn y tîm amlddisgyblaethol o ran darparu gofal a chymorth o safon i blant a phobl ifanc. Os ydych yn credu eich bod yn rhagweithiol, ac os ydych yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc, yna dewch i weithio gyda ni; hoffem glywed gennych. Mae'r swydd yn gyfle gwych i weithio yn y gymuned, a byddwch yn cwblhau Diploma Therapi Galwedigaethol Agored yn rhan o'r rôl, sy'n rhagorol ar gyfer datblygu eich gyrfa.
Mae'r gallu i deithio ledled tair sir yn hanfodol.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Rydym yn bwriadu recriwtio unigolyn llawn cymhelliant, gofalgar a chydwybodol sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl, a'r rheiny'n aml yn gymhleth. Byddwch yn rhan o dîm amlddisgyblaethol sy'n datblygu a bydd gennych gysylltiad â chleifion a'u teuluoedd, gweithwyr proffesiynol
eraill o ddisgyblaethau gwahanol, ac asiantaethau partner. Bydd eich gwaith yn y tîm yn cael ei gefnogi'n broffesiynol gan y therapydd galwedigaethol arweiniol, a bydd yna hefyd gyfleoedd o ran cymorth gan gymheiriaid o du gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ledled y gwasanaeth.
Bydd y dyletswyddau'n cynnwys darparu gwasanaethau cymunedol i blant a phobl ifanc, fel y'u dirprwyir gan y Therapydd Galwedigaethol Arweiniol, a gweithio'n rhan o'r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol i ddarparu ymyriadau therapiwtig, fel y'u dirprwyir gan Therapydd Galwedigaethol dynodedig. Addasu'r cynllun triniaeth mewn ymgynghoriad â'r therapydd cyfrifol. Bydd hyn yn cynnwys ymyriadau un i un ac mewn grwpiau. Cefnogi'r Therapydd Galwedigaethol cymwysedig gydag asesiadau Therapi Galwedigaethol safonol, a hynny i lywio'r broses o gynllunio ar gyfer rhyddhau a phontio i'r gymuned.
Byddwch hefyd yn cefnogi'r tîm i ddatblygu gwasanaeth o ansawdd uchel trwy gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ac adolygu gwasanaethau, a gweithio ar y cyd ag asiantaethau partner a sefydliadau'r trydydd sector. Caiff datblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd hyfforddi eu hannog.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 12,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
47 o bractisau cyffredinol (6 ohonynt yn bractisau a reolir), 45 practis deintyddol (gan gynnwys 4 orthodontig), 96 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb y person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cynhelir y cyfweliadau ar 14/08/2024.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Rhifedd a llythrennedd i lefel TGAU o leiaf
- Lefel 4 mewn disgyblaeth iechyd a gofal cymdeithasol berthnasol neu brofiad cyfatebol
- Y gallu a'r parodrwydd i gyflawni'r Diploma Gweithiwr Cymorth Therapi Galwedigaethol Lefel 4
- Gwybodaeth am egwyddorion Therapi Galwedigaethol ac am raddio/ddadansoddi tasgau i wella gweithrediad
- Gwybodaeth am y modd y defnyddir sgiliau hamdden, creadigol a thechnegol mewn ymyriadau un i un ac mewn grwpiau
- Dealltwriaeth o rolau grwpiau staff eraill mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
- Dealltwriaeth o wasanaethau'r sector gwirfoddol
- Sgiliau/cymhwyster TG a chymhwysedd o ran pecynnau meddalwedd
Meini prawf dymunol
- Pasbortau Cymru Gyfan o ran Symud ac Ymdrin a Rheoli Trais ac Ymddygiad Ymosodol
- Cymwysterau proffesiynol, technegol neu academaidd sy'n ymwneud â'r arbenigedd clinigol, h.y. Sgiliau Ymdopi Emosiynol, egwyddorion Therapi Ymddygiad Gwybyddol
- Cyrsiau ychwanegol perthnasol i gefnogi'r gwaith clinigol, h.y. cyfweld ysgogiadol, Therapi sy'n Canolbwyntio ar Atebion
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Ystod o brofiad clinigol o fod yn aelod staff cymorth mewn gwasanaethau therapi
- Profiad o wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol a chymunedol
- Profiad o raddio ac addasu gweithgareddau ar gyfer adsefydlu i hyrwyddo annibyniaeth
- Profiad o weithio mewn tîm
- Profiad o weithio'n annibynnol ar ward a/neu mewn lleoliad cymunedol
- Profiad o weithio gyda grwpiau o gleifion
- Diddordeb mewn/gwybodaeth ymarferol am ystod o sgiliau technegol ac ymarferol
Meini prawf dymunol
- Profiad clinigol ychwanegol neu ym maes gofal iechyd
- Goruchwylio staff cymorth iau
Language Skills
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (Lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Kate Hughes
- Teitl y swydd
- Lead OT
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Rhif ffôn
- 0300 3036146
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector