Crynodeb o'r swydd
Teitl cyflogwr
Ymarferydd Iechyd Meddwl Sylfaenol a Mewngymorth Ysgolion, S-CAMHS
Gradd 6
Mae gwerthoedd Hywel Dda yn adlewyrchu pwy ydym ni a sut yr ydym yn ymddwyn. Rydym yn cyd-weithio’n barhaus i fod y gorau allwn fod wrth i ni ymdrechu i ddatblygu a darparu gwasanaethau rhagorol, gan roi pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy gydol ein proses recriwtio bydd gofyn i chi feddwl am sut y byddech chi’n byw y gwerthoedd hyn tra’n gweithio gyda ni.
Os ydych yn weithiwr Gofal Iechyd proffesiynol cofrestredig sy'n ystyried adleoli i ardal Hywel Dda yng Ngorllewin Cymru, mae croeso i chi gysylltu â'n tim ymgyrchoedd recriwtio yn uniongyrchol drwy [email protected]
I gael gwybod am ein gweithgarwch recriwtio diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook (Swyddi Hywel Dda Jobs), LinkedIn neu ar Twitter @SwyddiHDdaJobs
Sylwer bod ychwanegiad dros dro ar gyfer Bandiau 1,2 a 3 i adlewyrchu ymgorffori'r ychwanegiad i’r cyflog byw, sef £12 yr awr - £23,465 y flwyddyn. Bydd yr ychwanegiad dros dro hwn yn weithredol hyd nes y bydd y codiad cyflog blynyddol ar gyfer 2024/25 wedi’i gadarnhau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag ar ôl 24 awr os derbynir nifer fawr o geisiadau addas. Rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau ystyriaeth am swydd.
Trosolwg o'r swydd
Mae'r swydd hon yn swydd Cyfnod Penodol / Secondiad tan 30/09/2025
Os ydych yn gyflogai i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn gwneud cais am secondiad i'r swydd hon, bydd angen i'ch rheolwr presennol gytuno i'r secondiad cyn i chi gyflwyno eich cais.
A ydych yn teimlo'n angerddol ynghylch cefnogi plant a phobl ifanc i reoli'r heriau emosiynol ac iechyd meddwl y maent yn eu hwynebu yn y byd sydd ohoni? A ydych erioed wedi dymuno y gallech wneud gwahaniaeth yn gynnar ym mywyd plentyn neu berson ifanc i'w alluogi i ffynnu a thyfu?
Mae cyfle cyffrous wedi dod ar gael yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed (S-CAMHS) i ymuno â gwasanaeth iechyd meddwl amlddisgyblaethol dynamig, sy'n tyfu, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Sir Gaerfyrddin), a hynny
mewn rôl cyfnod penodol am 12 mis.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Sylfaenol. Mae hyn yn ymgorffori dyletswyddau ym meysydd Iechyd Meddwl Sylfaenol a Mewngymorth Ysgolion.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â chyd-weithwyr, ac yn annibynnol, i gynnal asesiadau iechyd meddwl a darparu ymyriadau i blant a phobl ifanc yn rhan o Fesurau Iechyd Meddwl 2010 Llywodraeth Cymru.
Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth uniongyrchol, yn ogystal â chysylltu plant a phobl ifanc â ffynonellau cymorth eraill a gweithgareddau buddiol yn y gymuned er mwyn bod o fudd i'w hiechyd emosiynol a'u hiechyd meddwl.
Bydd deiliad y swydd yn cynnal cysylltiadau uniongyrchol ag ysgolion i gynnal ymgyngoriadau a hyfforddiant a fydd yn sicrhau y nodir cymorth yn gynnar. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio mewn modd hyblyg yn rhan o dîm i ofalu bod gwasanaeth rhagorol yn cael ei ddarparu, gwasanaeth sy'n cynnwys gweithio ar benwythnosau, lle bo gofyn, i sicrhau hygyrchedd a pharhad y gwasanaeth a ddarperir.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymarferwyr cymwys llawn cymhelliant sydd â phrofiad perthnasol ddatblygu eu profiad a'u sgiliau clinigol ym maes iechyd meddwl plant a'r glasoed. Nid yw profiad ym maes y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol i Blant a'r Glasoed yn ofynnol, a byddem yn annog diddordeb gan amrywiaeth o ymgeiswyr sydd â phrofiad perthnasol.
Bydd yna gyfleoedd rhagorol ar gael ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, a bydd deiliad y swydd yn destun goruchwyliaeth reoli a chlinigol.
Gweithio i'n sefydliad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw cynllunydd a darparwr gwasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a’r siroedd cyfagos. Mae ein 11,000 o staff yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, mewn ysbytai, iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer tua 384,000 o bobl ar draws chwarter ehangdir Cymru. Gwnawn hyn mewn partneriaeth a’n 3 awdurdod lleol a chydweithwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnwys ein gwirfoddolwyr, drwy:
Pedwar prif ysbyty: Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn Aberystwyth, Ysbyty Cyffredinol Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli a Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd;
Saith ysbyty cymunedol: Dyffryn Aman a Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin; Tregaron, Aberaeron ac Aberteifi yng Ngheredigion; a Chanolfan Adnoddau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysbyty Dinbych-y-pysgod a De Sir Benfro yn Sir Benfro;
48 o bractisau cyffredinol (chwech ohonynt yn bractisau a reolir), 47 practis deintyddol (gan gynnwys tri orthodontig), 99 o fferyllfeydd cymunedol, 44 o bractisau offthalmig cyffredinol (43 yn darparu Archwiliad Iechyd Llygaid Cymru a 34 o wasanaethau golwg gwan) ac 17 o ddarparwyr gofal cartref yn unig ac 11 canolfannau iechyd;
Lleoliadau niferus yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl ac anableddau dysgu;
Gwasanaethau tra arbenigol a thrydyddol a gomisiynir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, cydbwyllgor sy'n cynrychioli 7 bwrdd iechyd ledled Cymru.
Swydd ddisgrifiad a phrif gyfrifoldebau manwl
Gellir dod o hyd i ddisgrifiad swydd llawn a manyleb person ynghlwm yn y dogfennau ategol ar y tudalen hon.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon; mae croeso i siaradwyr Cymraeg a/neu Saeneg wneud cais.
Cyfweliadau i'w cynnal ar 15/08/2024
Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymedig i gefnogi ei staff i gofleidio'r angen am ddwyieithrwydd, gan felly wella profiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaethau. Yn rhan o'n hymrwymiad i gynyddu nifer y staff sy'n gallu cyfathrebu yn Gymraeg â chleifion a gweithwyr proffesiynol, rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Os nad ydych yn bodloni'r gofynion a nodir o ran y Gymraeg, mae'r Bwrdd Iechyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau dysgu a chymorth i staff i'ch helpu i fodloni'r gofynion dymunol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Mynediad ar unwaith i’n budd llesiant ariannol – Wagestream. Mae Wagestream yn adnodd ar gyfer bywyd bob dydd sy’n eich caniatáu i gael eich talu eich ffordd eich hun, a olrain eich cyflog mewn amser real, ffrydio hyd at 50% o’r cyflog rydych wedi ennill yn barod, dysgu awgrymiadau hawdd i reoli eich arian yn well ac arbed eich tâl yn syth o’ch cyflog.
Manyleb y person
Cymwysterau a Gwybodaeth
Meini prawf hanfodol
- Cymhwyster proffesiynol (un neu ragor o'r canlynol): Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), Nyrs Gofrestredig (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth), Nyrs Gofrestredig ar gyfer Anableddau Dysgu (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, Gradd neu Ddiploma mewn Gwaith Cymdeithasol (y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal neu Gyngor Gofal Cymru, Gradd neu Ddiploma mewn Therapi Galwedigaethol (yn gofrestredig gyda'r Cyngor Proffesiynol Iechyd a Gofal),Cymwysterau lefel ôl-raddedig neu brofiad cyfatebol, Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Postgraduate level qualifications or equivalent experience.
- Evidence of continuing professional development
Meini prawf dymunol
- Cymhwyster ychwanegol mewn cymhwyster therapiwtig Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)/Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT)/Therapi Systemig
- Gwybodaeth fanwl am y sector gofal sylfaenol a’i systemau, a dealltwriaeth sicr ohono
Profiad
Meini prawf hanfodol
- Profiad o weithio mewn Tîm Amlddisgyblaethol ym maes Gofal Sylfaenol neu S-CAMHS Cymunedol/lleoliad Iechyd Meddwl i Oedolion
- Yn meddu ar dystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Profiad o weithio mewn tîm ac o waith rhyngasiantaethol
Meini prawf dymunol
- Profiad o weithio ym maes S-CAMHS neu'r gwasanaethau plant
- Cymhwyster addysgu neu brofiad o addysgu
- Cymhwyster neu brofiad o ran gwaith grŵp
Sgiliau Iaith
Meini prawf dymunol
- Siaradwr Cymraeg (lefel 1)
Gofynion ymgeisio
Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol priodol yn y DU.
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2020 a bydd angen cyflwyno Datgeliad i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol
Dogfennau i'w lawrlwytho
Rhagor o fanylion / cyswllt ar gyfer ymweliadau anffurfiol
- Enw
- Ashley Lewis-Walters
- Teitl y swydd
- Primary Mental Health Service Manager
- Cyfeiriad ebost
- [email protected]
- Gwybodaeth i gefnogi eich cais
Fel arall cysylltwch ag
Suzan Attwood
Arweinydd y Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol a Mewngymorth Ysgolion
Sir Gaerfyrddin
Rhestr swyddi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Proffesiynau perthynol i iechyd neu bob sector